Old/New Testament
32 Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun. 2 Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw. 3 A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog. 4 Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran. 5 Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigofaint ef. 6 Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi. 7 Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb. 8 Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall. 9 Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn. 10 Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl. 11 Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau. 12 Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef: 13 Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: Duw sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn. 14 Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi. 15 Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru. 16 Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,) 17 Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl. 18 Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i. 19 Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion. 20 Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf. 21 Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn. 22 Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.
33 Oherwydd paham, Job, clyw, atolwg, fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau. 2 Wele, yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau. 3 O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau; a’m gwefusau a adroddant wybodaeth bur. 4 Ysbryd Duw a’m gwnaeth i; ac anadl yr Hollalluog a’m bywiocaodd i. 5 Os gelli, ateb fi: ymbaratoa, a saf o’m blaen i. 6 Wele fi, yn ôl dy ddymuniad di, yn lle Duw: allan o’r clai y torrwyd finnau. 7 Wele, ni’th ddychryna fy arswyd i, ac ni bydd fy llaw yn drom arnat. 8 Dywedaist yn ddiau lle y clywais i, a myfi a glywais lais dy ymadroddion: 9 Pur ydwyf fi heb gamwedd: glân ydwyf, ac heb anwiredd ynof. 10 Wele, efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo. 11 Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion; y mae yn gwylied fy holl lwybrau. 12 Wele, yn hyn nid ydwyt gyfiawn. Mi a’th atebaf, mai mwy ydyw Duw na dyn. 13 Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o’i weithredoedd. 14 Canys y mae Duw yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn. 15 Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely; 16 Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt: 17 I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn. 18 Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a’i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf. 19 Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef â gofid caled: 20 Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara, a’i enaid fwyd blasus. 21 Derfydd ei gnawd ef allan o olwg: saif ei esgyrn allan, y rhai ni welid o’r blaen. 22 Nesáu y mae ei enaid i’r bedd, a’i fywyd i’r dinistrwyr. 23 Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb: 24 Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i’r clawdd: myfi a gefais iawn. 25 Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid. 26 Efe a weddïa ar Dduw, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder. 27 Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb, Mi a bechais, ac a ŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi; 28 Efe a wared ei enaid ef rhag myned i’r clawdd, a’i fywyd a wêl oleuni. 29 Wele, hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn, 30 I ddwyn ei enaid ef o’r pwll, i’w oleuo â goleuni y rhai byw. 31 Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf. 32 Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawnhau di. 33 Onid e, gwrando arnaf fi: bydd ddistaw, a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb.
14 Adigwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd. 2 Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau’r Cenhedloedd, ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr. 3 Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt. 4 Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda’r Iddewon, a rhai gyda’r apostolion. 5 A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a’r Iddewon, ynghyd â’u llywodraethwyr, i’w hamherchi hwy, ac i’w llabyddio, 6 Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i’r wlad oddi amgylch: 7 Ac yno y buant yn efengylu.
8 Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed. 9 Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd, 10 A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd. 11 A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom. 12 A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf. 13 Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i’r pyrth, ac a fynasai gyda’r bobl aberthu. 14 A’r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain, 15 A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi’r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynddynt: 16 Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain. 17 Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd. 18 Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.
19 A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; ac wedi llabyddio Paul, a’i llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw. 20 Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o’i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i’r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe. 21 Ac wedi iddynt bregethu’r efengyl i’r ddinas honno, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia, 22 Gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, a’u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw. 23 Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a’u gorchmynasant hwynt i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo. 24 Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia. 25 Ac wedi pregethu’r gair yn Perga, hwy a ddaethant i waered i Attalia: 26 Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o’r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i’r gorchwyl a gyflawnasant. 27 Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i’r Cenhedloedd ddrws y ffydd. 28 Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda’r disgyblion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.