Old/New Testament
30 Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i’w gosod gyda chŵn fy nefaid. 2 I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy. 3 Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i’r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt: 4 Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt. 5 Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;) 6 I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau. 7 Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl. 8 Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na’r ddaear oeddynt. 9 Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt. 10 Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb. 11 Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a’m cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i. 12 Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i’m herbyn ffyrdd eu dinistr. 13 Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt. 14 Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith. 15 Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl. 16 Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof. 17 Y nos y tyllir fy esgyrn o’m mewn: a’m gïau nid ydynt yn gorffwys. 18 Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a’m hamgylcha fel coler fy mhais. 19 Efe a’m taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw. 20 Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf. 21 Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law. 22 Yr wyt yn fy nyrchafu i’r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd. 23 Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw. 24 Diau nad estyn ef law i’r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef. 25 Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog? 26 Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth. 27 Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a’m rhagflaenasant. 28 Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa. 29 Yr ydwyf yn frawd i’r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys. 30 Fy nghroen a dduodd amdanaf, a’m hesgyrn a losgasant gan wres. 31 Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a’m horgan fel llais rhai yn wylo.
31 Myfi a wneuthum amod â’m llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn? 2 Canys pa ran sydd oddi wrth Dduw oddi uchod? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o’r uchelder? 3 Onid oes dinistr i’r anwir? a dialedd dieithr i’r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd? 4 Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre? 5 Os rhodiais mewn oferedd, ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo; 6 Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned Duw wybod fy mherffeithrwydd. 7 Os gwyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd; a myned o’m calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo: 8 Yna heuwyf fi, a bwytaed arall; ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i. 9 Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog; 10 Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi. 11 Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i’w gosbi gan farnwyr. 12 Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth. 13 Os diystyrais achos fy ngwas a’m gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi; 14 Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw? a phan ymwelo efe, pa beth a atebaf iddo? 15 Onid yr hwn a’m gwnaeth i yn y groth, a’i gwnaeth yntau? ac onid yr un a’n lluniodd yn y bru? 16 Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd, ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio; 17 Ac os bwyteais fy mwyd yn unig, ac oni fwytaodd yr amddifad ohono; 18 (Canys efe a gynyddodd gyda mi, fel gyda thad, o’m hieuenctid; ac o groth fy mam mi a’i tywysais hi;) 19 Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a’r anghenog heb wisg: 20 Os ei lwynau ef ni’m bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i; 21 Os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad, pan welwn fy nghymorth yn y porth: 22 Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal. 23 Canys ofn dinistr Duw oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef. 24 Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt; 25 Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i’m llaw gael llawer; 26 Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a’r lleuad yn cerdded yn ddisglair; 27 Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw: 28 Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn Dduw uchod. 29 Os llawenychais i am drychineb yr hwn a’m casâi, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo: 30 (Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.) 31 Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o’i gnawd ef! ni ddigonir ni. 32 Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i’r fforddolion. 33 Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes; 34 A ofnais i dyrfa luosog, neu a’m dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o’m drws? 35 O am un a’m gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i’r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr. 36 Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi. 37 Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato. 38 Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-wylo; 39 Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef: 40 Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.
26 Ha wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, a’r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon. 27 Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem, a’u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth, gan ei farnu ef, a’u cyflawnasant. 28 Ac er na chawsant ynddo ddim achos angau, hwy a ddymunasant ar Peilat ei ladd ef. 29 Ac wedi iddynt gwblhau pob peth a’r a ysgrifenasid amdano ef, hwy a’i disgynasant ef oddi ar y pren, ac a’i dodasant mewn bedd. 30 Eithr Duw a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw: 31 Yr hwn a welwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl. 32 Ac yr ydym ni yn efengylu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hon i ni eu plant hwy, gan iddo atgyfodi’r Iesu: 33 Megis ag yr ysgrifennwyd yn yr ail Salm, Fy Mab i ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais. 34 Ac am iddo ei gyfodi ef o’r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd. 35 Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn Salm arall, Ni adewi i’th Sanct weled llygredigaeth. 36 Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth: 37 Eithr yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth. 38 Am hynny bydded hysbys i chwi, ha wŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau: 39 A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau y rhai ni allech trwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt. 40 Gwyliwch gan hynny na ddêl arnoch y peth a ddywedwyd yn y proffwydi; 41 Edrychwch, O ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.
42 A phan aeth yr Iddewon allan o’r synagog, y Cenhedloedd a atolygasant gael pregethu’r geiriau hyn iddynt y Saboth nesaf. 43 Ac wedi gollwng y gynulleidfa, llawer o’r Iddewon ac o’r proselytiaid crefyddol a ganlynasant Paul a Barnabas; y rhai gan lefaru wrthynt, a gyngorasant iddynt aros yng ngras Duw.
44 A’r Saboth nesaf, yr holl ddinas agos a ddaeth ynghyd i wrando gair Duw. 45 Eithr yr Iddewon, pan welsant y torfeydd, a lanwyd o genfigen, ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul, gan wrthddywedyd a chablu. 46 Yna Paul a Barnabas a aethant yn hy, ac a ddywedasant, Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf: eithr oherwydd eich bod yn ei wrthod, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, wele, yr ydym yn troi at y Cenhedloedd. 47 Canys felly y gorchmynnodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd, Mi a’th osodais di yn oleuni i’r Cenhedloedd, i fod ohonot yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear. 48 A’r Cenhedloedd pan glywsant, a fu lawen ganddynt, ac a ogoneddasant air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol, a gredasant. 49 A gair yr Arglwydd a daenwyd trwy’r holl wlad. 50 A’r Iddewon a anogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus, a phenaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a’u bwriasant hwy allan o’u terfynau. 51 Eithr hwy a ysgydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwynt, ac a ddaethant i Iconium. 52 A’r disgyblion a gyflawnwyd o lawenydd, ac o’r Ysbryd Glân.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.