Old/New Testament
8 Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf? 3 A ŵyra Duw farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder? 4 Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd; 5 Os tydi a foregodi at Dduw, ac a weddïi ar yr Hollalluog; 6 Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus. 7 Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr. 8 Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt: 9 (Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:) 10 Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon? 11 A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr? 12 Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn. 13 Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng Duw dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr: 14 Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef. 15 Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery. 16 Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan. 17 Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig. 18 Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais. 19 Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill. 20 Wele, ni wrthyd Duw y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus; 21 Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd. 22 A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.
9 Yna Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? 3 Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil. 4 Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd? 5 Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint. 6 Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle, fel y cryno ei cholofnau hi. 7 Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr. 8 Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr. 9 Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau. 10 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif. 11 Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef. 12 Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur? 13 Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder. 14 Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef? 15 I’r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â’m barnwr. 16 Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd. 17 Canys efe a’m dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos. 18 Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a’m lleinw â chwerwder. 19 Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi? 20 Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn. 21 Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes. 22 Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol. 23 Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed. 24 Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe? 25 A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni. 26 Aethant heibio megis llongau buain; megis yr eheda eryr at ymborth. 27 Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf: 28 Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion. 29 Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer? 30 Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân; 31 Eto ti a’m trochi yn y pwll; a’m dillad a’m ffieiddiant. 32 Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn. 33 Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau. 34 Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi: 35 Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.
10 Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf. 2 Dywedaf wrth Dduw, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi. 3 Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol? 4 Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di? 5 A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr, 6 Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod? 7 Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o’th law di. 8 Dy ddwylo di a’m gweithiasant, ac a’m cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt. 9 Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i’r pridd drachefn? 10 Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws? 11 Ti a’m gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a’m diffynnaist i ag esgyrn ac â giau. 12 Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd. 13 A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi. 14 Os pechaf, ti a’m gwyli, ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd. 15 Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd; 16 Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi. 17 Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn. 18 Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth? O na buaswn farw, ac na’m gwelsai llygad! 19 Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd. 20 Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig; 21 Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau; 22 Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.
26 Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua’r deau, i’r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa, yr hon sydd anghyfannedd. 27 Ac efe a gyfododd, ac a aeth. Ac wele, gŵr o Ethiopia, eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, yr hwn a ddaethai i Jerwsalem i addoli; 28 Ac oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen y proffwyd Eseias. 29 A dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, Dos yn nes, a glŷn wrth y cerbyd yma. 30 A Philip a redodd ato, ac a’i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias; ac a ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? 31 Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef. 32 A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau: 33 Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymaith: eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear. 34 A’r eunuch a atebodd Philip, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae’r proffwyd yn dywedyd hyn? amdano’i hun, ai am ryw un arall? 35 A Philip a agorodd ei enau, ac a ddechreuodd ar yr ysgrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Iesu. 36 Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr. A’r eunuch a ddywedodd, Wele ddwfr; beth sydd yn lluddias fy medyddio? 37 A Philip a ddywedodd, Os wyt ti yn credu â’th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw. 38 Ac efe a orchmynnodd sefyll o’r cerbyd: a hwy a aethant i waered ill dau i’r dwfr, Philip a’r eunuch; ac efe a’i bedyddiodd ef. 39 A phan ddaethant i fyny o’r dwfr, Ysbryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr eunuch ef mwyach: ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen. 40 Eithr Philip a gaed yn Asotus: a chan dramwy, efe a efengylodd ym mhob dinas hyd oni ddaeth efe i Cesarea.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.