Old/New Testament
5 Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o’r saint y troi di? 2 Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth. 3 Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio: ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth. 4 Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd. 5 Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a’r sychedig a lwnc eu cyfoeth. 6 Er na ddaw cystudd allan o’r pridd, ac na flagura gofid allan o’r ddaear: 7 Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny. 8 Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar Dduw y rhoddwn fy achos: 9 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi: 10 Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd: 11 Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth. 12 Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben. 13 Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir. 14 Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos. 15 Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn. 16 Felly y mae gobaith i’r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn. 17 Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog. 18 Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a’i ddwylo ef a iachânt. 19 Mewn chwech o gyfyngderau efe ’th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi. 20 Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf. 21 Rhag ffrewyll tafod y’th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo. 22 Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear. 23 Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi. 24 A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â’th drigfa, ac ni phechi. 25 A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had, a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear. 26 Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd, tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser. 27 Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.
6 A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau! 3 Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf. 4 Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn. 5 A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant? 6 A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy? 7 Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi. 8 O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl! 9 Sef rhyngu bodd i Dduw fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a’m torri ymaith. 10 Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd. 11 Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl? 12 Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres? 13 Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf? 14 I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog. 15 Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd; 16 Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt: 17 Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o’u lle. 18 Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir. 19 Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt. 20 Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant. 21 Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch. 22 A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi? 23 Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn? 24 Dysgwch fi, a myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais. 25 Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi? 26 Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt? 27 Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill. 28 Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd. 29 Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn. 30 A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?
7 Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog? 2 Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith: 3 Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi. 4 Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd. 5 Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd. 6 Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith. 7 Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach. 8 Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf. 9 Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach. 10 Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy. 11 Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid. 12 Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf? 13 Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan; 14 Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau: 15 Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl. 16 Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau. 17 Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno? 18 Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment? 19 Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn? 20 Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun? 21 A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.
8 A Saul oedd yn cytuno i’w ladd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem: a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria, ond yr apostolion. 2 A gwŷr bucheddol a ddygasant Steffan i’w gladdu, ac a wnaethant alar mawr amdano ef. 3 Eithr Saul oedd yn anrheithio’r eglwys, gan fyned i mewn i bob tŷ, a chan lusgo allan wŷr a gwragedd, efe a’u rhoddes yng ngharchar. 4 A’r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair. 5 Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt. 6 A’r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed ohonynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur. 7 Canys ysbrydion aflan, gan lefain â llef uchel, a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt; a llawer yn gleifion o’r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd. 8 Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno. 9 Eithr rhyw ŵr a’i enw Simon, oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr: 10 Ar yr hwn yr oedd pawb, o’r lleiaf hyd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn. 11 Ac yr oeddynt â’u coel arno, oherwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion. 12 Eithr pan gredasant i Philip, yn pregethu’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd. 13 A Simon yntau hefyd a gredodd; ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip: a synnodd arno wrth weled yr arwyddion a’r nerthoedd mawrion a wneid.
14 A phan glybu’r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan: 15 Y rhai wedi eu dyfod i waered, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân. 16 (Canys eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt; ond yr oeddynt yn unig wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu.) 17 Yna hwy a ddodasant eu dwylo arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân. 18 A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylo’r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân, efe a gynigiodd iddynt arian, 19 Gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Ysbryd Glân. 20 Eithr Pedr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian. 21 Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw. 22 Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, a faddeuir i ti feddylfryd dy galon. 23 Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd. 24 A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch. 25 Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi’r Samariaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.