Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Nehemeia 4-7

Pan glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu y mur, efe a gynddeiriogodd ynddo, ac a lidiodd yn ddirfawr, ac a watwarodd yr Iddewon. Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a llu Samaria, ac a ddywedodd, Beth y mae yr Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur? a adewir iddynt hwy? a aberthant? a orffennant mewn diwrnod? a godant hwy y cerrig o’r tyrrau llwch, wedi eu llosgi? A Thobeia yr Ammoniad oedd yn ei ymyl, ac efe a ddywedodd, Er eu bod hwy yn adeiladu, eto ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerrig hwynt. Gwrando, O ein Duw; canys yr ydym yn ddirmygus: dychwel hefyd eu gwaradwydd ar eu pennau hwynt, a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed: Ac na orchuddia eu hanwiredd hwynt, ac na ddileer eu pechod hwynt o’th ŵydd di: canys digiasant dydi gerbron yr adeiladwyr. Felly nyni a adeiladasom y mur: a chyfannwyd yr holl fur hyd ei hanner: canys yr oedd gan y bobl galon i weithio.

Ond pan glybu Sanbalat, a Thobeia, a’r Arabiaid, a’r Ammoniaid, a’r Asdodiaid, gwbl gyweirio muriau Jerwsalem, a dechrau cau yr adwyau; yna y llidiasant yn ddirfawr: A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem, ac i’w rhwystro. Yna y gweddiasom ar ein Duw, ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nos, o’u plegid hwynt. 10 A Jwda a ddywedodd, Nerth y cludwyr a wanhaodd, a phridd lawer sydd, fel na allwn ni adeiladu y mur. 11 A’n gwrthwynebwyr a ddywedasant, Ni chânt wybod, na gweled, nes i ni ddyfod i’w mysg hwynt, a’u lladd, a rhwystro eu gwaith hwynt. 12 A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt, dywedasant wrthym ddengwaith, O’r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni, y byddant arnoch chwi.

13 Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf, o’r tu ôl i’r mur, ac yn y lleoedd uchaf; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â’u cleddyfau, â’u gwaywffyn, ac â’u bwâu. 14 A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai. 15 A phan glybu ein gelynion fod y peth yn hysbys i ni, Duw a ddiddymodd eu cyngor hwynt; a ninnau oll a ddychwelasom at y mur, bawb i’w waith. 16 Ac o’r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a’u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a’r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda. 17 Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a’r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac â’r llaw arall yn dal arf. 18 Canys pob un o’r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun, ac yn adeiladu: a’r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i.

19 A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd. 20 Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn, yno ymgesglwch atom. Ein Duw ni a ymladd drosom. 21 Felly yr oeddem ni yn gweithio yn y gwaith: a’u hanner hwynt yn dal gwaywffyn, o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y sêr. 22 Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl, Lletyed pob un â’i was yn Jerwsalem, fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos, a’r dydd mewn gwaith. 23 Felly myfi, a’m brodyr, a’m gweision, a’r gwylwyr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad, ond a ddiosgai pob un i’w golchi.

Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a’u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr. Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a’n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw. Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a’n gwinllannoedd, a’n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn. Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a’n gwinllannoedd. Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a’n merched yn weision, ac y mae rhai o’n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i’w rhyddhau; canys gan eraill y mae ein meysydd a’n gwinllannoedd hyn.

Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a’r geiriau hyn. Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a’r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd. A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr. Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i’r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb. A mi a ddywedais, Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein Duw ni, o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion? 10 Myfi hefyd, a’m brodyr, a’m llanciau, ydym yn echwynno iddynt arian ac ŷd: peidiwn, atolwg, â’r ocraeth yma. 11 Rhoddwch atolwg, iddynt heddiw eu meysydd, eu gwinllannoedd, a’u holewyddlannoedd, a’u tai drachefn; a chanfed ran yr arian, a’r ŷd, y gwin, a’r olew, yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt. 12 Hwythau a ddywedasant, Nyni a’u rhoddwn drachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru. Yna y gelwais yr offeiriaid, ac a’u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn. 13 A mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr ysgydwo Duw bob gŵr o’i dŷ, ac o’i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A’r holl gynulleidfa a ddywedasant, Amen: ac a folianasant yr Arglwydd. A’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.

14 Ac o’r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda, o’r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin, sef deuddeng mlynedd, ni fwyteais i na’m brodyr fara y tywysog. 15 Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasai o’m blaen i, fuasent drymion ar y bobl, ac a gymerasent ganddynt fara a gwin, heblaw deugain sicl o arian; eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly, rhag ofn Duw. 16 Eithr myfi a gyweiriais ran yng ngwaith y mur hwn, ac ni phrynasom un maes: a’m holl weision i a ymgynullasant yno at y gwaith. 17 Ac yr oedd ar fy mwrdd i, o Iddewon ac o swyddogion, ddengwr a saith ugain, heblaw y rhai oedd yn dyfod atom ni o’r cenhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch. 18 A’r hyn a arlwyid beunydd oedd un ych, chwech o ddefaid dewisol, ac adar wedi eu paratoi i mi; a phob deng niwrnod y rhoddid gwin o bob math, yn ddiamdlawd: ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog; canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl yma. 19 Cofia fi, O fy Nuw, er lles i mi, yn ôl yr hyn oll a wneuthum i’r bobl hyn.

Aphan glybu Sanbalat, a Thobeia, a Gesem yr Arabiad, a’r rhan arall o’n gelynion, adeiladu ohonof fi y mur, ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo; (er na osodaswn i y pryd hwnnw y dorau ar y pyrth;) Yna yr anfonodd Sanbalat a Gesem ataf, gan ddywedyd, Tyred, ac ymgyfarfyddwn ynghyd yn un o’r pentrefi yng ngwastadedd Ono. Ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur niwed i mi. Minnau a anfonais genhadau atynt hwy, gan ddywedyd, Gwaith mawr yr ydwyf fi yn ei wneuthur; oherwydd hynny ni allaf ddyfod i waered: paham y safai y gwaith, pan ymadawn ag ef, a dyfod i waered atoch chwi? Eto hwy a anfonasant ataf fi yn y wedd hon bedair gwaith; ac yn y modd hwnnw yr atebais hwynt. Yna Sanbalat a anfonodd ei was ataf fi y bumed waith yr un ffunud, â llythyr agored yn ei law: Ynddo yr oedd yn ysgrifenedig, Ymysg y cenhedloedd y mae y gair, a Gasmu sydd yn dywedyd, dy fod di a’r Iddewon yn amcanu gwrthryfela: oherwydd hynny dy fod di yn adeiladu y mur, fel y byddit frenin arnynt, yn ôl y geiriau hyn; A’th fod dithau hefyd wedi gosod proffwydi i bregethu amdanat yn Jerwsalem, gan ddywedyd, Y mae brenin yn Jwda. Ac yn awr y fath ymadroddion â hyn a glyw y brenin: gan hynny tyred yn awr, ac ymgynghorwn ynghyd. Yna yr anfonais ato, gan ddywedyd, Ni ddarfu yn ôl yr ymadroddion hyn yr ydwyt ti yn eu dywedyd: ond o’th galon dy hun yr ydwyt yn eu dychmygu hwynt. Oblegid hwynt‐hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni, gan ddywedyd, Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith, fel nas gwneir ef. Gan hynny cryfha yn awr, O Dduw, fy nwylo i. 10 A mi a ddeuthum i dŷ Semaia mab Delaia, mab Mehetabeel, yr hwn oedd wedi cau arno; ac efe a ddywedodd, Cyfarfyddwn yn nhŷ Dduw, a chaewn ddrysau y deml: canys y maent yn dyfod i’th ladd di; a lliw nos y deuant i’th ladd di. 11 Yna y dywedais, a ffy gŵr o’m bath i? neu pwy sydd fel myfi yr hwn a elai i’r deml, fel y byddai byw? Nid af i mewn. 12 Ac wele, gwybûm nad Duw a’i hanfonasai ef; ond llefaru ohono ef y broffwydoliaeth hon yn fy erbyn i: canys Tobeia a Sanbalat a’i cyflogasent ef. 13 Oherwydd hyn y cyflogasid ef, fel y’m hofnid i, ac y gwnawn felly, ac y pechwn; ac y byddai hynny ganddynt yn enllib i’m herbyn, fel y’m gwaradwyddent. 14 O fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat, yn ôl eu gweithredoedd hynny; a Noadeia y broffwydes hefyd, a’r rhan arall o’r proffwydi y rhai oedd yn fy nychrynu i.

15 A’r mur a orffennwyd ar y pumed dydd ar hugain o Elul, mewn deuddeng niwrnod a deugain. 16 A phan glybu ein holl elynion ni hynny, a gweled o’r holl genhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch, hwy a ofnasant, ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun: canys gwybuant mai trwy ein Duw ni y gwnaethid y gwaith hwn.

17 Ac yn y dyddiau hyn pendefigion Jwda oedd yn mynych ddanfon eu llythyrau at Tobeia; a’r eiddo Tobeia oedd yn dyfod atynt hwythau. 18 Canys yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef; oherwydd daw oedd efe i Sechaneia mab Ara; a Johanan ei fab ef a gymerasai ferch Mesulam mab Berecheia yn wraig iddo. 19 A’i gymwynasau ef y byddent hwy yn eu mynegi ger fy mron i; fy ngeiriau innau hefyd y byddent yn eu hadrodd iddo yntau. A Thobeia a anfonodd lythyrau i’m dychrynu i.

Ac wedi adeiladu y mur, a chyfodi ohonof y dorau, a gosod y porthorion, a’r cantorion, a’r Lefiaid; Yna mi a orchmynnais i Hanani fy mrawd, ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem, canys efe oedd ŵr ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer: A mi a ddywedais wrthynt, Nac agorer pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul; a thra fyddont hwy yn sefyll yno, caeant y drysau, a phreniant: a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem, pob un yn ei wyliadwriaeth, a phob un ar gyfer ei dŷ. A’r ddinas oedd eang a mawr; ac ychydig bobl ynddi: a’r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu.

A’m Duw a roddodd yn fy nghalon gynnull y pendefigion, y tywysogion hefyd, a’r bobl, i’w cyfrif wrth eu hachau. A mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethai i fyny yn gyntaf, a chefais yn ysgrifenedig ynddo, Dyma feibion y dalaith, y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i Jwda, pob un i’w ddinas ei hun; Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Asareia, Raamia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum, Baana. Dyma rifedi dynion pobl Israel; Meibion Paros, dwy fil cant a deuddeg a thrigain. Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain. 10 Meibion Ara, chwe chant a deuddeg a deugain. 11 Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg. 12 Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 13 Meibion Sattu, wyth gant a phump a deugain. 14 Meibion Saccai, saith gant a thrigain. 15 Meibion Binnui, chwe chant ac wyth a deugain. 16 Meibion Bebai, chwe chant ac wyth ar hugain. 17 Meibion Asgad, dwy fil tri chant a dau ar hugain. 18 Meibion Adonicam, chwe chant a saith a thrigain. 19 Meibion Bigfai, dwy fil a saith a thrigain. 20 Meibion Adin, chwe chant a phymtheg a deugain. 21 Meibion Ater o Heseceia, tri ar bymtheg a phedwar ugain. 22 Meibion Hasum, tri chant ac wyth ar hugain. 23 Meibion Besai, tri chant a phedwar ar hugain. 24 Meibion Hariff, cant a deuddeg. 25 Meibion Gibeon, pymtheg a phedwar ugain. 26 Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant ac wyth a phedwar ugain. 27 Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain. 28 Gwŷr Beth‐asmafeth, dau a deugain. 29 Gwŷr Ciriath‐jearim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain. 30 Gwŷr Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain. 31 Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain. 32 Gwŷr Bethel ac Ai, cant a thri ar hugain. 33 Gwŷr Nebo arall, deuddeg a deugain. 34 Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 35 Meibion Harim, tri chant ac ugain. 36 Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain. 37 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant ac un ar hugain. 38 Meibion Senaa, tair mil naw cant a deg ar hugain.

39 Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant a thri ar ddeg a thrigain. 40 Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain. 41 Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain. 42 Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.

43 Y Lefiaid: meibion Jesua, o Cadmiel, ac o feibion Hodefa, pedwar ar ddeg a thrigain.

44 Y cantorion: meibion Asaff, cant ac wyth a deugain.

45 Y porthorion: meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, cant a thri ar bymtheg ar hugain.

46 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 47 Meibion Ceros, meibion Sïa, meibion Padon, 48 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Salmai, 49 Meibion Hanan, meibion Gidel, meibion Gahar, 50 Meibion Reaia, meibion Resin, meibion Necoda, 51 Meibion Gassam, meibion Ussa, meibion Phasea, 52 Meibion Besai, meibion Meunim, meibion Neffisesim, 53 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 54 Meibion Baslith, meibion Mehida, meibion Harsa, 55 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama, 56 Meibion Neseia, meibion Hatiffa.

57 Meibion gweision Solomon: meibion Sotai, meibion Soffereth, meibion Perida, 58 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel, 59 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Amon. 60 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain. 61 A’r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐haresa, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt. 62 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.

63 Ac o’r offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt. 64 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. 65 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac â Thummim.

66 Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain. 67 Heblaw eu gweision hwynt a’u morynion, y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau. 68 Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain; a’u mulod yn ddau cant a phump a deugain; 69 Y camelod oedd bedwar cant a phymtheg ar hugain; yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain.

70 A rhai o’r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i’r trysor fil o ddracmonau aur, deg a deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid. 71 A rhai o’r tadau pennaf a roddasant i drysor y gwaith ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil a deucant o bunnau o arian. 72 A’r hyn a roddodd y rhan arall o’r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o bunnau yn arian, a saith a thrigain o wisgoedd offeiriaid. 73 A’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r porthorion, a’r cantorion, a rhai o’r bobl, a’r Nethiniaid, a holl Israel, a drigasant yn eu dinasoedd. A phan ddaeth y seithfed mis, yr oedd meibion Israel yn eu dinasoedd.

Actau 2:22-47

22 Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau: 23 Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch: 24 Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo. 25 Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger. 26 Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a’m cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith: 27 Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 28 Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wynepryd. 29 Ha wŷr frodyr, y mae’n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a’i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn. 30 Am hynny, ac efe yn broffwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef: 31 Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth. 32 Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion. 33 Am hynny, wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o’r Ysbryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed. 34 Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i’r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, 35 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. 36 Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.

37 Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a’r apostolion eraill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni? 38 A Phedr a ddywedodd wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân. 39 Canys i chwi y mae’r addewid, ac i’ch plant, ac i bawb ymhell, cynifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni ato. 40 Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd ac y cynghorodd efe, gan ddywedyd, Ymgedwch rhag y genhedlaeth drofaus hon.

41 Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau. 42 Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau. 43 Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion. 44 A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin; 45 A hwy a werthasant eu meddiannau a’u da, ac a’u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb. 46 A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, 47 Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.