Old/New Testament
6 Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn; a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau, lle y cedwid y trysorau yn Babilon. 2 A chafwyd yn Achmetha, yn y llys yn nhalaith Media, ryw lyfr, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth: 3 Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ Dduw o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei uchder, ac yn drigain cufydd ei led: 4 Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul o dŷ y brenin. 5 A llestri tŷ Dduw hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem, i’w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ Dduw. 6 Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i’r afon, Setharbosnai, a’ch cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o’r tu hwnt i’r afon, ciliwch oddi yno. 7 Gadewch yn llonydd waith y tŷ Dduw hwn: adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i Dduw yn ei le. 8 Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ Dduw hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o’r deyrnged o’r tu hwnt i’r afon, y rhoddir traul i’r gwŷr hyn, fel na pheidio y gwaith. 9 A’r hyn a fyddo angenrheidiol i boethoffrymau Duw y nefoedd, yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn ŷd, yn halen, yn win, ac yn olew, yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddi‐baid: 10 Fel yr offrymont aroglau peraidd i Dduw y nefoedd, ac y gweddïont dros einioes y brenin, a’i feibion. 11 Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o’i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny. 12 A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
13 Yna Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, Setharbosnai, a’u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd. 14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn Duw Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia. 15 A’r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.
16 A meibion Israel, yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhan arall o feibion y gaethglud, a gysegrasant y tŷ hwn eiddo Duw mewn llawenydd; 17 Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech‐aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel. 18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau, a’r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth Duw yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses. 19 Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf. 20 Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn, yn lân i gyd oll, ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain. 21 A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud, a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i geisio Arglwydd Dduw Israel, a fwytasant, 22 Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr Arglwydd a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ Dduw, Duw Israel.
7 Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia, 2 Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub, 3 Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth, 4 Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci, 5 Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf: 6 Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai Arglwydd Dduw Israel: a’r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef. 7 A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses. 8 Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i’r brenin. 9 Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei Dduw gydag ef. 10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.
11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau ef i Israel. 12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser. 13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o’i offeiriaid ef, a’i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi. 14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di; 15 Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i Dduw Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem, 16 A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem: 17 Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a’u bwyd‐offrymau, a’u diod‐offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem. 18 A’r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur â’r rhan arall o’r arian a’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw. 19 A’r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy Dduw, dod adref o flaen dy Dduw yn Jerwsalem. 20 A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy Dduw, yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin. 21 A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i’r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd; 22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur. 23 Beth bynnag yw gorchymyn Duw y nefoedd, gwneler yn ddyfal i dŷ Duw y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a’i feibion? 24 Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a’r Lefiaid, cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ Dduw hwn, na ellir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth. 25 Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy Dduw, yr hwn sydd yn dy law, gosod swyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy Dduw; a dysgwch y rhai nis medrant. 26 A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy Dduw, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i’w ddeol, ai i ddirwy o dda, ai i garchar.
27 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Jerwsalem: 28 Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw yr Arglwydd fy Nuw arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi.
8 A dyma eu pennau‐cenedl hwynt, a’u hachau, y rhai a aeth i fyny gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses y brenin, allan o Babilon. 2 O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion Dafydd; Hattus: 3 O feibion Sechaneia, o feibion Pharos; Sechareia: a chydag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid. 4 O feibion Pahath‐Moab; Elihoenai mab Seraheia, a chydag ef ddau cant o wrywiaid. 5 O feibion Sechaneia; mab Jahasiel, a chydag ef dri chant o wrywiaid. 6 O feibion Adin hefyd; Ebed mab Jonathan, a chydag ef ddeg a deugain o wrywiaid. 7 Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid. 8 Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid. 9 O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid. 10 Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o wrywiaid. 11 Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid. 12 Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant. 13 Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid. 14 Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid.
15 A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a’r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi. 16 Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion: 17 A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido, a’i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw. 18 A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a’i feibion, a’i frodyr, ddeunaw; 19 A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merari, a’i frodyr, a’u meibion, ugain; 20 Ac o’r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a’r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau.
21 Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio gerbron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i’n plant, ac i’n golud oll. 22 Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i ceisiant ef, a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef. 23 Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd arnom.
24 Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o’u brodyr gyda hwynt; 25 Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a’i gynghoriaid, a’i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno. 26 Ie, pwysais i’w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur; 27 Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres melyn da, mor brydferth ag aur. 28 A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i’r Arglwydd; a’r llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i Arglwydd Dduw eich tadau. 29 Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a phennau‐cenedl Israel yn Jerwsalem, yng nghelloedd tŷ yr Arglwydd. 30 Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a’r aur, a’r llestri, i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni.
31 A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa, ar y deuddegfed dydd o’r mis cyntaf, i fyned i Jerwsalem: a llaw ein Duw oedd arnom ni, ac a’n gwaredodd o law y gelyn, a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd. 32 A ni a ddaethom i Jerwsalem, ac a arosasom yno dridiau.
33 Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a’r aur, a’r llestri, yn nhŷ ein Duw ni, trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad; ac Eleasar mab Phinees oedd gydag ef; a Josabad mab Jesua, a Noadeia mab Binnui, y Lefiaid, oedd gyda hwynt; 34 Wrth rifedi, ac wrth bwys pob un: a’r holl bwysau a ysgrifennwyd y pryd hwnnw. 35 Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o’r caethiwed, a offrymasant boethoffrymau i Dduw Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar ugain o ŵyn, a deuddeg o fychod yn bech‐aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r Arglwydd.
36 A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a thywysogion y tu hwnt i’r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw.
21 Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd. 2 Yr oedd ynghyd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Gana yng Ngalilea, a meibion Sebedeus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef. 3 Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim. 4 A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd. 5 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes. 6 Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod. 7 Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr. 8 Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd,) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod. 9 A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. 10 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron. 11 Simon Pedr a esgynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorrodd y rhwyd. 12 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd. 13 Yna y daeth yr Iesu, ac a gymerth fara, ac a’i rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. 14 Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.
15 Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn. 16 Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. 17 Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid. 18 Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuanc, ti a’th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hen, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni fynnit. 19 A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
20 A Phedr a drodd, ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw’r hwn a’th fradycha di?) 21 Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn? 22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi. 23 Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai’r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? 24 Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifennodd y pethau hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir. 25 Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.