Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Cronicl 15-16

15 Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded. Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr Arglwydd sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau. Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir Dduw, a heb offeiriad yn ddysgawdwr, a heb gyfraith. Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra at Arglwydd Dduw Israel, a’i geisio ef, efe a geid ganddynt. Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i’r hwn oedd yn myned allan, nac i’r hwn oedd yn dyfod i mewn: ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd. A chenedl a ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd. Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i’ch gwaith chwi. A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o’r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr Arglwydd, yr hon oedd o flaen porth yr Arglwydd. Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a’r dieithriaid gyda hwynt, o Effraim a Manasse, ac o Simeon: canys hwy a syrthiasant ato ef yn aml o Israel, pan welsant fod yr Arglwydd ei Dduw gydag ef. 10 Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem, yn y trydydd mis, yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa. 11 A hwy a aberthasant i’r Arglwydd y dwthwn hwnnw, o’r anrhaith a ddygasent, saith gant o eidionau, a saith mil o ddefaid. 12 A hwy a aethant dan gyfamod i geisio Arglwydd Dduw eu tadau, â’u holl galon, ac â’u holl enaid: 13 A phwy bynnag ni cheisiai Arglwydd Dduw Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fychan ac yn fawr, yn ŵr ac yn wraig. 14 A hwy a dyngasant i’r Arglwydd â llef uchel, ac â bloedd, ag utgyrn hefyd, ac â thrwmpedau. 15 A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw; canys â’u holl galon y tyngasent, ac â’u holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwy a’i cawsant ef: a’r Arglwydd a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch.

16 A’r brenhin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn: ac Asa a dorrodd ei delw hi, ac a’i drylliodd, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron. 17 Ond ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel: eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef.

18 Ac efe a ddug i mewn i dŷ yr Arglwydd yr hyn a gysegrasai ei dad, a’r hyn a gysegrasai efe ei hun, arian, ac aur, a llestri. 19 Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

16 Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, y daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda. Yna Asa a ddug allan arian, ac aur, o drysorau tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, ac a’i hanfonodd at Benhadad brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd, Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, fel y bu rhwng fy nhad i a’th dad dithau: wele, anfonais atat arian, ac aur; dos, tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi. A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn erbyn dinasoedd Israel, a hwy a drawsant Ijon, a Dan, ac Abel-maim, a holl drysor-ddinasoedd Nafftali. A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama, ac a adawodd ei waith i sefyll. Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda, a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama, a’i choed, â’r rhai yr adeiladai Baasa; ac a adeiladodd â hwynt Geba, a Mispa.

Y pryd hwnnw y daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, ac a ddywedodd wrtho, Gan i ti roi dy bwys ar frenin Syria, ac na roddaist dy bwys ar yr Arglwydd dy Dduw, am hynny y dihangodd llu brenin Syria o’th law di. Onid oedd yr Ethiopiaid a’r Lubiaid yn llu dirfawr, â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn? ond am i ti roi dy bwys ar yr Arglwydd, efe a’u rhoddodd hwynt yn dy law di. Canys y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaear, i’w ddangos ei hun yn gryf gyda’r rhai sydd a’u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny rhyfeloedd fydd i’th erbyn o hyn allan. 10 Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw.

11 Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a’r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel. 12 Ac Asa a glafychodd o’i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o’i deyrnasiad, nes i’w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd, ond y meddygon.

13 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o’i deyrnasiad. 14 A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau mawr iawn.

Ioan 12:27-50

27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon. 28 O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn. 29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho. 30 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o’m hachos i y bu’r llef hon, ond o’ch achos chwi. 31 Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn. 32 A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun. 33 (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.) 34 Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn? 35 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae’n myned. 36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.

37 Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo: 38 Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn, 40 Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt. 41 Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.

42 Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog: 43 Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.

44 A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. 45 A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. 46 Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. 47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. 48 Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. 49 Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 50 Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.