Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 19-21

19 Ac ar ôl hyn y bu i Nahas brenin meibion Ammon farw; a’i fab a deyrnasodd yn ei le ef. A Dafydd a ddywedodd, Gwnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, oherwydd gwnaeth ei dad â myfi garedigrwydd. Ac anfonodd Dafydd genhadau i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon, at Hanun, i’w gysuro ef. A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti? Yna y cymerth Hanun weision Dafydd, ac a’u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth eu cluniau, ac a’u gyrrodd hwynt ymaith. A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch.

Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian, i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia, ac o Syria‐maacha ac o Soba. A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a’i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o’u dinasoedd, ac a ddaethant i ryfel. A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn. A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a’r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o’r neilltu yn y maes. 10 A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a’u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid. 11 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon. 12 Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gynhorthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a’th gynorthwyaf dithau. 13 Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef. 14 Yna y nesaodd Joab a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef. 15 A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef, ac a aethant i’r ddinas; a Joab a ddaeth i Jerwsalem.

16 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau, ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon; a Soffach capten llu Hadareser oedd o’u blaen hwynt. 17 A mynegwyd i Dafydd; ac efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt. A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef. 18 Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a lladdodd Dafydd o’r Syriaid saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau, a deugain mil o wŷr traed, ac a laddodd Soffach capten y llu. 19 A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel, hwy a heddychasant â Dafydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo meibion Ammon mwyach.

20 Darfu hefyd wedi gorffen y flwyddyn, yn amser myned o’r brenhinoedd allan i ryfela, arwain o Joab gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meibion Ammon, ac efe a ddaeth ac a warchaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd Rabba, ac a’i dinistriodd hi. A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac efe a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas. A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan, ac a’u torrodd hwynt â llifiau, ac ag ogau heyrn, ac â bwyeill: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd â holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem.

Ac ar ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr; felly y darostyngwyd hwynt. A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a laddodd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd. Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a’i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i’r cawr. Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd ef. Y rhai hyn a anwyd i’r cawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.

21 A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel. A dywedodd Dafydd wrth Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt. A dywedodd Joab, Chwaneged yr Arglwydd ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweision i’m harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel? Ond gair y brenin a fu drech na Joab: a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.

A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf; a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf. Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin. A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel. A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd, 10 Dos, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a’i gwnaf i ti. 11 Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cymer i ti. 12 Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynteu cleddyf yr Arglwydd, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr Arglwydd yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd. 13 A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr Arglwydd, canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.

14 Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr. 15 A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr Arglwydd a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 16 A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr Arglwydd yn sefyll rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau. 17 A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O Arglwydd fy Nuw, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.

18 Yna angel yr Arglwydd a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r Arglwydd yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 19 A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr Arglwydd. 20 Yna y trodd Ornan, ac a ganfu yr angel, a’i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith. 21 A Dafydd a ddaeth at Ornan; ac edrychodd Ornan, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â’i wyneb tua’r ddaear. 22 A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i’r Arglwydd: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl. 23 Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a’r offer dyrnu yn gynnud, a’r gwenith yn fwyd‐offrwm: hyn oll a roddaf. 24 A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i’r Arglwydd yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad. 25 Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys. 26 Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr Arglwydd; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm. 27 A dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.

28 Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i’r Arglwydd wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad, efe a aberthodd yno. 29 Ond tabernacl yr Arglwydd, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon: 30 Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn â Duw; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr Arglwydd.

Ioan 8:1-27

A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd: Ac a ddaeth drachefn y bore i’r deml; a’r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt. A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol, Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd? A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua’r llawr, a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed. Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi. Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear. Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol. 10 A’r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di? 11 Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.

12 Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni’r byd ydwyf fi: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd. 13 Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di wir. 14 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned. 15 Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb. 16 Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i. 17 Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn. 18 Myfi yw’r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac y mae’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi. 19 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na’m Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd. 20 Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto. 21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a’m ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 22 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn. 24 Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau. 25 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad. 26 Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i; a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd. 27 Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.