Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 13-15

13 A Dafydd a ymgynghorodd â chapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac â’r holl dywysogion. A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a bod hyn o’r Arglwydd ein Duw, danfonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pentrefol, i’w cynnull hwynt atom ni. A dygwn drachefn arch ein Duw atom ni; canys nid ymofynasom â hi yn nyddiau Saul. A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl. Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd, o Sihor yr Aifft, hyd y ffordd y delir i Hamath, i ddwyn arch Duw o Ciriath‐jearim. A Dafydd a aeth i fyny, a holl Israel, i Baala, sef Ciriath‐jearim, yr hon sydd yn Jwda, i ddwyn oddi yno arch yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn preswylio rhwng y ceriwbiaid, ar yr hon y gelwir ei enw ef. A hwy a ddygasant arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab: ac Ussa ac Ahïo oedd yn gyrru y fen. A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, â’u holl nerth, ac â chaniadau, ac â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac â symbalau, ac ag utgyrn.

A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd hi. 10 Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Ussa, ac efe a’i lladdodd ef, oblegid iddo estyn ei law at yr arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw. 11 A bu ddrwg gan Dafydd am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐ussa, hyd y dydd hwn. 12 A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi? 13 Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a’i cludodd hi i dŷ Obed‐edom y Gethiad. 14 Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obed‐edom, yn ei dŷ ef, dri mis. A’r Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐edom, a’r hyn oll ydoedd eiddo.

14 A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ. A gwybu Dafydd sicrhau o’r Arglwydd ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.

A chymerth Dafydd wragedd ychwaneg yn Jerwsalem: a Dafydd a genhedlodd feibion ychwaneg, a merched. A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon, Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet, A Noga, a Neffeg, a Jaffa, Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.

A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt. A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim. 10 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di. 11 Felly yr aethant i fyny i Baal‐perasim, a Dafydd a’u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal‐perasim. 12 A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân. 13 A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn. 14 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd. 15 A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o’th flaen di, i daro llu y Philistiaid. 16 A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser. 17 Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wledydd; a’r Arglwydd a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.

15 A Dafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratôdd le i arch Duw, ac a osododd iddi babell. A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch Duw, ond i’r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr Arglwydd i ddwyn arch Duw, ac i weini iddo ef yn dragywydd. A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr Arglwydd i’w lle a baratoesai efe iddi hi. A Dafydd a gynullodd feibion Aaron, a’r Lefiaid. O feibion Cohath; Uriel y pennaf, a’i frodyr, cant ac ugain. O feibion Merari; Asaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant ac ugain. O feibion Gersom; Joel y pennaf, a’i frodyr, cant a deg ar hugain. O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant. O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a’i frodyr, pedwar ugain. 10 O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a’i frodyr, cant a deuddeg. 11 A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab, 12 Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau‐cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch Arglwydd Dduw Israel i’r lle a baratoais iddi hi. 13 Oherwydd nas gwnaethoch o’r dechreuad, y torrodd yr Arglwydd ein Duw arnom ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem. 14 Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch Arglwydd Dduw Israel. 15 A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr Arglwydd. 16 A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd. 17 Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o’i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia. 18 A chyda hwynt eu brodyr o’r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed‐edom, a Jehiel, y porthorion. 19 Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio â symbalau pres. 20 A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth. 21 A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed‐edom, a Jehiel, ac Asaseia, oeddynt â thelynau ar y Seminith i ragori. 22 Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gân: efe a ddysgai eraill am y gân, canys cyfarwydd ydoedd. 23 A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i’r arch. 24 A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obed‐edom hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch.

25 Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o dŷ Obed‐edom mewn llawenydd. 26 A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod. 27 A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a’r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a’r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gân, a’r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain. 28 A holl Israel a ddygasant i fyny arch cyfamod yr Arglwydd â bloedd, â llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda’r nablau a’r telynau.

29 A phan ydoedd arch cyfamod yr Arglwydd yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae: a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.

Ioan 7:1-27

A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef. A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos. Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd. Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond myfi y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto. Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea.

10 Ac wedi myned o’i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd a aeth i fyny i’r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel. 11 Yna yr Iddewon a’i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe? 12 A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo’r bobl y mae. 13 Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, rhag ofn yr Iddewon.

14 Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i’r deml, ac a athrawiaethodd. 15 A’r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu? 16 Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i. 17 Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru. 18 Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun, yn ceisio’i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef. 19 Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? 20 Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di? 21 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu. 22 Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth. 23 Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth? 24 Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn. 25 Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd? 26 Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir? 27 Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.