Old/New Testament
7 A meibion Issachar oedd, Tola, a Phua, Jasub, a Simron, pedwar. 2 A meibion Tola; Ussi, a Reffaia, a Jeriel, a Jahmai, a Jibsam, a Semuel, penaethiaid ar dŷ eu tadau: o Tola yr ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn eu cenedlaethau; eu rhif yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain a chwe chant. 3 A meibion Ussi; Israhïa: a meibion Israhïa; Michael, ac Obadeia, a Joel, Isia, pump: yn benaethiaid oll. 4 A chyda hwynt yn eu cenedlaethau, ac yn ôl tŷ eu tadau, yr ydoedd byddinoedd milwyr i ryfel, un fil ar bymtheg ar hugain: canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion. 5 A’u brodyr cedyrn o nerth, o holl deuluoedd Issachar, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn saith mil a phedwar ugain mil oll.
6 A meibion Benjamin oedd, Bela, a Becher, a Jediael, tri. 7 A meibion Bela; Esbon, ac Ussi, ac Ussiel, a Jerimoth, ac Iri; pump o bennau tŷ eu tadau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain. 8 A meibion Becher oedd, Semira, a Joas, ac Elieser, ac Elioenai, ac Omri, a Jerimoth, ac Abeia, ac Anathoth, ac Alemeth: y rhai hyn oll oedd feibion Becher. 9 A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn ugain mil a dau cant. 10 A meibion Jediael; Bilhan: a meibion Bilhan; Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a Chenaana, a Sethan, a Tharsis, ac Ahisahar. 11 Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael, yn bennau eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn ddwy fil ar bymtheg a deucant. 12 Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, meibion Aher.
13 Meibion Nafftali; Jasiel, a Guni, a Geser, a Salum, meibion Bilha.
14 Meibion Manasse; Asriel, yr hwn a ymddûg ei wraig: (ond ei ordderchwraig o Syria a ymddûg Machir tad Gilead: 15 A Machir a gymerodd yn wraig chwaer Huppim a Suppim, ac enw eu chwaer hwynt oedd Maacha:) ac enw yr ail fab Salffaad: ac i Salffaad yr oedd merched. 16 A Maacha gwraig Machir a ymddûg fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef Seres, a’i feibion ef oedd Ulam a Racem. 17 A meibion Ulam; Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse. 18 A Hammolecheth ei chwaer ef a ymddûg Isod, ac Abieser, a Mahala. 19 A meibion Semida oedd, Ahïan, a Sechem, a Lichi, ac Aniham.
20 A meibion Effraim; Suthela, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntau, ac Elada ei fab yntau, a Thahath ei fab yntau,
21 A Sabad ei fab yntau, a Suthela ei fab yntau, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath y rhai a anwyd yn y tir, a’u lladdodd hwynt, oherwydd dyfod ohonynt i waered i ddwyn eu hanifeiliaid hwynt. 22 Ac Effraim eu tad a alarodd ddyddiau lawer; a’i frodyr a ddaethant i’w gysuro ef.
23 A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Bereia, am fod drygfyd yn ei dŷ ef. 24 (Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adeiladodd Beth‐horon yr isaf, a’r uchaf hefyd, ac Ussen‐sera.) 25 A Reffa oedd ei fab ef, a Reseff, a Thela ei fab yntau, a Thahan ei fab yntau, 26 Laadan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau, 27 Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.
28 A’u meddiant a’u cyfanheddau oedd, Bethel a’i phentrefi, ac o du y dwyrain Naaran, ac o du y gorllewin Geser a’i phentrefi; a Sichem a’i phentrefi, hyd Gasa a’i phentrefi: 29 Ac ar derfynau meibion Manasse, Beth‐sean, a’i phentrefi, Taanach a’i phentrefi, Megido a’i phentrefi, Dor a’i phentrefi. Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.
30 Meibion Aser; Imna, ac Isua, ac Isuai, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. 31 A meibion Bereia; Heber, a Malchiel, hwn yw tad Birsafith. 32 A Heber a genhedlodd Jafflet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt. 33 A meibion Jafflet; Pasach, a Bimhal, ac Asuath. Dyma feibion Jafflet. 34 A meibion Samer; Ahi, a Roga, Jehubba, ac Aram. 35 A meibion ei frawd ef Helem; Soffa, ac Imna, a Seles, ac Amal. 36 Meibion Soffa; Sua, a Harneffer, a Sual, a Beri, ac Imra, 37 Beser, a Hod, a Samma, a Silsa, ac Ithran, a Beera. 38 A meibion Jether; Jeffunne, Pispa hefyd, ac Ara. 39 A meibion Ula; Ara, a Haniel, a Resia. 40 Y rhai hyn oll oedd feibion Aser, pennau eu cenedl, yn ddewis wŷr o nerth, yn bennau‐capteiniaid. A’r cyfrif trwy eu hachau o wŷr i ryfel, oedd chwe mil ar hugain o wŷr.
8 Benjamin hefyd a genhedlodd Bela ei gyntaf‐anedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd, 2 Noha y pedwerydd, a Raffa y pumed. 3 A meibion Bela oedd, Adar, a Gera, ac Abihud, 4 Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa, 5 A Gera, a Seffuffan, a Huram. 6 Dyma hefyd feibion Ehud; dyma hwynt pennau‐cenedl preswylwyr Geba, a hwy a’u mudasant hwynt i Manahath: 7 Naaman hefyd, ac Ahïa, a Gera, efe a’u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa, ac Ahihud. 8 Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith: Husim a Baara oedd ei wragedd. 9 Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jobab, a Sibia, a Mesa, a Malcham, 10 A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau‐cenedl. 11 Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal. 12 A meibion Elpaal oedd, Eber, a Misam, a Samed, yr hwn a adeiladodd Ono, a Lod a’i phentrefi. 13 Bereia hefyd, a Sema oedd bennau‐cenedl preswylwyr Ajalon; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath. 14 Ahïo hefyd, Sasac, a Jeremoth, 15 Sebadeia hefyd, ac Arad, ac Ader, 16 Michael hefyd, ac Ispa, a Joha, meibion Bereia; 17 Sebadeia hefyd, a Mesulam, a Heseci, a Heber, 18 Ismerai hefyd, a Jeslïa, a Jobab, meibion Elpaal; 19 Jacim hefyd, a Sichri, a Sabdi, 20 Elienai hefyd, a Silthai, ac Eliel, 21 Adaia hefyd, a Beraia, a Simrath, meibion Simhi; 22 Ispan hefyd, a Heber, ac Eliel, 23 Abdon hefyd, a Sichri, a Hanan, 24 Hananeia hefyd, ac Elam, ac Antotheia, 25 Iffedeia hefyd, a Phenuel, meibion Sasac; 26 Samserai hefyd, a Sehareia, ac Athaleia, 27 Jareseia hefyd, ac Eleia, a Sichri, meibion Jeroham. 28 Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl, sef penaethiaid ar eu cenedlaethau. Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem. 29 Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maacha. 30 Ac Abdon ei fab cyntaf‐anedig ef, Sur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadab, 31 Gedor hefyd, ac Ahïo, a Sacher. 32 Micloth hefyd a genhedlodd Simea: y rhai hyn hefyd, ar gyfer eu brodyr, a breswyliasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr.
33 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal. 34 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha. 35 A meibion Micha; Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas. 36 Ac Ahas a genhedlodd Jehoada, a Jehoada a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri: a Simri a genhedlodd Mosa, 37 A Mosa a genhedlodd Binea: Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. 38 Ac i Asel y bu chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt, Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Y rhai hyn oll oedd feibion Asel. 39 A meibion Esec ei frawd ef oedd, Ulam ei gyntaf‐anedig ef, Jehus yr ail, ac Eliffelet y trydydd. 40 A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth, yn saethyddion, ac yn aml eu meibion a’u hwyrion, sef cant a deg a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin.
9 A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.
2 Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid. 3 Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse: 4 Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda. 5 Ac o’r Siloniaid; Asaia y cyntaf‐anedig, a’i feibion. 6 Ac o feibion Sera; Jeuel, a’u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain. 7 Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua, 8 Ibneia hefyd mab Jeroham, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija; 9 A’u brodyr yn ôl eu cenedlaethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau‐cenedl ar dŷ eu tadau.
10 Ac o’r offeiriaid; Jedaia, a Jehoiarib, a Jachin, 11 Asareia hefyd mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ Dduw; 12 Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malceia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer. 13 A’u brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw. 14 Ac o’r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari, 15 Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff; 16 Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid. 17 Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a’u brodyr; Salum ydoedd bennaf; 18 A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion. 19 Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn. 20 Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r Arglwydd ydoedd gydag ef. 21 Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod. 22 Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd. 23 Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau. 24 Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau. 25 A’u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt. 26 Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.
27 Ac o amgylch tŷ Dduw y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore. 28 Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan. 29 A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a’r gwin, a’r olew, a’r thus, a’r aroglau peraidd. 30 Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd. 31 A Matitheia, un o’r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf‐anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell. 32 Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i’w ddarparu bob Saboth. 33 A dyma y cantorion, pennau‐cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos. 34 Dyma bennau‐cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.
35 Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha: 36 A’i fab cyntaf‐anedig ef oedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab, 37 A Gedor, ac Ahïo, a Sechareia a Micloth. 38 A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr. 39 Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal. 40 A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha. 41 A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas. 42 Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa: 43 A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. 44 Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.
22 Trannoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i’r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i’r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong, ond myned o’i ddisgyblion ymaith eu hunain; 23 (Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i’r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i’r Arglwydd roddi diolch:) 24 Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu. 25 Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? 26 Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau, a’ch digoni. 27 Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad. 28 Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw? 29 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe. 30 Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? 31 Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta. 32 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef. 33 Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. 34 Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni’r bara hwn yn wastadol. 35 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser. 36 Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu. 37 Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim. 38 Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd. 39 A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf. 40 A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf. 41 Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef. 42 A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais? 43 Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd. 44 Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.