Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 4-6

Meibion Jwda; Phares, Hesron, a Charmi, a Hur, a Sobal. A Reaia mab Sobal a genhedlodd Jahath; a Jahath a genhedlodd Ahumai, a Lahad. Dyma deuluoedd y Sorathiaid. A’r rhai hyn oedd o dad Etam; Jesreel, ac Isma, ac Idbas: ac enw eu chwaer hwynt oedd Haselelponi. A Phenuel tad Gedor, ac Eser tad Husa. Dyma feibion Hur cyntaf‐anedig Effrata, tad Bethlehem.

Ac i Asur tad Tecoa yr oedd dwy wraig, Hela a Naara. A Naara a ddug iddo Ahusam, a Heffer, a Themeni, ac Hahastari. Dyma feibion Naara. A meibion Hela oedd, Sereth, a Jesoar, ac Ethnan. A Chos a genhedlodd Anub, a Sobeba, a theuluoedd Aharhel mab Harum.

Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid. 10 A Jabes a alwodd ar Dduw Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a’m cadw oddi wrth ddrwg, fel na’m gofidier! A pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.

11 A Chelub brawd Sua a genhedlodd Mehir, yr hwn oedd dad Eston. 12 Ac Eston a genhedlodd Bethraffa, a Phasea, a Thehinna tad dinas Nahas. Dyma ddynion Recha. 13 A meibion Cenas; Othniel, a Seraia: a meibion Othniel; Hathath. 14 A Meonothai a genhedlodd Offra: a Seraia a genhedlodd Joab, tad glyn y crefftwyr; canys crefftwyr oeddynt hwy. 15 A meibion Caleb mab Jeffunne; Iru, Ela, a Naam: a meibion Ela oedd, Cenas. 16 A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel. 17 A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa. 18 A’i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth Mered. 19 A meibion ei wraig Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad. 20 A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd, Soheth, a Bensoheth.

21 A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea, 22 A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Saraff, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab, a Jasubilehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen. 23 Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau; gyda’r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.

24 Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul: 25 Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau. 26 A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau. 27 Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i’w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda. 28 A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar‐sual, 29 Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad, 30 Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn Siclag, 31 Ac yn Beth‐marcaboth, ac yn Hasarsusim, ac yn Beth‐birei, ac yn Saaraim. Dyma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Dafydd. 32 A’u trefydd hwynt oedd, Etam, ac Ain, Rimmon, a Thochen, ac Asan; pump o ddinasoedd. 33 A’u holl bentrefi hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal. Dyma eu trigfannau hwynt, a’u hachau. 34 A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amaseia, 35 A Joel, a Jehu mab Josibia, fab Seraia, fab Asiel, 36 Ac Elioenai, a Jaacoba, a Jesohaia, ac Asaia, ac Adiel, a Jesimiel, a Benaia, 37 A Sisa mab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia. 38 Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd, ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.

39 A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa i’w praidd. 40 A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen oedd o Cham. 41 A’r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a’r anheddau a gafwyd yno, ac a’u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i’w praidd hwynt yno. 42 Ac ohonynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir, a Phelatia, a Nearia, a Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi, yn ben arnynt. 43 Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec, ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn.

A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, (canys efe oedd gyntaf‐anedig, ond am iddo halogi gwely ei dad, rhoddwyd ei enedigaeth‐fraint ef i feibion Joseff, mab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaeth‐fraint: Canys Jwda a ragorodd ar ei frodyr, ac ohono ef y daeth blaenor: a’r enedigaeth‐fraint a roddwyd i Joseff.) Meibion Reuben cyntaf‐anedig Israel oedd, Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi. Meibion Joel; Semaia ei fab ef, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau, Beera ei fab yntau, yr hwn a gaethgludodd Tilgath‐pilneser brenin Asyria: hwn ydoedd dywysog i’r Reubeniaid. A’i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau: y pennaf oedd Jeiel, a Sechareia, A Bela mab Asas, fab Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer, a hyd at Nebo, a Baalmeon. Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe, hyd y lle yr eler i’r anialwch, oddi wrth afon Ewffrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead. 10 Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt, trwy holl du dwyrain Gilead.

11 A meibion Gad a drigasant gyferbyn â hwynt yng ngwlad Basan, hyd at Salcha: 12 Joel y pennaf, a Saffam yr ail, a Jaanai, a Saffat, yn Basan. 13 A’u brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd, Michael, a Mesulam, a Seba, a Jorai, a Jacan, a Sïa, a Heber, saith. 14 Dyma feibion Abihail fab Huri, fab Jaroa, fab Gilead, fab Michael, fab Jesisai, fab Jahdo, fab Bus; 15 Ahi mab Abdiel, fab Guni, y pennaf o dŷ eu tadau. 16 A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan, ac yn ei threfydd, ac yn holl bentrefi Saron, wrth eu terfynau. 17 Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Jotham brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.

18 Meibion Reuben, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, o wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dysgu i ryfel, oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain, yn myned allan i ryfel. 19 A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab. 20 A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar Dduw yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd arnynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo. 21 A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt; o’u camelod hwynt ddengmil a deugain, ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd, ac o asynnod ddwy fil, ac o ddynion gan mil. 22 Canys llawer yn archolledig a fuant feirw, am fod y rhyfel oddi wrth Dduw; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.

23 A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir: o Basan hyd Baal‐hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml. 24 Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Effer, ac Isi, ac Eliel, ac Asriel, a Jeremeia, a Hodafia, a Jadiel, gwŷr cedyrn o nerth, gwŷr enwog, a phennau tŷ eu tadau.

25 A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau, ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad, y rhai a ddinistriasai Duw o’u blaen hwynt. 26 A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath‐pilneser brenin Asyria, ac a’u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a’u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.

Meibion Lefi; Gerson, Cohath, a Merari. A meibion Cohath; Amram, Ishar, a Hebron, ac Ussiel. A phlant Amram; Aaron, Moses, a Miriam: a meibion Aaron; Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.

Eleasar a genhedlodd Phinees, Phinees a genhedlodd Abisua, Ac Abisua a genhedlodd Bucci, a Bucci a genhedlodd Ussi, Ac Ussi a genhedlodd Seraheia, a Seraheia a genhedlodd Meraioth. Meraioth a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub, Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Ahimaas, Ac Ahimaas a genhedlodd Asareia, ac Asareia a genhedlodd Johanan, 10 A Johanan a genhedlodd Asareia; (hwn oedd yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem:) 11 Ac Asareia a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub, 12 Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Salum, 13 A Salum a genhedlodd Hilceia, a Hilceia a genhedlodd Asareia, 14 Ac Asareia a genhedlodd Seraia, a Seraia a genhedlodd Jehosadac: 15 A Jehosadac a ymadawodd, pan gaethgludodd yr Arglwydd Jwda a Jerwsalem trwy law Nebuchodonosor.

16 Meibion Lefi; Gersom, Cohath, a Merari. 17 A dyma enwau meibion Gersom; Libni, a Simei. 18 A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, a Hebron, ac Ussiel. 19 Meibion Merari; Mahli, a Musi. A dyma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu tadau. 20 I Gersom; Libni ei fab, Jahath ei fab yntau, Simma ei fab yntau, 21 Joa ei fab yntau, Ido ei fab yntau, Sera ei fab yntau, a Jeaterai ei fab yntau. 22 Meibion Cohath; Aminadab ei fab ef, Cora ei fab yntau, Assir ei fab yntau, 23 Elcana ei fab yntau, ac Ebiasaff ei fab yntau, ac Assir ei fab yntau, 24 Tahath ei fab yntau, Uriel ei fab yntau, Usseia ei fab yntau, a Saul ei fab yntau. 25 A meibion Elcana; Amasai, ac Ahimoth. 26 Elcana: meibion Elcana; Soffai ei fab ef, a Nahath ei fab yntau. 27 Eliab ei fab yntau, Jeroham ei fab yntau, Elcana ei fab yntau. 28 A meibion Samuel; y cyntaf‐anedig, Fasni, yna Abeia. 29 Meibion Merari; Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau, 30 Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau. 31 Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd, ar ôl gorffwys o’r arch. 32 A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod, nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth. 33 A dyma y rhai a weiniasant, a’u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel, 34 Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa, 35 Fab Suff, fab Elcana, fab Mahath, fab Amasai, 36 Fab Elcana, fab Joel, fab Asareia, fab Seffaneia, 37 Fab Tahath, fab Assir, fab Ebiasaff, fab Cora, 38 Fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, fab Israel. 39 A’i frawd Asaff, yr hwn oedd yn sefyll ar ei law ddeau, sef Asaff mab Beracheia, fab Simea, 40 Fab Michael, fab Baaseia, fab Malcheia, 41 Fab Ethni, fab Sera, fab Adaia, 42 Fab Ethan, fab Simma, fab Simei, 43 Fab Jahath, fab Gersom, fab Lefi. 44 A’u brodyr hwynt, meibion Merari, oedd ar y llaw aswy: Ethan mab Cisi, fab Abdi, fab Maluc, 45 Fab Hasabeia, fab Amaseia, fab Hilceia, 46 Fab Amsi, fab Bani, fab Samer, 47 Fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi. 48 A’u brodyr hwynt y Lefiaid oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw.

49 Ond Aaron a’i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm, ac ar allor yr arogl‐darth, i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf, ac i wneuthur cymod dros Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses gwas Duw. 50 Dyma hefyd feibion Aaron; Eleasar ei fab ef, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau, 51 Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau, 52 Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau, 53 Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.

54 A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon. 55 A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a’i meysydd pentrefol o’i hamgylch. 56 Ond meysydd y ddinas, a’i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne. 57 Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a’i meysydd pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a’u meysydd pentrefol, 58 A Hilen a’i meysydd pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol, 59 Ac Asan a’i meysydd pentrefol, a Bethsemes a’i meysydd pentrefol: 60 Ac o lwyth Benjamin; Geba a’i meysydd pentrefol, ac Alemeth a’i meysydd pentrefol, ac Anathoth a’i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg. 61 Ac i’r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o’r hanner llwyth, sef hanner Manasse, ddeg dinas wrth goelbren. 62 Rhoddasant hefyd i feibion Gersom trwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o lwyth Manasse yn Basan, dair ar ddeg o ddinasoedd. 63 I feibion Merari trwy eu teuluoedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd. 64 A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol. 65 A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt. 66 I’r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim. 67 A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a’i meysydd pentrefol, 68 Jocmeam hefyd a’i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a’i meysydd pentrefol, 69 Ac Ajalon a’i meysydd pentrefol, a Gath‐rimmon a’i meysydd pentrefol. 70 Ac o hanner llwyth Manasse; Aner a’i meysydd pentrefol, a Bileam a’i meysydd pentrefol, i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath. 71 I feibion Gersom o deulu hanner llwyth Manasse y rhoddwyd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, Astaroth hefyd a’i meysydd pentrefol. 72 Ac o lwyth Issachar; Cedes a’i meysydd pentrefol, Daberath a’i meysydd pentrefol, 73 Ramoth hefyd a’i meysydd pentrefol, ac Anem a’i meysydd pentrefol. 74 Ac o lwyth Aser; Masal a’i meysydd pentrefol, ac Abdon a’i meysydd pentrefol, 75 Hucoc hefyd a’i meysydd pentrefol, a Rehob a’i meysydd pentrefol. 76 Ac o lwyth Nafftali; Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, Hammon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Chiriathaim a’i meysydd pentrefol. 77 I’r rhan arall o feibion Merari y rhoddwyd o lwyth Sabulon, Rimmon a’i meysydd pentrefol, a Thabor a’i meysydd pentrefol. 78 Ac am yr Iorddonen a Jericho, sef o du dwyrain yr Iorddonen, y rhoddwyd o lwyth Reuben, Beser yn yr anialwch a’i meysydd pentrefol, Jasa hefyd a’i meysydd pentrefol, 79 Cedemoth hefyd a’i meysydd pentrefol, a Meffaath a’i meysydd pentrefol. 80 Ac o lwyth Gad, Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol, Mahanaim hefyd a’i meysydd pentrefol, 81 Hesbon hefyd a’i meysydd pentrefol, a Jaser a’i meysydd pentrefol.

Ioan 6:1-21

Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea, hwnnw yw môr Tiberias. A thyrfa fawr a’i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion. A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion. A’r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn, agos.

Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta? (A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.) Philip a’i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig. Un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr, Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer? 10 A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer. 11 A’r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant. 12 Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim. 13 Am hynny hwy a’u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent. 14 Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai’r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw’r proffwyd oedd ar ddyfod i’r byd.

15 Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i’r mynydd, ei hunan yn unig. 16 A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr. 17 Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a’r Iesu ni ddaethai atynt hwy. 18 A’r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd. 19 Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant. 20 Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch. 21 Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.