Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Brenhinoedd 22-23

22 Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jedida, merch Adaia o Boscath. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn holl ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni throdd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.

Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia, y brenin a anfonodd Saffan, mab Asaleia, mab Mesulam, yr ysgrifennydd, i dŷ yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dos i fyny at Hilceia yr archoffeiriad, fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr Arglwydd, y rhai a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl: A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr Arglwydd, i gyweirio agennau y tŷ, I’r seiri coed, ac i’r adeiladwyr, ac i’r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd, i atgyweirio’r tŷ. Eto ni chyfrifwyd â hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

A Hilceia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd: a Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan, ac efe a’i darllenodd ef. A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i’r brenin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd. 10 A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd i’r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin. 11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad. 12 A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd, 13 Ewch, ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni. 14 Felly Hilceia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saffan, ac Asaheia, a aethant at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfa, mab Harhas, ceidwad y gwisgoedd: a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy; a hwy a ymddiddanasant â hi.

15 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi; 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddarllenodd brenin Jwda: 17 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i â holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef. 18 Ond wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori â’r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Am y geiriau a glywaist ti; 19 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr Arglwydd, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr Arglwydd. 20 Oherwydd hynny, wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.

23 A’r brenin a anfonodd, a holl henuriaid Jwda a Jerwsalem a ymgynullasant ato ef. A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, a holl wŷr Jwda, a holl drigolion Jerwsalem gydag ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a’r holl bobl o fychan hyd fawr: ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd.

A’r brenin a safodd wrth y golofn, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd, ar fyned ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, â’i holl galon, ac â’i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A’r holl bobl a safodd wrth y cyfamod. A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr archoffeiriad, ac i’r offeiriaid o’r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allan o deml yr Arglwydd yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i’r llwyn, ac i holl lu’r nefoedd: ac efe a’u llosgodd hwynt o’r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron, ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel. Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a’r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i’r haul, ac i’r lleuad, ac i’r planedau, ac i holl lu’r nefoedd. Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr Arglwydd, i’r tu allan i Jerwsalem, hyd afon Cidron, ac a’i llosgodd ef wrth afon Cidron, ac a’i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl. Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaid, y rhai oedd wrth dŷ yr Arglwydd, lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i’r llwyn. Ac efe a ddug yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda, ac a halogodd yr uchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt, o Geba hyd Beerseba, ac a ddistrywiodd uchelfeydd y pyrth, y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas, y rhai oedd ar y llaw aswy i bawb a ddelai i borth y ddinas. Eto offeiriaid yr uchelfeydd ni ddaethant i fyny at allor yr Arglwydd i Jerwsalem, ond hwy a fwytasant fara croyw ymysg eu brodyr. 10 Ac efe a halogodd Toffeth, yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom, fel na thynnai neb ei fab na’i ferch trwy dân i Moloch. 11 Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhinoedd Jwda i’r haul, wrth ddyfodfa tŷ yr Arglwydd, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd, yr hwn oedd yn y pentref, ac a losgodd gerbydau yr haul yn tân. 12 Yr allorau hefyd, y rhai oedd ar nen ystafell Ahas, y rhai a wnaethai brenhinoedd Jwda, a’r allorau a wnaethai Manasse yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd, a ddistrywiodd y brenin, ac a’u bwriodd hwynt i lawr oddi yno, ac a daflodd eu llwch hwynt i afon Cidron. 13 Y brenin hefyd a ddifwynodd yr uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem, y rhai oedd o’r tu deau i fynydd y llygredigaeth, y rhai a adeiladasai Solomon brenin Israel i Astoreth ffieidd‐dra’r Sidoniaid, ac i Cemos ffieidd‐dra’r Moabiaid, ac i Milcom ffieidd‐dra meibion Ammon. 14 Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion.

15 Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a’r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a’r uchelfa a ddistrywiodd efe, ac a losgodd yr uchelfa, ac a’i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn. 16 A Joseia a edrychodd, ac a ganfu feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o’r beddau, ac a’u llosgodd ar yr allor, ac a’i halogodd hi, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn. 17 Yna efe a ddywedodd, Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr Duw, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw. 18 Ac efe a ddywedodd, Gadewch ef yn llonydd: nac ymyrred neb â’i esgyrn ef. Felly yr achubasant ei esgyrn ef, gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria. 19 Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninasoedd Samaria, y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel. 20 Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, ar yr allorau, ac a losgodd esgyrn dynion arnynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.

21 A’r brenin a orchmynnodd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Gwnewch Basg i’r Arglwydd eich Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn. 22 Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn, er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel, nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel, na brenhinoedd Jwda. 23 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i’r Arglwydd yn Jerwsalem.

24 Y swynyddion hefyd, a’r dewiniaid, a’r delwau, a’r eilunod, a’r holl ffieidd‐dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr Arglwydd. 25 Ac ni bu o’i flaen frenin o’i fath ef, yr hwn a drodd at yr Arglwydd â’i holl galon, ac â’i holl enaid, ac â’i holl egni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef.

26 Er hynny ni throdd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint mawr, trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda, oherwydd yr holl ddicter trwy yr hwn y digiasai Manasse ef. 27 A dywedodd yr Arglwydd, Jwda hefyd a fwriaf ymaith o’m golwg, fel y bwriais ymaith Israel, ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem, yr hon a ddetholais, a’r tŷ am yr hwn y dywedais, Fy enw a fydd yno. 28 A’r rhan arall o hanes Joseia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

29 Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharo‐Necho brenin yr Aifft i fyny yn erbyn brenin Asyria, hyd afon Ewffrates: a’r brenin Joseia a aeth i’w gyfarfod ef, a Pharo a’i lladdodd ef ym Megido, pan ei gwelodd ef. 30 A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido, ac a’i dygasant ef i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod ei hun. A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a’i heneiniasant ef, ac a’i hurddasant yn frenin yn lle ei dad.

31 Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan aeth efe yn frenin, a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna. 32 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau ef. 33 A Pharo‐Necho a’i rhwymodd ef yn Ribla yng ngwlad Hamath, fel na theyrnasai efe yn Jerwsalem: ac a osododd dreth ar y wlad o gan talent o arian, a thalent o aur. 34 A Pharo‐Necho a osododd Eliacim mab Joseia yn frenin yn lle Joseia ei dad, ac a drodd ei enw ef Joacim: ac efe a ddug ymaith Joahas, ac efe a ddaeth i’r Aifft, ac yno y bu efe farw. 35 A Joacim a roddodd i Pharo yr arian, a’r aur; ond efe a drethodd y wlad i roddi yr arian wrth orchymyn Pharo: efe a gododd yr arian a’r aur ar bobl y wlad, ar bob un yn ôl ei dreth, i’w rhoddi i Pharo‐Necho.

36 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sebuda, merch Pedaia o Ruma. 37 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau.

Ioan 4:31-54

31 Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho. 33 Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i’w fwyta? 34 Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef. 35 Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw’r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf. 36 A’r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i’r hwn sydd yn hau, ac i’r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd. 37 Canys yn hyn y mae’r gair yn wir, Mai arall yw’r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi. 38 Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt.

39 A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum. 40 Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd. 41 A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun. 42 A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist, Iachawdwr y byd.

43 Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno, ac a aeth i Galilea. 44 Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun. 45 Yna pan ddaeth efe i Galilea, y Galileaid a’i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl: canys hwythau a ddaethant i’r ŵyl. 46 Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum.

47 Pan glybu hwn ddyfod o’r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a atolygodd iddo ddyfod i waered, a iacháu ei fab ef: canys yr oedd efe ymron marw. 48 Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch. 49 Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy machgen. 50 Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw. A’r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith. 51 Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw. 52 Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef. 53 Yna y gwybu’r tad mai’r awr honno oedd, yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef, Y mae dy fab yn fyw. Ac efe a gredodd, a’i holl dŷ. 54 Yr ail arwydd yma drachefn a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Jwdea i Galilea.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.