Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Brenhinoedd 19-21

19 A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd â sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr Arglwydd. Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos. A hwy a ddywedasant wrtho ef, Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyngdra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor. Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael. Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi. Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis. A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela â thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddywedyd, 10 Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria. 11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i’r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di? 12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar? 13 Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?

14 A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a’u darllenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, ac a’u lledodd hwynt gerbron yr Arglwydd. 15 A Heseceia a weddïodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd Dduw, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear. 16 Gogwydda, Arglwydd, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, Arglwydd, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw. 17 Gwir yw, O Arglwydd, i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir, 18 A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt. 19 Yn awr gan hynny, O Arglwydd ein Duw ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, tydi yn unig.

20 Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria. 21 Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef, Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di, ac a’th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di. 22 Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef, ac y codaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel. 23 Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr Arglwydd, ac y dywedaist, Â lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a’i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i’w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef. 24 Myfi a gloddiais, ac a yfais ddyfroedd dieithr, ac â gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchaeëdig. 25 Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol. 26 Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu. 27 Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan, a’th ddyfodiad i mewn, a adnabûm i, a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn. 28 Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost. 29 A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 30 A’r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny. 31 Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a’r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn. 32 Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno; hefyd ni ddaw efe o’i blaen hi â tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn hi. 33 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr Arglwydd. 34 Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

35 A’r noson honno yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon. 36 Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe. 37 A bu, fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â’r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia: ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

20 Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw: ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw. Yna efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, Atolwg, Arglwydd, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac â chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr. A chyn myned o Eseia allan i’r cyntedd canol, daeth gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Dychwel, a dywed wrth Heseceia blaenor fy mhobl i, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele fi yn dy iacháu di; y trydydd dydd yr ei di i fyny i dŷ yr Arglwydd. A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd, ac a’th waredaf di a’r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas. A dywedodd Eseia, Cymerwch swp o ffigys. A hwy a gymerasant, ac a’i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach.

A Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Pa arwydd fydd yr iachâ yr Arglwydd fi, ac yr af fi i fyny i dŷ yr Arglwydd y trydydd dydd? Ac Eseia a ddywedodd, Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr Arglwydd, y gwna yr Arglwydd y gair a lefarodd efe: A â y cysgod ddeg o raddau ymlaen, neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl? 10 A Heseceia a ddywedodd, Hawdd yw i’r cysgod ogwyddo ddeg o raddau: nid felly, ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau. 11 Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr Arglwydd: ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau, ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas, ddeg o raddau yn ei ôl.

12 Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach‐Baladan, mab Baladan brenin Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf. 13 A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dŷ ei drysor, yr arian, a’r aur, a’r peraroglau, a’r olew gorau, a holl dŷ ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.

14 Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon. 15 Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy. 16 Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air yr Arglwydd. 17 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd. 18 Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a genhedli di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon. 19 Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?

20 A’r rhan arall o hanes Heseceia, a’i holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y llyn, a’r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i’r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 21 A Heseceia a hunodd gyda’i dadau: a Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

21 Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Heffsiba. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel. Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnaethai Ahab brenin Israel, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt. Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd, am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd, Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw. Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd. Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef. Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe, yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fi fy enw yn dragywydd: Ac ni symudaf mwyach droed Israel o’r wlad a roddais i’w tadau hwynt: yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt. Ond ni wrandawsant hwy: a Manasse a’u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel.

10 A llefarodd yr Arglwydd trwy law ei weision y proffwydi, gan ddywedyd, 11 Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd‐dra hyn, a gwneuthur yn waeth na’r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o’i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod: 12 Oblegid hynny, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant. 13 A mi a estynnaf linyn mesur Samaria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a’i try ar ei wyneb. 14 A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion: 15 Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a’u bod yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aifft, hyd y dydd hwn. 16 Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

17 A’r rhan arall o hanes Manasse, a’r hyn a wnaeth efe, a’i bechod a bechodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 18 A Manasse a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yng ngardd ei dŷ ei hun, sef yng ngardd Ussa; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

19 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Mesulemeth, merch Harus o Jotba. 20 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel y gwnaethai Manasse ei dad. 21 Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad, ac a ymgrymodd iddynt: 22 Ac efe a wrthododd Arglwydd Dduw ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr Arglwydd.

23 A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dŷ ei hun. 24 A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon: a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef. 25 A’r rhan arall o hanes Amon, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 26 A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Ioan 4:1-30

Pan wybu’r Arglwydd gan hynny glywed o’r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan, (Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun, eithr ei ddisgyblion ef,) Efe a adawodd Jwdea, ac a aeth drachefn i Galilea. Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria. Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff: Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi. Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a’r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed. (Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd.) Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid. 10 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol. 11 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw? 12 Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni’r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a’i feibion, a’i anifeiliaid? 13 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn: 14 Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol. 15 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr. 16 Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma. 17 Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr: 18 Canys pump o wŷr a fu i ti; a’r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir. 19 Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti. 20 Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli. 21 Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae’r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerwsalem. 22 Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon. 23 Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef. 24 Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd. 25 Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth. 26 Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.

27 Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi? 28 Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion, 29 Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw’r Crist? 30 Yna hwy a aethant allan o’r ddinas, ac a ddaethant ato ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.