Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 14-15

14 Y pryd hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam. A Jeroboam a ddywedodd wrth ei wraig, Cyfod atolwg, a newid dy ddillad, fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Seilo: wele, yno y mae Ahïa y proffwyd, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma. A chymer yn dy law ddeg o fara, a theisennau, a chostrelaid o fêl, a dos ato ef: efe a fynega i ti beth a dderfydd i’r bachgen. A gwraig Jeroboam a wnaeth felly; ac a gyfododd ac a aeth i Seilo, ac a ddaeth i dŷ Ahïa. Ond ni allai Ahïa weled; oherwydd ei lygaid ef a ballasai oblegid ei henaint.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Ahïa, Wele, y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i geisio peth gennyt dros ei mab; canys claf yw efe: fel hyn ac fel hyn y dywedi wrthi hi: canys pan ddelo hi i mewn, hi a ymddieithra. A phan glybu Ahïa drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws, efe a ddywedodd, Tyred i mewn, gwraig Jeroboam; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro? canys myfi a anfonwyd atat ti â newyddion caled. Dos, dywed wrth Jeroboam, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Yn gymaint â darfod i mi dy ddyrchafu di o blith y bobl, a’th wneuthur di yn flaenor ar fy mhobl Israel, A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Dafydd, a’i rhoddi i ti; ac na buost ti fel fy ngwas Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion, a’r hwn a rodiodd ar fy ôl i â’i holl galon, i wneuthur yn unig yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i; Ond a wnaethost ddrwg y tu hwnt i bawb a fu o’th flaen di; ac a aethost ac a wnaethost i ti dduwiau dieithr, a delwau toddedig, i’m digio i, ac a’m teflaist i o’r tu ôl i’th gefn: 10 Am hynny, wele fi yn dwyn drwg ar dŷ Jeroboam; a thorraf ymaith oddi wrth Jeroboam bob gwryw, y gwarchaeëdig a’r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod. 11 Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr Arglwydd a’i dywedodd. 12 Cyfod di gan hynny, dos i’th dŷ: a phan ddelo dy draed i’r ddinas, bydd marw y bachgen. 13 A holl Israel a alarant amdano ef, ac a’i claddant ef: canys efe yn unig o Jeroboam a ddaw i’r bedd; oherwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel, yn nhŷ Jeroboam. 14 Yr Arglwydd hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel, yr hwn a dyr ymaith dŷ Jeroboam y dwthwn hwnnw: ond pa beth? ie, yn awr. 15 Canys yr Arglwydd a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt, ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon; oherwydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr Arglwydd i ddigofaint. 16 Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a’r hwn a wnaeth i Israel bechu.

17 A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Tirsa: ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ, bu farw y bachgen. 18 A hwy a’i claddasant ef; a holl Israel a alarasant amdano, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y proffwyd. 19 A’r rhan arall o weithredoedd Jeroboam, fel y rhyfelodd efe, ac fel y teyrnasodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel. 20 A’r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac efe a hunodd gyda’i dadau; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

21 A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. 22 A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd; a hwy a’i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent. 23 Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas. 24 A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

25 Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem. 26 Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin; efe a’u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon. 27 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin. 28 A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, y rhedegwyr a’u dygent hwy, ac a’u hadferent i ystafell y rhedegwyr.

29 A’r rhan arall o weithredoedd Rehoboam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 30 A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau. 31 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. Ac Abeiam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

15 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda. Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen ef: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw, fel calon Dafydd ei dad. Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Arglwydd ei Dduw iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem: Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad. A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes. A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam. Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda. 10 Ac un flynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. 11 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad. 12 Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau. 13 Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron. 14 Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd: eto calon Asa oedd berffaith gyda’r Arglwydd ei holl ddyddiau ef. 15 Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a’r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr Arglwydd, yn arian, yn aur, ac yn llestri.

16 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. 17 A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama; fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda. 18 Yna Asa a gymerodd yr holl arian a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision: a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd, 19 Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a’th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi. 20 Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel‐beth‐maacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali. 21 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa. 22 Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a’i choed, â’r rhai yr adeiladasai Baasa; a’r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Benjamin, a Mispa. 23 A’r rhan arall o holl hanes Asa, a’i holl gadernid ef, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed. 24 Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25 A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd. 26 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef â’r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

27 A Baasa mab Ahïa, o dŷ Issachar, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon. 28 A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef. 29 A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dŷ Jeroboam; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad: 30 Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel. 31 A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 32 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. 33 Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahïa ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain. 34 Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

Luc 22:31-46

31 A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: 32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. 33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. 34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi. 35 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y’ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim. 36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. 37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi. 38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.

39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef. 40 A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, 42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43 Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. 44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear. 45 A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.