Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
2 Samuel 1-2

Ac ar ôl marwolaeth Saul, pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid, wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag; Yna y trydydd dydd, wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Dafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti? Yntau a ddywedodd wrtho, O wersyll Israel y dihengais i. A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o’r rhyfel, a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw. A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo, Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab? A’r llanc, yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa; ac wele, Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon: wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef. Ac efe a edrychodd o’i ôl, ac a’m canfu i, ac a alwodd arnaf fi. Minnau a ddywedais, Wele fi. Dywedodd yntau wrthyf, Pwy wyt ti? Minnau a ddywedais wrtho, Amaleciad ydwyf fi. Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto. 10 Felly mi a sefais arno ef, ac a’i lleddais ef; canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a’r freichled oedd am ei fraich ef, ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd. 11 Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef. 12 Galarasant hefyd, ac wylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jonathan ei fab, ac am bobl yr Arglwydd, ac am dŷ Israel; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf.

13 A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo, O ba le yr hanwyt ti? Yntau a ddywedodd, Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi. 14 A dywedodd Dafydd wrtho, Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr Arglwydd? 15 A Dafydd a alwodd ar un o’r gweision, ac a ddywedodd, Nesâ, rhuthra iddo ef. Ac efe a’i trawodd ef, fel y bu efe farw. 16 A dywedodd Dafydd wrtho ef, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, Myfi a leddais eneiniog yr Arglwydd.

17 A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab: 18 (Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.) 19 O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn! 20 Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig. 21 O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew. 22 Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth fraster y cedyrn, ni throdd bwa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag. 23 Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt: cynt oeddynt na’r eryrod, a chryfach oeddynt na’r llewod. 24 Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgarlad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi. 25 Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd. 26 Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd. 27 Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!

Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd â’r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron. A Dafydd a aeth i fyny yno, a’i ddwy wraig hefyd, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad. A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef, pob un â’i deulu: a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron. A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.

A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â’ch arglwydd Saul, ac a’i claddasoch ef. Ac yn awr yr Arglwydd a wnelo â chwi drugaredd a gwirionedd: minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, oblegid i chwi wneuthur y peth hyn. Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo, a byddwch feibion grymus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thŷ Jwda a’m heneiniasant innau yn frenin arnynt.

Ond Abner mab Ner, tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymerth Isboseth mab Saul, ac a’i dug ef drosodd i Mahanaim; Ac efe a’i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Jesreel, ac ar Effraim, ac ar Benjamin, ac ar holl Israel. 10 Mab deugeinmlwydd oedd Isboseth mab Saul, pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel; a dwy flynedd y teyrnasodd efe. Tŷ Jwda yn unig oedd gyda Dafydd. 11 A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda, oedd saith mlynedd a chwe mis.

12 Ac Abner mab Ner, a gweision Isboseth mab Saul, a aethant allan o Mahanain i Gibeon. 13 Joab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd, a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai o’r naill du, a’r lleill wrth y llyn o’r tu arall. 14 Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant. 15 Yna y cyfodasant, ac yr aethant drosodd dan rif, deuddeg o Benjamin, sef oddi wrth Isboseth mab Saul, a deuddeg o weision Dafydd. 16 A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon. 17 A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.

18 A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o’r iyrchod sydd yn y maes. 19 Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner; ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner. 20 Yna Abner a edrychodd o’i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi. 21 A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o’r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef. Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef. 22 Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, Cilia oddi ar fy ôl i: paham y trawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny? 23 Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a’i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a’r waywffon a aeth allan o’r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a’r oedd yn dyfod i’r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant. 24 Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Amma, yr hwn sydd gyferbyn â Gia, tuag anialwch Gibeon.

25 A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner, ac a aethant yn un fintai, ac a safasant ar ben bryn. 26 Yna Abner a alwodd ar Joab, ac a ddywedodd, Ai byth y difa y cleddyf? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr? 27 A dywedodd Joab, Fel mai byw Duw, oni buasai yr hyn a ddywedaist, diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny, bob un oddi ar ôl ei frawd. 28 Felly Joab a utganodd mewn utgorn; a’r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach. 29 Ac Abner a’i wŷr a aethant trwy’r gwastadedd ar hyd y nos honno, ac a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim. 30 A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner: ac wedi iddo gasglu’r holl bobl ynghyd, yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg, ac Asahel. 31 A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin, ac o wŷr Abner, dri chant a thrigain gŵr, fel y buant feirw.

32 A hwy a gymerasant Asahel, ac a’i claddasant ef ym meddrod ei dad, yr hwn oedd ym Methlehem. A Joab a’i wŷr a gerddasant ar hyd y nos, ac yn Hebron y goleuodd arnynt.

Luc 14:1-24

14 Bu hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth, i fwyta bara, iddynt hwythau ei wylied ef. Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o’r dropsi. A’r Iesu gan ateb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Phariseaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Saboth? A thewi a wnaethant. Ac efe a’i cymerodd ato, ac a’i hiachaodd ef, ac a’i gollyngodd ymaith; Ac a atebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Asyn neu ych pa un ohonoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Saboth? Ac ni allent roi ateb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.

Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddameg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf; gan ddywedyd wrthynt, Pan y’th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo; Ac i hwn a’th wahoddodd di ac yntau ddyfod, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna dechrau ohonot ti trwy gywilydd gymryd y lle isaf. 10 Eithr pan y’th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo’r hwn a’th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fyny: yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd. 11 Canys pob un a’r a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a’r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

12 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti. 13 Eithr pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion: 14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.

15 A phan glywodd rhyw un o’r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw. 16 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahoddodd lawer: 17 Ac a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod. 18 A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae’n rhaid i mi fyned a’i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol. 19 Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i’w profi hwynt: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol. 20 Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod. 21 A’r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i’w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a’r anafus, a’r cloffion, a’r deillion. 22 A’r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist; ac eto y mae lle. 23 A’r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i’r priffyrdd a’r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ. 24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o’m swper i.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.