Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 30-31

30 A phan ddaeth Dafydd a’i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau, ac ar Siclag, ac a drawsent Siclag, ac a’i llosgasent hi â thân. Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasent hwy ymaith, ac aethent i’w ffordd.

Felly y daeth Dafydd a’i wŷr i’r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a’u meibion, a’u merched, a gaethgludasid. Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo. Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad. A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw. A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, mab Ahimelech, Dwg i mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd. A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd, gan ddywedyd, A erlidiaf fi ar ôl y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Erlid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi. Felly Dafydd a aeth, efe a’r chwe channwr oedd gydag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl. 10 A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr; canys dau cannwr a arosasant yn ôl, y rhai a flinasent fel na allent fyned dros afon Besor.

11 A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes, ac a’i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd; a hwy a’i diodasant ef â dwfr. 12 A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp o resin: ac efe a fwytaodd, a’i ysbryd a ddychwelodd ato: canys ni fwytasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos. 13 A Dafydd a ddywedodd wrtho, Gwas i bwy wyt ti? ac o ba le y daethost ti? Ac efe a ddywedodd, Llanc o’r Aifft ydwyf fi, gwas i ŵr o Amalec; a’m meistr a’m gadawodd, oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach. 14 Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid, a’r hyn sydd eiddo Jwda, a thu deau Caleb: Siclag hefyd a losgasom ni â thân. 15 A Dafydd a ddywedodd wrtho, A fedri di fyned â mi i waered at y dorf hon? Yntau a ddywedodd, Twng wrthyf fi i Dduw, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, a mi a af â thi i waered at y dorf hon.

16 Ac efe a’i dug ef i waered: ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir, yn bwyta, ac yn yfed, ac yn dawnsio; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid, ac o wlad Jwda. 17 A Dafydd a’u trawodd hwynt o’r cyfnos hyd brynhawn drannoeth: ac ni ddihangodd un ohonynt, oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoesant. 18 A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig. 19 Ac nid oedd yn eisiau iddynt, na bychan na mawr, na mab na merch, na’r anrhaith, na dim ag a ddygasent hwy ganddynt: hyn oll a ddug Dafydd adref. 20 Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a’r gwartheg; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill, ac a ddywedasant, Dyma anrhaith Dafydd.

21 A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod â’r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt. 22 Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o’r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o’r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a’i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant. 23 Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr Arglwydd i ni, yr hwn a’n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ddaethai i’n herbyn, yn ein llaw ni. 24 Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyda’r dodrefn: hwy a gydrannant. 25 Ac o’r dydd hwnnw allan, efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel, hyd y dydd hwn.

26 A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o’r anrhaith i henuriaid Jwda, sef i’w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr Arglwydd; 27 Sef i’r rhai oedd yn Bethel, ac i’r rhai oedd yn Ramoth tua’r deau, ac i’r rhai oedd yn Jattir, 28 Ac i’r rhai oedd yn Aroer, ac i’r rhai oedd yn Siffmoth, ac i’r rhai oedd yn Estemoa, 29 Ac i’r rhai oedd yn Rachal, ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid, 30 Ac i’r rhai oedd yn Horma, ac i’r rhai oedd yn Chorasan, ac i’r rhai oedd yn Athac, 31 Ac i’r rhai oedd yn Hebron, ac i’r holl leoedd y buasai Dafydd a’i wŷr yn cyniwair ynddynt.

31 A’r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul. A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r gwŷr bwâu a’i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion. Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a thrywana fi ag ef; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddyfod a’m trywanu i, a’m gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno. A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef. Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.

A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt. A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa. A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl. 10 A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan.

11 A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul; 12 Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a’u llosgasant hwynt yno. 13 A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a’u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.

Luc 13:23-35

23 A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt, 24 Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. 25 Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau’r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo’r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych: 26 Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni. 27 Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd. 28 Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan. 29 A daw rhai o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac o’r gogledd, ac o’r deau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw. 30 Ac wele, olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olaf.

31 Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i’r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd y’m perffeithir. 33 Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem. 34 O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 35 Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.