Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 22-24

22 A Dafydd a aeth ymaith oddi yno, ac a ddihangodd i ogof Adulam: a phan glybu ei frodyr a holl dŷ ei dad ef hynny, hwy a aethant i waered ato ef yno. Ymgynullodd hefyd ato ef bob gŵr helbulus, a phob gŵr a oedd mewn dyled, a phob gŵr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr. A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab; ac a ddywedodd wrth frenin Moab, Deled, atolwg, fy nhad a’m mam i aros gyda chwi, hyd oni wypwyf beth a wnêl Duw i mi. Ac efe a’u dug hwynt gerbron brenin Moab: ac arosasant gydag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa.

A Gad y proffwyd a ddywedodd wrth Dafydd, Nac aros yn yr amddiffynfa; dos ymaith, a cherdda rhagot i wlad Jwda. Felly Dafydd a ymadawodd, ac a ddaeth i goed Hareth.

A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd, a’r gwŷr oedd gydag ef, (a Saul oedd yn aros yn Gibea dan bren yn Rama, a’i waywffon yn ei law, a’i holl weision yn sefyll o’i amgylch;) Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch, Clywch, atolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd, a gwinllannoedd? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd; Gan i chwi oll gydfwriadu i’m herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o’m mab i gynghrair â mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o’m plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod i’m mab annog fy ngwas i gynllwyn i’m herbyn, megis y dydd hwn?

Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub. 10 Ac efe a ymgynghorodd drosto ef â’r Arglwydd; ac a roddes fwyd iddo ef; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo. 11 Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad, mab Ahitub, a holl dŷ ei dad ef, sef yr offeiriaid oedd yn Nob. A hwy a ddaethant oll at y brenin. 12 A Saul a ddywedodd, Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd. 13 A dywedodd Saul wrtho ef, Paham y cydfwriadasoch i’m herbyn i, ti a mab Jesse, gan i ti roddi iddo fara, a chleddyf, ac ymgynghori â Duw drosto ef, fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddiw? 14 Ac Ahimelech a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Pwy ymysg dy holl weision di sydd mor ffyddlon â Dafydd, ac yn ddaw i’r brenin, ac yn myned wrth dy orchymyn, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di? 15 Ai y dydd hwnnw y dechreuais i ymgynghori â Duw drosto ef? na ato Duw i mi. Na osoded y brenin ddim yn erbyn ei was, nac yn erbyn neb o dŷ fy nhad: canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll, nac ychydig na llawer. 16 A dywedodd y brenin, Gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi a holl dŷ dy dad.

17 A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr Arglwydd; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweision y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr Arglwydd. 18 A dywedodd y brenin wrth Doeg, Tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Doeg yr Edomiad a drodd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr, yn dwyn effod liain. 19 Efe a drawodd hefyd Nob, dinas yr offeiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ych, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf.

20 Ond un mab i Ahimelech mab Ahitub, a’i enw Abiathar, a ddihangodd, ac a ffodd ar ôl Dafydd. 21 Ac Abiathar a fynegodd i Dafydd, ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr Arglwydd. 22 A dywedodd Dafydd wrth Abiathar, Gwybûm y dydd hwnnw, pan oedd Doeg yr Edomiad yno, gan fynegi y mynegai efe i Saul: myfi a fûm achlysur marwolaeth i holl dylwyth tŷ dy dad di. 23 Aros gyda mi; nac ofna: canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i, sydd yn ceisio dy einioes dithau: ond gyda mi y byddi di gadwedig.

23 Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau. Am hynny y gofynnodd Dafydd i’r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi a tharo’r Philistiaid hyn? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd, Dos, a tharo’r Philistiaid, ac achub Ceila. A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele ni yn ofnus yma yn Jwda: pa faint mwy os awn i Ceila, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid? Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd â’r Arglwydd. A’r Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, Cyfod, dos i waered i Ceila; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di. A Dafydd a’i wŷr a aethant i Ceila, ac a ymladdodd â’r Philistiaid: ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr. Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila. A bu, pan ffodd Abiathar mab Ahimelech at Dafydd i Ceila, ddwyn ohono ef effod yn ei law.

A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceila. A dywedodd Saul, Duw a’i rhoddodd ef yn fy llaw i: canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas â phyrth ac â barrau iddi. A Saul a alwodd yr holl bobl ynghyd i ryfel, i fyned i waered i Ceila, i warchae ar Dafydd ac ar ei wŷr.

A gwybu Dafydd fod Saul yn bwriadu drwg i’w erbyn ef: ac efe a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, Dwg yr effod. 10 Yna y dywedodd Dafydd, O Arglwydd Dduw Israel, gan glywed y clybu dy was, fod Saul yn ceisio dyfod i Ceila, i ddistrywio y ddinas er fy mwyn i. 11 A ddyry arglwyddi Ceila fi yn ei law ef? a ddaw Saul i waered, megis y clybu dy was? O Arglwydd Dduw Israel, mynega, atolwg, i’th was. A’r Arglwydd a ddywedodd, Efe a ddaw i waered. 12 Yna y dywedodd Dafydd, A ddyry arglwyddi Ceila fyfi a’m gwŷr yn llaw Saul? A’r Arglwydd a ddywedodd, Rhoddant.

13 Yna y cyfododd Dafydd a’i wŷr, y rhai oedd ynghylch chwe chant, ac a aethant o Ceila, ac a rodiasant lle y gallent. A mynegwyd i Saul, fod Dafydd wedi dianc o Ceila; ac efe a beidiodd â myned allan. 14 A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd, ac a arhodd mewn mynydd, yn anialwch Siff: a Saul a’i ceisiodd ef bob dydd: ond ni roddodd Duw ef yn ei law ef. 15 A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef: a Dafydd oedd yn anialwch Siff, mewn coed. 16 A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Dafydd i’r coed; ac a gryfhaodd ei law ef yn Nuw. 17 Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di; a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd. 18 A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr Arglwydd. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i’w dŷ ei hun. 19 Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn amddiffynfeydd yn y coed, ym mryn Hachila, yr hwn sydd o’r tu deau i’r diffeithwch? 20 Ac yn awr, O frenin, tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin. 21 A dywedodd Saul, Bendigedig fyddoch chwi gan yr Arglwydd: canys tosturiasoch wrthyf. 22 Ewch, atolwg, paratowch; eto mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gyniweirfa ef, lle y mae efe yn tramwy, a phwy a’i gwelodd ef yno; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn. 23 Edrychwch gan hynny, a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt, a dychwelwch ataf fi â sicrwydd, fel yr elwyf gyda chwi; ac os bydd efe yn y wlad, mi a chwiliaf amdano ef trwy holl filoedd Jwda. 24 A hwy a gyfodasant, ac a aethant i Siff o flaen Saul: ond Dafydd a’i wŷr oedd yn anialwch Maon, yn y rhos o’r tu deau i’r diffeithwch. 25 Saul hefyd a’i wŷr a aeth i’w geisio ef. A mynegwyd i Dafydd: am hynny efe a ddaeth i waered i graig, ac a arhosodd yn anialwch Maon. A phan glybu Saul hynny, efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon. 26 A Saul a aeth o’r naill du i’r mynydd, a Dafydd a’i wŷr o’r tu arall i’r mynydd; ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul; canys Saul a’i wŷr a amgylchynasant Dafydd a’i wŷr, i’w dala hwynt.

27 Ond cennad a ddaeth at Saul, gan ddywedyd, Brysia, a thyred: canys y Philistiaid a ymdaenasant ar hyd y wlad. 28 Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid: oherwydd hynny y galwasant y fan honno Sela Hamma-lecoth.

29 A Dafydd a aeth i fyny oddi yno, ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En-gedi.

24 A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi. Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion. Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof. A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel. Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul. Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr Arglwydd, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr Arglwydd yw efe. Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd. Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd.

A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti? 10 Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r Arglwydd dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a’th arbedodd di: a dywedais, Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys eneiniog yr Arglwydd yw efe. 11 Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di, heb dy ladd; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i’w dala hi. 12 Barned yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, a dialed yr Arglwydd fi arnat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. 13 Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. 14 Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ci marw, ar ôl chwannen. 15 Am hynny bydded yr Arglwydd yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o’th law di.

16 A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. 17 Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg. 18 A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr Arglwydd fi yn dy law di, ac ni’m lleddaist. 19 Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn. 20 Ac wele yn awr, mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di. 21 Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r Arglwydd, na thorri ymaith fy had i ar fy ôl, ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad. 22 A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i’w dŷ: Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fyny i’r amddiffynfa.

Luc 12:1-31

12 Yn y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nis gwybyddir. Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai. Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur. Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch. Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw: Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a’m haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau gerbron angylion Duw. A’r hwn a’m gwado i gerbron dynion, a wedir gerbron angylion Duw. 10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir. 11 A phan y’ch dygant i’r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a’r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch: 12 Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.

13 A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth. 14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi? 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd‐dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.

16 Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda. 17 Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? 18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m da. 19 A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen. 20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist? 21 Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.

22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch. 23 Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth, a’r corff yn fwy na’r dillad. 24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i’r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar? 25 A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? 26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill? 27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 28 Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i’r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd? 29 Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus. 30 Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau’r pethau hyn.

31 Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.