Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 19-21

19 A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd. Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia: A mi a af allan, ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo, a mi a ymddiddanaf â’m tad o’th blegid di; a’r hyn a welwyf, mi a’i mynegaf i ti.

A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Na pheched y brenin yn erbyn ei was, yn erbyn Dafydd: oherwydd ni phechodd efe i’th erbyn di, ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti. Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a drawodd y Philistiad; a’r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr i holl Israel: ti a’i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos? A Saul a wrandawodd ar lais Jonathan; a Saul a dyngodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni leddir ef. A Jonathan a alwodd ar Dafydd; a Jonathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn. A Jonathan a ddug Dafydd at Saul: ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt. A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr; a hwy a ffoesant rhagddo ef. A’r drwg ysbryd oddi wrth yr Arglwydd oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â’i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu â’i law. 10 A cheisiodd Saul daro â’i waywffon trwy Dafydd, yn y pared: ond efe a giliodd o ŵydd Saul; ac yntau a drawodd y waywffon yn y pared. A Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd y nos honno. 11 Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd, i’w wylied ef, ac i’w ladd ef y bore: a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd, gan ddywedyd, Onid achubi dy einioes heno, yfory y’th leddir.

12 Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr: ac efe a aeth, ac a ffodd, ac a ddihangodd. 13 A Michal a gymerodd ddelw, ac a’i gosododd yn y gwely; a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi, ac a’i gorchuddiodd â dillad. 14 A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, Y mae efe yn glaf. 15 A Saul a anfonodd eilwaith genhadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd, Dygwch ef i fyny ataf fi yn ei wely, fel y lladdwyf ef. 16 A phan ddaeth y cenhadau, wele y ddelw ar y gwely, a chlustog o flew geifr yn obennydd iddi. 17 A dywedodd Saul wrth Michal, Paham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc? A Michal a ddywedodd wrth Saul, Efe a ddywedodd wrthyf, Gollwng fi; onid e, mi a’th laddaf di.

18 Felly Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd, ac a ddaeth at Samuel i Rama; ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Saul iddo ef. Ac efe a aeth at Samuel, a hwy a drigasant yn Naioth. 19 A mynegwyd i Saul, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn Naioth o fewn Rama. 20 A Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd. A phan welsant gynulleidfa y proffwydi yn proffwydo, a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy, yr oedd ar genhadau Saul ysbryd Duw, fel y proffwydasant hwythau hefyd. 21 A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a broffwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phroffwydasant hwythau hefyd. 22 Yna yntau hefyd a aeth i Rama; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu: ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, Pa le y mae Samuel a Dafydd? Ac un a ddywedodd, Wele, y maent yn Naioth o fewn Rama. 23 Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama. Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd Duw; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Rama. 24 Ac efe a ddiosgodd ei ddillad, ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos. Am hynny y dywedent, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?

20 A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato Duw; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae. A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristáu ef: cyn wired â bod yr Arglwydd yn fyw, a’th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau. Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a’i cwblhaf i ti. A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o’r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd. Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei hun: canys aberth blynyddol sydd yno i’r holl genedl. Os fel hyn y dywed efe, Da; heddwch fydd i’th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg. Gwna gan hynny drugaredd â’th was; canys i gyfamod yr Arglwydd y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad? A dywedodd Jonathan, Na ato Duw hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i’th erbyn, onis mynegwn i ti? 10 A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a’th etyb yn arw?

11 A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Tyred, ac awn i’r maes. A hwy a aethant ill dau i’r maes. 12 A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O Arglwydd Dduw Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhad, ynghylch y pryd hwn yfory, neu drennydd; ac wele, os daioni fydd tuag at Dafydd, ac oni anfonaf yna atat ti, a’i fynegi i ti; 13 Fel hyn y gwnêl yr Arglwydd i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a’th ollyngaf ymaith, fel yr elych mewn heddwch: a bydded yr Arglwydd gyda thi, megis y bu gyda’m tad i. 14 Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr Arglwydd â mi, fel na byddwyf fi marw: 15 Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr Arglwydd elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear. 16 Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned yr Arglwydd hyn ar law gelynion Dafydd. 17 A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a’i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef. 18 A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o’r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag. 19 Ac wedi i ti aros dridiau, yna tyred i waered yn fuan; a thyred i’r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ar waith, ac aros wrth faen Esel. 20 A mi a saethaf dair o saethau tua’i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod. 21 Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr Arglwydd. 22 Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr Arglwydd a’th anfonodd ymaith. 23 Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd.

24 Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o’r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd. 25 A’r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag. 26 Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd mai damwain oedd hyn; nad oedd efe lân, a’i fod yn aflan. 27 A bu drannoeth, yr ail ddydd o’r mis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na heddiw? 28 A Jonathan a atebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem: 29 Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i’n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas, a’m brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin. 30 Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam? 31 Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni’th sicrheir di na’th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe. 32 A Jonathan a atebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe? 33 A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i’w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd. 34 Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o’r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i’w dad ei waradwyddo ef.

35 A’r bore yr aeth Jonathan i’r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gydag ef. 36 Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. A’r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef. 37 A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, Onid yw y saeth o’r tu hwnt i ti? 38 A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, Cyflyma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr. 39 A’r bachgen ni wyddai ddim: yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth. 40 A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen, ac a ddywedodd wrtho, Dos, dwg y rhai hyn i’r ddinas.

41 A’r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy a gusanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd. 42 A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dos mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a’th had dithau, safed hynny yn dragywydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i’r ddinas.

21 Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad. Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydwyt ti yn unig, ac heb neb gyda thi? A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o’r peth am yr hwn y’th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a’r gweision a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle. Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bum torth yn fy llaw, neu y peth sydd i’w gael. A’r offeiriad a atebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae bara cysegredig: os y llanciau a ymgadwasant o’r lleiaf oddi wrth wragedd. A Dafydd a atebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i; llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd, a’r bara sydd megis cyffredin, ie, petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr. Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd: canys nid oedd yno fara, ond y bara gosod, yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr Arglwydd, i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith. Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros gerbron yr Arglwydd, a’i enw Doeg, Edomiad, y pennaf o’r bugeiliaid oedd gan Saul.

A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na’m harfau chwaith i’m llaw, oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst. A dywedodd yr offeiriad, Cleddyf Goleiath y Philistiad, yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o’r tu ôl i’r effod: o chymeri hwnnw i ti, cymer; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, Nid oes o fath hwnnw; dyro ef i mi.

10 Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul, ac a aeth at Achis brenin Gath. 11 A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn? 12 A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath. 13 Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf. 14 Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gŵr yn gwallgofi; paham y dygasoch ef ataf fi? 15 Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i? a gaiff hwn ddyfod i’m tŷ i?

Luc 11:29-54

29 Ac wedi i’r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y proffwyd: 30 Canys fel y bu Jonas yn arwydd i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i’r genhedlaeth hon. 31 Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma. 32 Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma. 33 Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni. 34 Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll. 35 Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch. 36 Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di.

37 Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta. 38 A’r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio. 39 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni. 40 O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd? 41 Yn hytrach rhoddwch elusen o’r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi. 42 Eithr gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu’r mintys, a’r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur. 43 Gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych yn caru’r prif gadeiriau yn y synagogau, a chyfarch yn y marchnadoedd. 44 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a’r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.

45 Ac un o’r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd. 46 Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anodd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â’r beichiau ag un o’ch bysedd. 47 Gwae chwychwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, a’ch tadau chwi a’u lladdodd hwynt. 48 Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gydfodlon i weithredoedd eich tadau: canys hwynt‐hwy yn wir a’u lladdasant hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt. 49 Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant: 50 Fel y gofynner i’r genhedlaeth hon waed yr holl broffwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd; 51 O waed Abel hyd waed Sachareias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r deml; diau meddaf i chwi, Gofynnir ef i’r genhedlaeth hon. 52 Gwae chwychwi, y cyfreithwyr! canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi. 53 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn daer iawn arno, a’i annog i ymadrodd am lawer o bethau; 54 Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o’i ben ef, i gael achwyn arno.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.