Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Samuel 10-12

10 Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr Arglwydd a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth? Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab? Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at Dduw i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win. A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt. Ar ôl hynny y deui i fryn Duw, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i’r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa, ac o’u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall. A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys Duw sydd gyda thi. A dos i waered o’m blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.

A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel, Duw a roddodd iddo galon arall: a’r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben. 10 A phan ddaethant yno i’r bryn, wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfod ef: ac ysbryd Duw a ddaeth arno yntau, ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt. 11 A phawb a’r a’i hadwaenai ef o’r blaen a edrychasant; ac wele efe gyda’r proffwydi yn proffwydo. Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi? 12 Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi? 13 Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i’r uchelfa.

14 Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lanc ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio’r asynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel. 15 Ac ewythr Saul a ddywedodd, Mynega, atolwg, i mi, beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi. 16 A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr, Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael. Ond am chwedl y frenhiniaeth, yr hwn a ddywedasai Samuel, nid ynganodd efe wrtho.

17 A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr Arglwydd i Mispa; 18 Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o’r Aifft, ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a’r rhai a’ch gorthryment chwi. 19 A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr Arglwydd wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd. 20 A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu: a daliwyd llwyth Benjamin. 21 Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef. 22 Am hynny y gofynasant eto i’r Arglwydd, a ddeuai y gŵr yno eto. A’r Arglwydd a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn. 23 A hwy a redasant, ac a’i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, yr oedd efe o’i ysgwydd i fyny yn uwch na’r holl bobl. 24 A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A’r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo’r brenin. 25 Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a’i gosododd gerbron yr Arglwydd. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i’w dŷ.

26 A Saul hefyd a aeth i’w dŷ ei hun i Gibea; a byddin o’r rhai y cyffyrddasai Duw â’u calon, a aeth gydag ef. 27 Ond meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a’i dirmygasant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.

11 Yna Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny, ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead: a holl wŷr Jabes a ddywedasant wrth Nahas, Gwna gyfamod â ni, ac ni a’th wasanaethwn di. A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, Dan yr amod hyn y cyfamodaf â chwi; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi, fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel. A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a’n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti.

A’r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl. A’r holl bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o’r maes. A dywedodd Saul, Beth sydd yn peri i’r bobl wylo? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes. Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a’i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr. Ac efe a gymerth bâr o ychen, ac a’u drylliodd, ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i’w wartheg ef. Ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd. A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain. A hwy a ddywedasant wrth y cenhadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A’r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant. 10 Am hynny gwŷr Jabes a ddywedasant, Yfory y deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda. 11 A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd: a’r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd.

12 A dywedodd y bobl wrth Samuel, Pwy yw yr hwn a ddywedodd, A deyrnasa Saul arnom ni? moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth. 13 A Saul a ddywedodd, Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw, y gwnaeth yr Arglwydd ymwared yn Israel. 14 Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Deuwch, fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddom y frenhiniaeth yno. 15 A’r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gwnaethant Saul yn frenin, gerbron yr Arglwydd yn Gilgal: a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr Arglwydd. A Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel, yn ddirfawr.

12 A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch. Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o’ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn. Wele fi; tystiolaethwch i’m herbyn gerbron yr Arglwydd, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a’i talaf i chwi. A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb. Dywedodd yntau wrthynt, Yr Arglwydd sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A’r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw.

A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr Arglwydd yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a’r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft. Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr Arglwydd, am holl gyfiawnderau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i’ch tadau. Wedi i Jacob ddyfod i’r Aifft, a gweiddi o’ch tadau chwi ar yr Arglwydd, yna yr Arglwydd a anfonodd Moses ac Aaron: a hwy a ddygasant eich tadau chwi o’r Aifft, ac a’u cyfleasant hwy yn y lle hwn. A phan angofiasant yr Arglwydd eu Duw, efe a’u gwerthodd hwynt i law Sisera, tywysog milwriaeth Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab; a hwy a ymladdasant i’w herbyn hwynt. 10 A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr Arglwydd, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a’th wasanaethwn di. 11 A’r Arglwydd a anfonodd Jerwbbaal, a Bedan, a Jefftha, a Samuel, ac a’ch gwaredodd chwi o law eich gelynion o amgylch, a chwi a breswyliasoch yn ddiogel. 12 A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a’r Arglwydd eich Duw yn frenin i chwi. 13 Ac yn awr, wele y brenin a ddewisasoch chwi, a’r hwn a ddymunasoch: ac wele, yr Arglwydd a roddes frenin arnoch chwi. 14 Os ofnwch chwi yr Arglwydd, a’i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y byddwch chwi, a’r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr Arglwydd eich Duw. 15 Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd, eithr anufuddhau gair yr Arglwydd; yna y bydd llaw yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.

16 Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi. 17 Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw? Galwaf ar yr Arglwydd; ac efe a ddyry daranau, a glaw: fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr Arglwydd, yn gofyn i chwi frenin. 18 Felly Samuel a alwodd ar yr Arglwydd; a’r Arglwydd a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw; a’r holl bobl a ofnodd yr Arglwydd a Samuel yn ddirfawr. 19 A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr Arglwydd dy Dduw, fel na byddom feirw; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth geisio i ni frenin.

20 A dywedodd Samuel wrth y bobl, Nac ofnwch; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: eto na chiliwch oddi ar ôl yr Arglwydd, ond gwasanaethwch yr Arglwydd â’ch holl galon; 21 Ac na chiliwch: canys felly yr aech ar ôl oferedd, y rhai ni lesânt, ac ni’ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy. 22 Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i’r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun. 23 A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd, trwy beidio â gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn. 24 Yn unig ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â’ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch. 25 Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a’ch brenin a ddifethir.

Luc 9:37-62

37 A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. 38 Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw. 39 Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef. 40 Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. 41 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma. 42 Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad.

43 A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 44 Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion. 45 Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.

46 A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt. 47 A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl, 48 Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.

49 Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyda ni. 50 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i’n herbyn, trosom ni y mae.

51 A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem. 52 Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef. 53 Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem. 54 A’i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias? 55 Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi. 56 Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

57 A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 58 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr. 59 Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw. 61 Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ. 62 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.