Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Barnwyr 16-18

16 Yna Samson a aeth i Gasa; ac a ganfu yno buteinwraig, ac a aeth i mewn ati hi. A mynegwyd i’r Gasiaid, gan ddywedyd, Daeth Samson yma. A hwy a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo, ar hyd y nos, ym mhorth y ddinas; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos, gan ddywedyd, Y bore pan oleuo hi, ni a’i lladdwn ef. A Samson a orweddodd hyd hanner nos; ac a gyfododd ar hanner nos, ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac a aeth ymaith â hwynt ynghyd â’r bar, ac a’u gosododd ar ei ysgwyddau, ac a’u dug hwynt i fyny i ben bryn sydd gyferbyn â Hebron.

Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec, a’i henw Dalila. Ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny ati hi, ac a ddywedasant wrthi, Huda ef, ac edrych ym mha le y mae ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef i’w gystuddio: ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian. A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Mynega i mi, atolwg, ym mha fan y mae dy fawr nerth di, ac â pha beth y’th rwymid i’th gystuddio. A Samson a ddywedodd wrthi, Pe rhwyment fi â saith o wdyn irion, y rhai ni sychasai; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall. Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddygasant i fyny ati hi saith o wdyn irion, y rhai ni sychasent; a hi a’i rhwymodd ef â hwynt. (A chynllwynwyr oedd yn aros ganddi mewn ystafell.) A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a dorrodd y gwdyn, fel y torrir edau garth wedi cyffwrdd â’r tân: felly ni wybuwyd ei gryfder ef. 10 A dywedodd Dalila wrth Samson, Ti a’m twyllaist, ac a ddywedaist gelwydd wrthyf: yn awr mynega i mi, atolwg, â pha beth y gellid dy rwymo. 11 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pe gan rwymo y rhwyment fi â rhaffau newyddion, y rhai ni wnaethpwyd gwaith â hwynt; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall. 12 Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion, ac a’i rhwymodd ef â hwynt; ac a ddywedodd wrtho, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. (Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell.) Ac efe a’u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau. 13 A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gelwydd wrthyf: mynega i mi, â pha beth y’th rwymid. Dywedodd yntau wrthi hi, Pe plethit ti saith gudyn fy mhen ynghyd â’r we. 14 A hi a’i gwnaeth yn sicr â’r hoel; ac a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg, ac a aeth ymaith â hoel y garfan, ac â’r we.

15 A hi a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd y dywedi, Cu gennyf dydi, a’th galon heb fod gyda mi? Teirgwaith bellach y’m twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym mha fan y mae dy fawr nerth. 16 Ac oherwydd ei bod hi yn ei flino ef â’i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef, ei enaid a ymofidiodd i farw: 17 Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nasaread i Dduw ydwyf fi o groth fy mam. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall. 18 A phan welodd Dalila fynegi ohono ef iddi hi ei holl galon, hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny unwaith; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon. Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddaethant i fyny ati hi, ac a ddygasant arian yn eu dwylo. 19 A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau; ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef; a’i nerth a ymadawodd oddi wrtho. 20 A hi a ddywedodd, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg, ac a ddywedodd, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf. Ond ni wyddai efe fod yr Arglwydd wedi cilio oddi wrtho.

21 Ond y Philistiaid a’i daliasant ef, ac a dynasant ei lygaid ef, ac a’i dygasant ef i waered i Gasa, ac a’i rhwymasant ef â gefynnau pres; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy. 22 Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dyfu drachefn, ar ôl ei eillio. 23 Yna arglwyddi’r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni. 24 A phan welodd y bobl ef, hwy a ganmolasant eu duw: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni, yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, yr hwn a laddodd lawer ohonom ni. 25 A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, Gelwch am Samson, i beri i ni chwerthin. A hwy a alwasant am Samson o’r carchardy, fel y chwaraeai o’u blaen hwynt; a hwy a’i gosodasant ef rhwng y colofnau. 26 A Samson a ddywedodd wrth y llanc oedd yn ymaflyd yn ei law ef, Gollwng, a gad i mi gael gafael ar y colofnau y mae y tŷ yn sefyll arnynt, fel y pwyswyf arnynt. 27 A’r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd; a holl arglwyddi’r Philistiaid oedd yno: ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae. 28 A Samson a alwodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd IOR, cofia fi, atolwg, a nertha fi, atolwg, yn unig y waith hon, O Dduw, fel y dialwyf ag un dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygad. 29 A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll arnynt, ac a ymgynhaliodd wrthynt, un yn ei ddeheulaw, a’r llall yn ei law aswy. 30 A dywedodd Samson, Bydded farw fy einioes gyda’r Philistiaid. Ac efe a ymgrymodd â’i holl nerth; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl oedd ynddo: a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd. 31 A’i frodyr ef, a holl dŷ ei dad ef, a ddaethant i waered, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant i fyny, ac a’i claddasant ef rhwng Sora ac Estaol, ym meddrod Manoa ei dad. Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd.

17 Ac yr oedd gŵr o fynydd Effraim, a’i enw Mica. Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a’r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a’i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr Arglwydd. A phan roddodd efe y mil a’r can sicl arian adref i’w fam, ei fam a ddywedodd, Gan gysegru y cysegraswn yr arian i’r Arglwydd o’m llaw, i’m mab, i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti. Eto efe a dalodd yr arian i’w fam. A’i fam a gymerth ddau can sicl o arian, ac a’u rhoddodd i’r toddydd; ac efe a’u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: a hwy a fuant yn nhŷ Mica. A chan y gŵr hwn Mica yr oedd tŷ duwiau; ac efe a wnaeth effod, a theraffim, ac a gysegrodd un o’i feibion i fod yn offeiriad iddo. Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; ond pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.

Ac yr oedd gŵr ieuanc o Bethlehem Jwda, o dylwyth Jwda, a Lefiad oedd efe; ac efe a ymdeithiai yno. A’r gŵr a aeth allan o’r ddinas o Bethlehem Jwda, i drigo pa le bynnag y caffai le: ac efe a ddaeth i fynydd Effraim i dŷ Mica, yn ei ymdaith. A Mica a ddywedodd wrtho, O ba le y daethost ti? Dywedodd yntau wrtho, Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le. 10 A Mica a ddywedodd wrtho. Trig gyda mi, a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob blwyddyn, a phâr o ddillad, a’th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn. 11 A’r Lefiad a fu fodlon i aros gyda’r gŵr; a’r gŵr ieuanc oedd iddo fel un o’i feibion. 12 A Mica a urddodd y Lefiad; a’r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo, ac a fu yn nhŷ Mica. 13 Yna y dywedodd Mica, Yn awr y gwn y gwna yr Arglwydd ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad.

18 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ymysg llwythau Israel. A meibion Dan a anfonasant o’u tylwyth bump o wŷr o’u bro, gwŷr grymus, o Sora, ac o Estaol, i ysbïo’r wlad, ac i’w chwilio; ac a ddywedasant wrthynt, Ewch, chwiliwch y wlad. A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica, hwy a letyasant yno. Pan oeddynt hwy wrth dŷ Mica, hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad; ac a droesant yno, ac a ddywedasant wrtho, Pwy a’th ddug di yma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma? a pheth sydd i ti yma? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi; ac efe a’m cyflogodd i, a’i offeiriad ef ydwyf fi. A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, atolwg, â Duw, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni. A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: gerbron yr Arglwydd y mae eich ffordd chwi, yr hon a gerddwch.

Yna y pumwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Lais; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal; ac nid oedd swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim: a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb. A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol. A’u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth a ddywedwch chwi? Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fyny arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn yw hi. Ai tewi yr ydych chwi? na ddiogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu’r wlad. 10 Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlad eang: canys Duw a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle nid oes ynddo eisiau dim a’r y sydd ar y ddaear.

11 Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sora ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu ag arfau rhyfel. 12 A hwy a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Ciriath‐jearim, yn Jwda: am hynny y galwasant y fan honno Mahane-Dan, hyd y dydd hwn: wele, y mae o’r tu ôl i Ciriath‐jearim. 13 A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim, ac a ddaethant hyd dŷ Mica.

14 A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio gwlad Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a theraffim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch. 15 A hwy a droesant tuag yno; ac a ddaethant hyd dŷ y gŵr ieuanc y Lefiad, i dŷ Mica; ac a gyfarchasant well iddo. 16 A’r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, sef y rhai oedd o feibion Dan. 17 A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio’r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, a’r effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel. 18 A’r rhai hyn a aethant i dŷ Mica, ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig. Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur? 19 Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw â sôn; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyda ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad: ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr, na’th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel? 20 A da fu gan galon yr offeiriad; ac efe a gymerth yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw gerfiedig, ac a aeth ymysg y bobl. 21 A hwy a droesant, ac a aethant ymaith; ac a osodasant y plant, a’r anifeiliaid, a’r clud, o’u blaen.

22 A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Mica, y gwŷr oedd yn y tai wrth dŷ Mica a ymgasglasant, ac a erlidiasant feibion Dan. 23 A hwy a waeddasant ar feibion Dan. Hwythau a droesant eu hwynebau, ac a ddywedasant wrth Mica, Beth a ddarfu i ti, pan wyt yn dyfod â’r fath fintai? 24 Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a’r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth sydd gennyf fi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf, Beth a ddarfu i ti? 25 A meibion Dan a ddywedasant wrtho, Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni; rhag i wŷr dicllon ruthro arnat ti, a cholli ohonot dy einioes, ac einioes dy deulu. 26 A meibion Dan a aethant i’w ffordd. A phan welodd Mica eu bod hwy yn gryfach nag ef, efe a drodd, ac a ddychwelodd i’w dŷ. 27 A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a’r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl lonydd a diofal; ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân. 28 Ac nid oedd waredydd; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth‐rehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi. 29 A hwy a alwasant enw y ddinas Dan, yn ôl enw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Israel: er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf.

30 A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig: a Jonathan mab Gerson, mab Manasse, efe a’i feibion, fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad. 31 A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica, yr holl ddyddiau y bu tŷ Dduw yn Seilo.

Luc 7:1-30

Ac wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai’r bobl, efe a aeth i mewn i Gapernaum. A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd annwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymron marw. A phan glybu efe sôn am yr Iesu, efe a ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon, gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef. Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo; Canys y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni synagog. A’r Iesu a aeth gyda hwynt. Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion ato, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: Oherwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas. Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. Pan glybu’r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 10 A’r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.

11 A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion, a thyrfa fawr. 12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi. 13 A’r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla. 14 A phan ddaeth atynt, efe a gyffyrddodd â’r elor: a’r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod. 15 A’r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a’i rhoddes i’w fam. 16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â’i bobl. 17 A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea, a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch. 18 A’i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.

19 Ac Ioan, wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 20 A’r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl? 21 A’r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phlâu, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg. 22 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl. 23 A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.

24 Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt? 25 Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent. 26 Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy na phroffwyd. 27 Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 28 Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef. 29 A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan. 30 Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.