Old/New Testament
11 A Jefftha y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol, ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig: a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw. 2 A gwraig Gilead a ymddûg iddo feibion: a meibion y wraig a gynyddasant, ac a fwriasant ymaith Jefftha, ac a ddywedasant wrtho, Nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti. 3 Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyr, ac a drigodd yng ngwlad Tob; a dynion ofer a ymgasglasant at Jefftha, ac a aethant allan gydag ef.
4 Ac wedi talm o ddyddiau, meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel. 5 A phan oedd meibion Ammon yn rhyfela yn erbyn Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jefftha o wlad Tob: 6 Ac a ddywedasant wrth Jefftha, Tyred a bydd yn dywysog i ni, fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon. 7 A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, Oni chasasoch chwi fi, ac a’m gyrasoch o dŷ fy nhad? a phaham y deuwch ataf fi yn awr, pan yw gyfyng arnoch? 8 A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Am hynny y dychwelasom yn awr atat ti, fel y delit gyda ni, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon, ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead. 9 A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, O dygwch fi yn fy ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o’r Arglwydd hwynt o’m blaen i; a gaf fi fod yn ben arnoch chwi? 10 A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Yr Arglwydd a fyddo yn dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di. 11 Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead; a’r bobl a’i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt: a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau gerbron yr Arglwydd ym Mispa.
12 A Jefftha a anfonodd genhadau at frenin meibion Ammon, gan ddywedyd, Beth sydd i ti a wnelych â mi, fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlad i? 13 A brenin meibion Ammon a ddywedodd wrth genhadau Jefftha, Oherwydd i Israel ddwyn fy ngwlad i pan ddaeth i fyny o’r Aifft, o Arnon hyd Jabboc, a hyd yr Iorddonen: yn awr gan hynny dod hwynt adref mewn heddwch. 14 A Jefftha a anfonodd drachefn genhadau at frenin meibion Ammon; 15 Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Jefftha; Ni ddug Israel dir Moab, na thir meibion Ammon: 16 Ond pan ddaeth Israel i fyny o’r Aifft, a rhodio trwy’r anialwch, hyd y môr coch, a dyfod i Cades; 17 Yna Israel a anfonodd genhadau at frenin Edom, gan ddywedyd, Gad i mi dramwy, atolwg, trwy dy wlad di. Ond ni wrandawodd brenin Edom. A hwy a anfonasant hefyd at frenin Moab: ond ni fynnai yntau. Felly Israel a arhosodd yn Cades. 18 Yna hwy a gerddasant yn yr anialwch, ac a amgylchynasant wlad Edom, a gwlad Moab; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab, ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab: canys Arnon oedd derfyn Moab. 19 Ac Israel a anfonodd genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, brenin Hesbon; ac Israel a ddywedodd wrtho, Gad i ni dramwy, atolwg, trwy dy wlad di, hyd fy mangre. 20 Ond nid ymddiriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef: eithr Sehon a gasglodd ei holl bobl, a hwy a wersyllasant yn Jahas, ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel. 21 Ac Arglwydd Dduw Israel a roddodd Sehon a’i holl bobl yn llaw Israel; a hwy a’u trawsant hwynt. Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amoriaid, trigolion y wlad honno. 22 Meddianasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid, o Arnon hyd Jabboc, ac o’r anialwch hyd yr Iorddonen. 23 Felly yn awr, Arglwydd Dduw Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny ai tydi a’i meddiannit hi? 24 Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i’w feddiannu? Felly yr hyn oll a oresgynno yr Arglwydd ein Duw o’n blaen ni a feddiannwn ninnau. 25 Ac yn awr, a wyt ti yn well na Balac mab Sippor, brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd a ymladdodd efe i’w herbyn hwy? 26 Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a’i threfydd, ac yn Aroer a’i threfydd, ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Arnon, dri chan mlynedd; paham nad achubasoch hwynt y pryd hwnnw? 27 Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur cam â mi, gan ymladd yn fy erbyn i; yr Arglwydd Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon. 28 Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha, y rhai a anfonodd efe ato.
29 Yna y daeth ysbryd yr Arglwydd ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon. 30 A Jefftha a addunedodd adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i; 31 Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr Arglwydd, a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm.
32 Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn; a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef. 33 Ac efe a’u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain dinas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn. Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.
34 A Jefftha a ddaeth i Mispa i’w dŷ ei hun: ac wele ei ferch yn dyfod allan i’w gyfarfod â thympanau, ac â dawnsiau; a hi oedd ei unig etifedd ef; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi. 35 A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac ddywedodd, Ah! ah! fy merch, gan ddarostwng y darostyngaist fi; ti hefyd wyt un o’r rhai sydd yn fy molestu: canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr Arglwydd, ac ni allaf gilio. 36 A hi a ddywedodd wrtho, Fy nhad, od agoraist dy enau wrth yr Arglwydd, gwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o’th enau; gan i’r Arglwydd wneuthur drosot ti ddialedd ar dy elynion, meibion Ammon. 37 Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad, Gwneler i mi y peth hyn; paid â mi ddau fis, fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd, ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod, mi a’m cyfeillesau. 38 Ac efe a ddywedodd, Dos. Ac efe a’i gollyngodd hi dros ddau fis. A hi a aeth â’i chyfeillesau, ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd. 39 Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad: ac efe a wnaeth â hi yr adduned a addunasai efe: a hi ni adnabuasai ŵr. A bu hyn yn ddefod yn Israel, 40 Fyned o ferched Israel bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad, bedwar diwrnod yn y flwyddyn.
12 A Gwŷr Effraim a ymgasglasant, ac a sethant tua’r gogledd, ac a ddywedasant wrth Jefftha, Paham yr aethost ti drosodd i ymladd yn erbyn meibion Ammon, ac na elwaist arnom ni i fyned gyda thi? dy dŷ di a losgwn ni am dy ben â thân. 2 A Jefftha a ddywedodd wrthynt hwy, Myfi a’m pobl oeddem yn ymryson yn dost yn erbyn meibion Ammon; a mi a’ch gelwais chwi, ond ni waredasoch fi o’u llaw hwynt. 3 A phan welais i nad oeddech yn fy achub, mi a osodais fy einioes yn fy llaw, ac a euthum yn erbyn meibion Ammon; a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn fy llaw i: paham gan hynny y daethoch i fyny ataf fi y dydd hwn, i ymladd i’m herbyn? 4 Yna Jefftha a gasglodd ynghyd holl wŷr Gilead, ac a ymladdodd ag Effraim: a gwŷr Gilead a drawsant Effraim, am ddywedyd ohonynt hwy, Ffoaduriaid Effraim ymysg yr Effraimiaid, ac ymysg Manasse, ydych chwi y Gileadiaid. 5 A’r Gileadiaid a enillasant rydau yr Iorddonen o flaen yr Effraimiaid: a phan ddywedai yr Effraimiaid a ddianghasent, Gedwch i mi fyned drwodd: yna gwŷr Gilead a ddywedent wrtho, Ai Effraimiaid ydwyt ti? Os dywedai yntau, Nage; 6 Yna y dywedent wrtho, Dywed yn awr, Shibboleth. Dywedai yntau, Sibboleth; canys ni fedrai efe lefaru felly. Yna y dalient ef, ac y lladdent ef wrth rydau yr Iorddonen. A chwympodd y pryd hwnnw o Effraim ddwy fil a deugain. 7 A Jefftha a farnodd Israel chwe blynedd. Yna y bu farw Jefftha y Gileadiad, ac a gladdwyd yn un o ddinasoedd Gilead.
8 Ac ar ei ôl ef, Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel. 9 Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain, a deng merch ar hugain, y rhai a anfonodd efe allan, a deng merch ar hugain a ddug efe i’w feibion oddi allan. Ac efe a farnodd Israel saith mlynedd. 10 Yna y bu farw Ibsan, ac a gladdwyd yn Bethlehem.
11 Ac ar ei ôl ef, Elon y Sabuloniad a farnodd Israel: ac efe a farnodd Israel ddeng mlynedd. 12 Ac Elon y Sabuloniad a fu farw, ac a gladdwyd yn Ajalon, yng ngwlad Sabulon.
13 Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a farnodd Israel ar ei ôl ef. 14 Ac iddo ef yr oedd deugain o feibion, a deg ar hugain o wyrion, yn marchogaeth ar ddeg a thrigain o ebolion asynnod: ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd. 15 Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a fu farw: ac a gladdwyd yn Pirathon, yng ngwlad Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.
6 A bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy’r ŷd: a’i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a’u bwytasant, gwedi eu rhwbio â’u dwylo. 2 A rhai o’r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau? 3 A’r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef; 4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i’r offeiriaid yn unig? 5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd.
6 A bu hefyd ar Saboth arall, iddo fyned i mewn i’r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a’i law ddeau wedi gwywo. 7 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef. 8 Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â’r llaw wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd. 9 Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli? 10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. 11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu. 12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned ohono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddïo Duw.
13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion; 14 Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Philip, a Bartholomeus; 15 Mathew, a Thomas; Iago mab Alffeus, a Simon a elwir Selotes; 16 Jwdas brawd Iago, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.
17 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i’w hiacháu o’u clefydau, 18 A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd. 19 A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned ohono allan, ac yn iacháu pawb.
20 Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. 21 Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch. 22 Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn. 23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi. 24 Eithr gwae chwi’r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch. 25 Gwae chwi’r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch. 26 Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.