Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Barnwyr 9-10

Ac Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac â holl dylwyth tŷ tad ei fam, gan ddywedyd, Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ydwyf fi. A brodyr ei fam a ddywedasant amdano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a’u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech; canys dywedasant, Ein brawd ni yw efe. A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dŷ Baal‐berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef. Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Offra, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerwbbaal, y rhai oedd ddengwr a thrigain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerwbbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai. A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem.

A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau. Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni. Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m braster, â’r hwn trwof fi yr anrhydeddant Dduw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill? 10 A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni. 11 Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m melystra, ac â’m ffrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill? 12 Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni. 13 A’r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy, A ymadawaf fi â’m melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill? 14 Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren, Tyred di, teyrnasa arnom ni. 15 A’r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tân allan o’r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus. 16 Yn awr gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda â Jerwbbaal, ac â’i dŷ, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo: 17 (Canys fy nhad a ymladdodd drosoch chwi, ac a anturiodd ei einioes ymhell, ac a’ch gwaredodd chwi o law Midian: 18 A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddiw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thrigain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei lawforwyn ef, yn frenin ar wŷr Sichem, oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi:) 19 Gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch â Jerwbbaal, ac â’i dŷ ef, y dydd hwn; llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntau ynoch chwithau: 20 Ac onid e, eled tân allan o Abimelech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; hefyd eled tân allan o wŷr Sichem, ac o dŷ Milo, ac ysed Abimelech. 21 A Jotham a giliodd, ac a ffodd, ac a aeth ymaith i Beer, ac a drigodd yno, rhag ofn Abimelech ei frawd.

22 Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd. 23 A Duw a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech: 24 Fel y delai y traha a wnaethid â deng mab a thrigain Jerwbbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a’u lladdodd hwynt ac ar wŷr Sichem, y rhai a’i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr. 25 A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd; a hwy a ysbeiliasant bawb a’r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd. A mynegwyd hynny i Abimelech. 26 A Gaal mab Ebed a ddaeth, efe a’i frodyr, ac a aethant drosodd i Sichem: a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno. 27 A hwy a aethant i’r meysydd, ac a gasglasant eu gwinllannoedd, ac a sangasant eu grawnwin, ac a wnaethant yn llawen, ac a aethant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwytasant ac a yfasant, ac a felltithiasant Abimelech. 28 A Gaal mab Ebed a ddywedodd, Pwy yw Abimelech, a phwy yw Sichem, fel y gwasanaethem ef? onid mab Jerwbbaal yw efe? onid Sebul yw ei swyddog? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem: canys paham y gwasanaethem ni ef? 29 O na byddai y bobl hyn dan fy llaw i, fel y bwriwn ymaith Abimelech! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech, Amlha dy lu, a thyred allan.

30 A phan glybu Sebul, llywodraethwr y ddinas, eiriau Gaal mab Ebed, y llidiodd ei ddicllonedd ef. 31 Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a’i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i’th erbyn. 32 Gan hynny cyfod yn awr liw nos, ti a’r bobl sydd gyda thi, a chynllwyn yn y maes: 33 A chyfod yn fore ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbyn y ddinas: ac wele, pan ddelo efe a’r bobl sydd gydag ef allan i’th erbyn, yna gwna iddo yr hyn a ellych.

34 Ac Abimelech a gyfododd, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, liw nos, ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin. 35 A Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a’r bobl y rhai oedd gydag ef, o’r cynllwyn. 36 A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Sebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Sebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion. 37 A Gaal a chwanegodd eto lefaru, ac a ddywedodd, Wele bobl yn dyfod i waered o ganol y tir, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim. 38 Yna y dywedodd Sebul wrtho ef, Pa le yn awr y mae dy enau di, â’r hwn y dywedaist, Pwy yw Abimelech, pan wasanaethem ef? onid dyma’r bobl a ddirmygaist ti? dos allan, atolwg, yn awr, ac ymladd i’w herbyn. 39 A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd ag Abimelech. 40 Ac Abimelech a’i herlidiodd ef, ac efe a ffodd o’i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth. 41 Ac Abimelech a drigodd yn Aruma: a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a’i frodyr o breswylio yn Sichem. 42 A thrannoeth y daeth y bobl allan i’r maes: a mynegwyd hynny i Abimelech. 43 Ac efe a gymerth y bobl, ac a’u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o’r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a’u trawodd hwynt. 44 Ac Abimelech, a’r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a’r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes, ac a’u trawsant hwy. 45 Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a’i heuodd â halen.

46 A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hynny, hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith. 47 A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem. 48 Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a’r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o’r coed, ac a’i cymerth hi, ac a’i gosododd ar ei ysgwydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau. 49 A’r holl bobl a dorasant bob un ei gangen, ac a aethant ar ôl Abimelech; ac a’u gosodasant wrth yr amddiffynfa, ac a losgasant â hwynt yr amddiffynfa â thân: felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw, ynghylch mil o wŷr a gwragedd.

50 Yna Abimelech a aeth i Thebes; ac a wersyllodd yn erbyn Thebes, ac a’i henillodd hi. 51 Ac yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y ddinas; a’r holl wŷr a’r gwragedd, a’r holl rai o’r ddinas, a ffoesant yno, ac a gaea ant arnynt, ac a ddringasant ar nen y tŵr. 52 Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr, ac a ymladdodd yn ei erbyn; ac a nesaodd at ddrws y tŵr, i’w losgi ef â thân. 53 A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef. 54 Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant amdanaf, Gwraig a’i lladdodd ef. A’i lanc a’i trywanodd ef, ac efe a fu farw. 55 A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, hwy a aethant bob un i’w fangre.

56 Felly y talodd Duw ddrygioni Abimelech, yr hwn a wnaethai efe i’w dad, gan ladd ei ddeg brawd a thrigain. 57 A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd Duw ar eu pen hwynt: a melltith Jotham mab Jerwbaal a ddaeth arnynt hwy.

10 Ac ar ôl Abimelech, y cyfododd i waredu Israel, Tola, mab Pua, mab Dodo, gŵr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim. Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir.

Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jair, Gileadiad; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain. Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ar hugain o ebolion asynnod; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt, y rhai a elwid Hafoth‐Jair hyd y dydd hwn, y rhai ydynt yng ngwlad Gilead. A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon. A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr Arglwydd, ac ni wasanaethasant ef.

A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon. A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn honno: tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, yng ngwlad yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead. A meibion Ammon a aethant trwy’r Iorddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn tŷ Effraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel.

10 A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; oherwydd gwrthod ohonom ein Duw, a gwasanaethu Baalim hefyd. 11 A dywedodd yr Arglwydd wrth feibion Israel, Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid, a rhag yr Amoriaid, a rhag meibion Ammon, a rhag y Philistiaid? 12 Y Sidoniaid hefyd, a’r Amaleciaid, a’r Maoniaid, a’ch gorthrymasant chwi; a llefasoch arnaf, a minnau a’ch gwaredais chwi o’u llaw hwynt. 13 Eto chwi a’m gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach. 14 Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra.

15 A meibion Israel a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Pechasom; gwna di i ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn. 16 A hwy a fwriasant ymaith y duwiau dieithr o’u mysg, ac a wasanaethasant yr Arglwydd: a’i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel. 17 Yna meibion Ammon a ymgynullasant, ac a wersyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant ym Mispa. 18 Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddywedasant wrth ei gilydd, Pa ŵr a ddechrau ymladd yn erbyn meibion Ammon? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead.

Luc 5:17-39

17 A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt.

18 Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef. 19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu. 20 A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau. 21 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig? 22 A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych? 23 Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? 24 Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ. 25 Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw. 26 A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.

27 Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. 28 Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a’i dilynodd ef. 29 A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd. 30 Eithr eu hysgrifenyddion a’u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid? 31 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion. 32 Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

33 A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a’r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed? 34 Yntau a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? 35 Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.

36 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a’r llain o’r newydd ni chytuna â’r hen. 37 Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, ac efe a red allan, a’r costrelau a gollir. 38 Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a’r ddau a gedwir. 39 Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw’r hen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.