Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Barnwyr 1-3

Ac wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â’r Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt? A dywedodd yr Arglwydd, Jwda a â i fyny: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef. A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, Tyred i fyny gyda mi i’m rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a af gyda thi i’th randir dithau. Felly Simeon a aeth gydag ef. A Jwda a aeth i fyny; a’r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid a’r Pheresiaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant ohonynt, yn Besec, ddengmil o wŷr. A hwy a gawsant Adoni‐besec yn Besec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Pheresiaid. Ond Adoni‐besec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef, ac a’i daliasant ef, ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a’i draed. Ac Adoni‐besec a ddywedodd, Deg a thrigain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylo a’u traed, a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi. A hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem; ac efe a fu farw yno. A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem; ac a’i henillasant hi, ac a’i trawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.

Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y deau, ac yn y gwastadedd. 10 A Jwda a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer‐Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai. 11 Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath‐seffer:) 12 A dywedodd Caleb, Yr hwn a drawo Ciriath‐seffer, ac a’i henillo hi, mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo. 13 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a’i henillodd hi. Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo. 14 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di? 15 A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y deau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.

16 A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda, i anialwch Jwda, yr hwn sydd yn neau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyda’r bobl. 17 A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a’i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma. 18 Jwda hefyd a enillodd Gasa a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau. 19 A’r Arglwydd oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt. 20 Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac. 21 Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.

22 A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a’r Arglwydd oedd gyda hwynt. 23 A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel: (ac enw y ddinas o’r blaen oedd Lus.) 24 A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas; ac a ddywedasant wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i’r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi. 25 A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a’i holl deulu. 26 A’r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Lus: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn.

27 Ond ni oresgynnodd Manasse Beth‐sean na’i threfydd, na Thaanach na’i threfydd, na thrigolion Dor na’i threfydd, na thrigolion Ibleam na’i threfydd, na thrigolion Megido na’i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno. 28 Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr.

29 Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser.

30 A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron, na phreswylwyr Nahalol; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt, ac a aethant dan dreth.

31 Ac Aser ni yrrodd ymaith drigolion Acco, na thrigolion Sidon, nac Alab, nac Achsib, na Helba, nac Affic, na Rehob: 32 Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad; canys ni yrasant hwynt allan.

33 A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth‐semes, na thrigolion Beth‐anath; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth‐semes a Beth‐anath oedd dan dreth iddynt.

34 A’r Amoriaid a yrasant feibion Dan i’r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i’r dyffryn. 35 A’r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon, ac yn Saalbim: eto llaw tŷ Joseff a orthrechodd, a’r Amoriaid fuant dan dreth iddynt. 36 A therfyn yr Amoriaid oedd o riw Acrabbim, o’r graig, ac uchod.

Ac angel yr Arglwydd a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac arweiniais chwi i’r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth. Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn? Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi: eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau, a’u duwiau fydd yn fagl i chwi. A phan lefarodd angel yr Arglwydd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yna yr aberthasant i’r Arglwydd.

A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad. A’r bobl a wasanaethasant yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr Arglwydd, yr hwn a wnaethai efe er Israel. A bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant. A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas. 10 A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.

11 A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim: 12 Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr Arglwydd. 13 A hwy a wrthodasant yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth.

14 A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion. 15 I ba le bynnag yr aethant, llaw yr Arglwydd oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr Arglwydd, ac fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.

16 Eto yr Arglwydd a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr. 17 Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr Arglwydd; ond ni wnaethant hwy felly. 18 A phan godai yr Arglwydd farnwyr arnynt hwy, yna yr Arglwydd fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr Arglwydd a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr. 19 A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig.

20 A dicllonedd yr Arglwydd a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i’w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais; 21 Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw: 22 I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr Arglwydd, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio. 23 Am hynny yr Arglwydd a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua.

Dyma y cenhedloedd a adawodd yr Arglwydd i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan; Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod, i’w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o’r blaen;) Pum tywysog y Philistiaid, a’r holl Ganaaneaid, a’r Sidoniaid, a’r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal‐hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath. A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr Arglwydd, y rhai a orchmynasai efe i’w tadau hwynt trwy law Moses.

A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid: Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched i’w meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt. Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a anghofiasant yr Arglwydd eu Duw, ac a wasanaethasant Baalim, a’r llwyni.

Am hynny dicllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd. A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef. 10 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a’r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia; a’i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim. 11 A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.

12 A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a’r Arglwydd a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd. 13 Ac efe a gasglodd ato feibion Ammon, ac Amalec, ac a aeth ac a drawodd Israel; a hwy a feddianasant ddinas y palmwydd. 14 Felly meibion Israel a wasanaethasant Eglon brenin Moab ddeunaw mlynedd. 15 Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a gododd achubwr iddynt; sef Ehwd mab Gera, fab Jemini, gŵr llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab. 16 Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddaufiniog o gufydd ei hyd, ac a’i gwregysodd dan ei ddillad, ar ei glun ddeau. 17 Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab. Ac Eglon oedd ŵr tew iawn. 18 A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg. 19 Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau oedd yn Gilgal, ac a ddywedodd, Y mae i mi air o gyfrinach â thi, O frenin. Dywedodd yntau, Gosteg. A’r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef. 20 Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon oedd iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth Dduw sydd gennyf atat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa. 21 Ac Ehwd a estynnodd ei law aswy, ac a gymerth y ddager oddi ar ei glun ddeau, ac a’i brathodd hi yn ei boten ef: 22 A’r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn, a’r braster a ymgaeodd am y llafn, fel na allai dynnu y ddager allan o’i boten; a’r dom a ddaeth allan. 23 Yna Ehwd a aeth allan trwy’r cyntedd, ac a gaeodd ddrysau yr ystafell arno, ac a’u clodd. 24 Pan aeth efe ymaith, ei weision a ddaethant: a phan welsant, wele, fod drysau yr ystafell yn gloëdig, hwy a ddywedasant, Diau esmwytháu ei gorff y mae efe yn yr ystafell haf. 25 A hwy a ddisgwyliasant, nes cywilyddio ohonynt: ac wele, nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell. Yna hwy a gymerasant agoriad, ac a agorasant: ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw. 26 Ac Ehwd a ddihangodd, tra fuant hwy yn aros; ac efe a aeth y tu hwnt i’r chwarelau, ac a ddihangodd i Seirath. 27 A phan ddaeth, efe a utganodd mewn utgorn ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddisgynasant gydag ef o’r mynydd, ac yntau o’u blaen hwynt. 28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Canlynwch fi: canys yr Arglwydd a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab, yn eich llaw chwi. A hwy a aethant i waered ar ei ôl ef, ac a enillasant rydau yr Iorddonen tua Moab, ac ni adawsant i neb fyned drwodd.

29 A hwy a drawsant o’r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr, pawb yn rymus, a phawb yn wŷr nerthol; ac ni ddihangodd neb. 30 Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel. A’r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd.

31 Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath; ac efe a drawodd o’r Philistiaid chwe channwr ag irai ychen: yntau hefyd a waredodd Israel.

Luc 4:1-30

A’r Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch, Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod. Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd. A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg hon fel y gwneler hi yn fara. A’r Iesu a atebodd iddo, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw. A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr. A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi. Os tydi gan hynny a addoli o’m blaen, eiddot ti fyddant oll. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi. Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem, ac a’i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma: 10 Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di; 11 Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg. 12 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. 13 Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.

14 A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch. 15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.

16 Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen. 17 A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, 18 Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb, 19 I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd. 20 Ac wedi iddo gau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno. 21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi. 22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff? 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun. 24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun. 25 Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir; 26 Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw. 27 A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ac ni lanhawyd yr un ohonynt, ond Naaman y Syriad. 28 A’r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint; 29 Ac a godasant i fyny, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr. 30 Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith;

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.