Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Josua 13-15

13 A Phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i’w feddiannu. Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri, O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid: O’r deau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid: A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal‐Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath. Holl breswylwyr y mynydd‐dir o Libanus hyd Misreffoth‐maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti. Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse. Gyda’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt; O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon: 10 A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon; 11 Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha; 12 Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a’u trawsai hwynt, ac a’u gyrasai ymaith. 13 Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn. 14 Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.

15 A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd: 16 A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba; 17 Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth‐Baalmeon; 18 Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath; 19 Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sarethsahar, ym mynydd‐dir y glyn; 20 Beth‐peor hefyd, ac Asdoth‐Pisga, a Beth‐Jesimoth, 21 A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.

22 Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt. 23 A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.

24 Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd; 25 A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba; 26 Ac o Hesbon hyd Ramath‐Mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir; 27 Ac yn y dyffryn, Beth‐Aram, a Beth‐Nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain. 28 Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.

29 Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd: 30 A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas; 31 A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd. 32 Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain. 33 Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.

14 Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau‐cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu. Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth. Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt; Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’w hanifeiliaid, ac i’w golud. Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a ranasant y wlad.

Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gŵr Duw o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades‐Barnea. Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr Arglwydd fi o Cades‐Barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon. Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fyny gyda mi, a ddigalonasant y bobl: eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw. A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw. 10 Ac yn awr, wele yr Arglwydd a’m cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pum mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr Arglwydd y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain. 11 Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn. 12 Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyda mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd. 13 A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth. 14 Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn: oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl Arglwydd Dduw Israel. 15 Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer‐Arba: yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

15 A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua’r deau, oedd eithaf y terfyn deau. A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o’r graig sydd yn wynebu tua’r deau. Ac yr oedd yn myned allan o’r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa. Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau. A’r terfyn tua’r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen. A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth‐Hogla, ac yn myned o’r gogledd hyd Beth‐Araba; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben. A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua’r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes, a’i gwr eithaf sydd wrth En‐rogel. A’r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua’r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua’r gogledd. A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath‐jearim. 10 A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua’r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth‐semes, ac yn myned i Timna. 11 A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr. 12 A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.

13 Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer‐Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron. 14 A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac. 15 Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath‐Seffer.

16 A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath‐Seffer, ac a’i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig. 17 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a’i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig. 18 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di? 19 A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf. 20 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.

21 A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur, 22 Cina hefyd, a Dimona, ac Adada, 23 Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan, 24 A Siff, a Thelem, a Bealoth, 25 A Hasor, Hadatta, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor, 26 Ac Amam, a Sema, a Molada, 27 A Hasar‐Gada, a Hesmon, a Beth‐palet, 28 A Hasar‐sual, a Beer‐seba, a Bisiothia, 29 Baala, ac Iim, ac Asem, 30 Ac Eltolad, a Chesil, a Horma, 31 A Siclag, a Madmanna, a Sansanna, 32 A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a’u pentrefydd. 33 Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Sorea, ac Asna, 34 A Sanoa, ac En‐gannim, Tappua, ac Enam, 35 Jarmuth, ac Adulam, Socho, ac Aseca, 36 A Saraim, ac Adithaim, a Gedera, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 37 Senan, a Hadasa, a Migdal‐Gad, 38 A Dilean, a Mispe, a Joctheel, 39 Lachis, a Boscath, ac Eglon, 40 Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis, 41 A Gederoth, Beth‐Dagon, a Naama, a Macceda; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd. 42 Libna, ac Ether, ac Asan, 43 A Jiffta, ac Asna, a Nesib, 44 Ceila hefyd, ac Achsib, a Maresa; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi. 45 Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd: 46 O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd gerllaw Asdod, a’u pentrefydd: 47 Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gasa, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aifft; a’r môr mawr, a’i derfyn.

48 Ac yn y mynydd‐dir; Samir, a Jattir, a Socho, 49 A Danna, a Ciriath‐sannath, honno yw Debir, 50 Ac Anab, ac Astemo, ac Anim, 51 A Gosen, a Holon, a Gilo; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd. 52 Arab, a Duma, ac Esean, 53 A Janum, a Beth‐tappua, ac Affeca, 54 A Humta, a Chaer‐Arba, honno yw Hebron, a Sïor; naw dinas, a’u trefydd. 55 Maon, Carmel, a Siff, a Jutta, 56 A Jesreel, a Jocdeam, a Sanoa, 57 Cain, Gibea, a Thimna; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 58 Halhul, Beth‐sur, a Gedor, 59 A Maarath, a Beth‐anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 60 Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, a Rabba; dwy ddinas, a’u pentrefydd.

61 Yn yr anialwch; Beth‐araba, Midin, a Sechacha, 62 A Nibsan, a dinas yr halen, ac En‐gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 63 Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerwsalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

Luc 1:57-80

57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab. 58 A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi. 59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad. 60 A’i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef. 61 Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn. 62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef. 63 Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. 64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. 65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. 66 A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.

67 A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, 68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72 I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi‐ofn, 75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, 78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, 79 I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. 80 A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.