Old/New Testament
4 A Phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen, yr Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, 2 Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gŵr o bob llwyth; 3 A gorchmynnwch iddynt, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno. 4 Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth: 5 A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel: 6 Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocau i chwi? 7 Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr Arglwydd; pan oedd hi yn myned trwy ’r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth. 8 A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel, ac a’u dygasant drosodd gyda hwynt i’r llety ac a’u cyfleasant yno. 9 A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfamod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.
10 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd. 11 A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr Arglwydd a aeth drosodd, a’r offeiriaid, yng ngŵydd y bobl. 12 Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt: 13 Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel, i rosydd Jericho.
14 Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes. 15 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, 16 Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen. 17 Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen. 18 A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.
19 A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.
20 A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal. 21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn? 22 Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych. 23 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd: 24 Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser.
5 Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.
2 Y pryd hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith. 3 A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaengrwyn. 4 A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aifft. 5 Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft, nid enwaedasent arnynt. 6 Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. 7 A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dienwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd. 8 A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl; yna yr arosasant yn eu hunlle, yn y gwersyll, nes eu hiacháu. 9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Heddiw y treiglais ymaith waradwydd yr Aifft oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal, hyd y dydd heddiw.
10 A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynaliasant y Pasg, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brynhawn, yn rhosydd Jericho. 11 A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi’r Pasg, fara croyw, a chras ŷd, o fewn corff y dydd hwnnw.
12 A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.
13 A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef, â’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyda ni yr ydwyt ti, ai gyda’n gwrthwynebwyr? 14 Dywedodd yntau, Nage; eithr yn dywysog llu yr Arglwydd yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was? 15 A thywysog llu yr Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Datod dy esgidiau oddi am dy draed: canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno, sydd sanctaidd. A Josua a wnaeth felly.
6 A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig, oherwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn. 2 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Gwêl, rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenin, gwŷr grymus o nerth. 3 A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod. 4 A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r utgyrn. 5 A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.
6 A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd. 7 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a’r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr Arglwydd.
8 A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â’r utgyrn: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hôl hwynt.
9 A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r utgyrn; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn. 10 A Josua a orchmynasai i’r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch. 11 Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o’i hamgylch un waith: a daethant i’r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.
12 A Josua a gyfododd yn fore; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd. 13 A’r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â’r utgyrn: a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt: a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr Arglwydd, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn. 14 Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i’r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod. 15 Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith. 16 A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.
17 A’r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r Arglwydd: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni. 18 Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd‐beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd‐beth, os cymerwch o’r diofryd‐beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd‐beth, ac y trallodech hi. 19 Ond yr holl arian a’r aur, a’r llestri pres a haearn, fyddant gysegredig i’r Arglwydd: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr Arglwydd.
20 A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â’r utgyrn. A phan glybu y bobl lais yr utgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fyny i’r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a enillasant y ddinas. 21 A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn ŵr ac yn wraig, yn fachgen ac yn hynafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.
22 A Josua a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y buteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a’r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi. 23 Felly y llanciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a’i thad, a’i mam, a’i brodyr, a chwbl a’r a feddai hi: dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o’r tu allan i wersyll Israel. 24 A llosgasant y ddinas â thân, a’r hyn oll oedd ynddi: yn unig yr arian a’r aur, a’r llestri pres a haearn, a roddasant hwy yn nhrysor yr Arglwydd. 25 A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y buteinwraig, a thylwyth ei thad, a’r hyn oll oedd ganddi; a hi a drigodd ymysg Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio’r cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho.
26 A Josua a’u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melltigedig gerbron yr Arglwydd fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf‐anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi. 27 Felly yr Arglwydd oedd gyda Josua; ac aeth ei glod ef trwy’r holl wlad.
1 Yn gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi‐amau yn ein plith, 2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair: 3 Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, O ardderchocaf Theoffilus, 4 Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.
5 Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. 6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. 7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran. 8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef, 9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd. 10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl‐darthiad. 11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl‐darth. 12 A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. 13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. 14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. 15 Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam. 16 A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw. 17 Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod. 18 A dywedodd Sachareias wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran. 19 A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn. 20 Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.