Old/New Testament
22 Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd. 2 Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atat, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyda thi, hyd pan ymofynno dy frawd amdano; yna dyro ef yn ei ôl iddo ef. 3 Ac felly y gwnei i’w asyn ef, ac felly y gwnei i’w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio.
4 Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ond gan godi cyfod hwynt gydag ef.
5 Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig:oherwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a’r a wnêl hyn.
6 Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu ag wyau ynddo, a’r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda’r cywion. 7 Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a’r cywion a gymeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynnech dy ddyddiau.
8 Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.
9 Na heua dy winllan ag amryw had; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech, a chnwd y winllan.
10 Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd.
11 Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd, megis o wlân a llin ynghyd.
12 Plethau a weithi i ti ar bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi.
13 O chymer gŵr wraig, ac wedi myned ati, ei chasáu; 14 A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod: 15 Yna cymered tad y llances a’i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i’r porth. 16 A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn wraig, a’i chasáu y mae efe. 17 Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas. 18 A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a’i cosbant ef. 19 A hwy a’i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a’u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau. 20 Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances: 21 Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg.
22 O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig, a’r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.
23 O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi; 24 Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.
25 Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo, a’i threisio o’r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig. 26 Ond i’r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth: oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a’i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn: 27 Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.
28 O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a’u dala hwynt: 29 Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.
30 Na chymered neb wraig ei dad, ac na ddinoethed odre ei dad.
23 Na ddeued neb wedi ysigo ei eirin, na disbaidd, i gynulleidfa yr Arglwydd. 2 Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr Arglwydd. 3 Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr Arglwydd byth: 4 Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o’r Aifft; ac o achos cyflogi ohonynt i’th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i’th felltithio di. 5 Eto yr Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrando ar Balaam: ond trodd yr Arglwydd dy Dduw y felltith yn fendith i ti; canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dydi. 6 Na chais eu heddwch hwynt, na’u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.
7 Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Eifftiad; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef. 8 Deued ohonynt i gynulleidfa yr Arglwydd y drydedd genhedlaeth o’r meibion a genhedlir iddynt.
9 Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion yna ymgadw rhag pob peth drwg.
10 O bydd un ohonot heb fod yn lân, oherwydd damwain nos; eled allan o’r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll. 11 Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo’r haul, deued i fewn y gwersyll.
12 A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwersyll; ac yno yr ei di allan. 13 A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio ohonot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt. 14 Oherwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ymhlith dy wersyllau, i’th waredu, ac i roddi dy elynion o’th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.
15 Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr. 16 Gyda thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o’th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.
17 Na fydded putain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel. 18 Na ddwg wobr putain, na gwerth ci, i dŷ yr Arglwydd dy Dduw, mewn un adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw.
19 Na chymer ocraeth gan dy frawd; ocraeth arian, ocraeth bwyd, ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano. 20 Gan estron y cymeri ocraeth; ond na chymer ocraeth gan dy frawd: fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu
21 Pan addunedych adduned i’r Arglwydd dy Dduw, nac oeda ei thalu: canys yr Arglwydd dy Dduw gan ofyn a’i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot. 22 Ond os peidi ag addunedu, ni bydd pechod ynot. 23 Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau; megis yr addunedaist i’r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â’th enau.
24 Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwyta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un. 25 Pan ddelych i ŷd dy gymydog, yna y cei dynnu y tywysennau â’th law; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog.
24 Pan gymero gŵr wraig, a’i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dŷ. 2 Pan elo hi allan o’i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall: 3 Os ei gŵr diwethaf a’i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo: 4 Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr Arglwydd; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.
5 Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.
6 Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.
7 Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg.
8 Gwylia ym mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy. 9 Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Aifft.
10 Pan fenthycieth i’th gymydog fenthyg dim, na ddos i’w dŷ ef i gymryd ei wystl ef. 11 Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti. 12 Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â’i wystl gyda thi. 13 Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.
14 Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di: 15 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot. 16 Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.
17 Na ŵyra farn y dieithr na’r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw. 18 Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
19 Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymryd: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo. 20 Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 21 Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 22 Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
14 Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg, a gŵyl y bara croyw: a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef: 2 Eithr dywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.
3 A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef. 4 Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint? 5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a’u rhoddi i’r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi. 6 A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi. 7 Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. 8 Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth. 9 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.
10 A Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i’w fradychu ef iddynt. 11 A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef.
12 A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyta’r pasg? 13 Ac efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch ef. 14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fod yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf, mi a’m disgyblion, fwyta’r pasg? 15 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod: yno paratowch i ni. 16 A’i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i’r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg. 17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyda’r deuddeg. 18 Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a’m bradycha i. 19 Hwythau a ddechreuasant dristáu, a dywedyd wrtho bob yn un ac un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi? 20 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl, yw efe. 21 Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: ond gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid.
22 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. 23 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoi diolch, efe a’i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant ohono. 24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer. 25 Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.
26 Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.