Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Deuteronomium 16-18

16 Cadw y mis Abib, a chadw Basg i’r Arglwydd dy Dduw: canys o fewn y mis Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o’r Aifft, o hyd nos. Abertha dithau yn Basg i’r Arglwydd dy Dduw, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef yno. Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes. Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o’r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf. Ni elli aberthu y Pasg o fewn yr un o’th byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o’r Aifft. Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: a’r bore y dychweli, ac yr ei i’th babellau. Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae uchel ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw; ni chei wneuthur gwaith ynddo.

Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo’r cryman ar yr ŷd, y dechreui rifo’r saith wythnos. 10 A chadw ŵyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw. 11 A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo. 12 Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.

13 Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a’th win. 14 A llawenycha yn dy ŵyl, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth. 15 Saith niwrnod y cedwi ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.

16 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw. 17 Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti.

18 Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn. 19 Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn. 20 Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.

21 Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a wnei i ti. 22 Ac na chyfod i ti golofn; yr hyn sydd gas gan yr Arglwydd dy Dduw.

17 Nac abertha i’r Arglwydd dy Dduw ych neu ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny.

Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfamod ef, Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i’r haul, neu i’r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais; Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel; Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i’th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw. Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst. Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith.

Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth. 10 A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o’r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti. 11 Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i’r tu deau nac i’r tu aswy. 12 A’r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel. 13 A’r holl bobl a glywant, ac a ofnant; ac ni ryfygant mwy.

14 Pan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a’i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o’m hamgylch: 15 Gan osod gosod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti. 16 Ond nac amlhaed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i’r Aifft i amlhau meirch; gan i’r Arglwydd ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy. 17 Ac nac amlhaed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo. 18 A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid. 19 A bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr Arglwydd ei Dduw, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a’r deddfau hyn, i’w gwneuthur hwynt: 20 Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i’r tu deau nac i’r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a’i feibion yng nghanol Israel.

18 Ni bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a’i etifeddiaeth ef, a fwytânt hwy. Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.

A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog a’r ddwy ên, a’r boten. Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a’th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef. Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a’i feibion yn dragywydd.

A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr Arglwydd; Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd. Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.

Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd hynny. 10 Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol, 11 Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â’r meirw: 12 Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di. 13 Bydd berffaith gyda’r Arglwydd dy Dduw. 14 Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

15 Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch 16 Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw. 17 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant 18 Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo. 19 A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’i gofynnaf ganddo. 20 Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth. 21 Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd? 22 Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.

Marc 13:1-20

13 Ac fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml, un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di’r adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a’r nis datodir. Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â’r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o’r neilltu, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddibennu? A’r Iesu a atebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi: Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw’r diwedd eto. Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daeargrynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.

Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i’r cynghorau, ac i’r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. 10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl genhedloedd. 11 Ond pan ddygant chwi, a’ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân. 12 A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth. 13 A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.

14 Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra anghyfanheddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd: 15 A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ. 16 A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg. 17 Ond gwae’r rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! 18 Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf. 19 Canya yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith. 20 Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid un cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.