Old/New Testament
13 Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod, 2 A dyfod i ben o’r arwydd, neu’r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt; 3 Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru’r Arglwydd eich Duw â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid. 4 Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchmynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch. 5 A’r proffwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i’ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aifft, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio di allan o’r ffordd, yr hon y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg.
6 Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau; 7 Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i’r tir hyd gwr arall y tir: 8 Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno: 9 Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i’w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny. 10 A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 11 A holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith.
12 Pan glywech am un o’th ddinasoedd y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd, 13 Aeth dynion, meibion y fall, allan o’th blith, a gyrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch; 14 Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg; 15 Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; difroda hi, a’r rhai oll a fyddant ynddi, a’i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf. 16 A’i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi, ac a losgi’r ddinas a’i holl ysbail hi yn gwbl, i’r Arglwydd dy Dduw, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy. 17 Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r diofryd‐beth: fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau: 18 Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.
14 Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw. 2 Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw, a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
3 Na fwyta ddim ffiaidd. 4 Dyma’r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr, 5 Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, a’r bwch gwyllt, a’r unicorn, a’r ych gwyllt, a’r afr wyllt. 6 A phob anifail yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch. 7 Ond hyn ni fwytewch, o’r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a’r ysgyfarnog, a’r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi’r ewin, aflan ydynt i chwi. 8 Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi’r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt.
9 Hyn a fwytewch o’r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch. 10 A’r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.
11 Pob aderyn glân a fwytewch. 12 A dyma’r rhai ni fwytewch ohonynt yr eryr, a’r wyddwalch, a’r fôr‐wennol, 13 A’r bod, a’r barcud, a’r fwltur yn ei rhyw, 14 A phob cigfran yn ei rhyw, 15 A chyw yr estrys, a’r frân nos, a’r gog, a’r hebog yn ei ryw, 16 Aderyn y cyrff, a’r dylluan, a’r gogfran, 17 A’r pelican, a’r biogen, a’r fulfran, 18 A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum. 19 A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt. 20 Pob ehediad glân a fwytewch.
21 Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i’r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 22 Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn. 23 A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a’th olew, a chyntaf‐anedig dy wartheg, a’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser. 24 A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw: 25 Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: 26 A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a’th deulu. 27 A’r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.
28 Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth. 29 A’r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â’th law.
15 Ymhen pob saith mlynedd gwna ollyngdod. 2 A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob echwynnwr i’w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr Arglwydd. 3 Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda’th frawd: 4 Megis na byddo ohonot ti gardotyn: canys yr Arglwydd gan fendithio a’th fendithia di, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu; 5 Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw. 6 Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.
7 Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd: 8 Ond gan agoryd agor dy law iddo, a chan fenthycio benthycia ddigon i’w angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisiau. 9 Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw’r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr Arglwydd rhagot, a’i fod yn bechod i ti. 10 Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno. 11 Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus ac i’th dlawd, yn dy dir.
12 Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a’th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt. 13 A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag: 14 Gan lwytho llwytha ef o’th braidd, ac o’th ysgubor, ac o’th winwryf: o’r hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo. 15 A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw. 16 Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a’th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi: 17 Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i’th forwyn. 18 Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a’r Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.
19 Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o’th wartheg, neu o’th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i’r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid. 20 Gerbron yr Arglwydd dy Dduw y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd, ti a’th deulu. 21 Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i’r Arglwydd dy Dduw. 22 O fewn dy byrth y bwytei ef: yr aflan a’r glân ynghyd a’i bwyty, megis yr iwrch, ac megis y carw. 23 Eto na fwyta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.
28 Ac un o’r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl? 29 A’r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o’r holl orchmynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw: 30 A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf. 31 A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na’r rhai hyn. 32 A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, Da, Athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe: 33 A’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl enaid, ac â’r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau. 34 A’r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.
35 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd? 36 Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. 37 Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn ewyllysgar.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd, 39 A’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd mewn swperau; 40 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.
41 A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. 42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. 43 Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa. 44 Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.