Old/New Testament
32 Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dir Jaser, a thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid. 2 A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleasar yr offeiriad, ac wrth benaduriaid y gynulleidfa, gan ddywedyd, 3 Atoroth, a Dibon, a Jaser, a Nimra, a Hesbon, ac Eleale, a Sebam, a Nebo, a Beon, 4 Sef y tir a drawodd yr Arglwydd o flaen cynulleidfa Israel, tir i anifeiliaid yw efe; ac y mae i’th weision anifeiliaid. 5 A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dy olwg, rhodder y tir hwn i’th weision yn feddiant: na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen.
6 A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Reuben, A â eich brodyr i’r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau yma? 7 A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i’r tir a roddodd yr Arglwydd iddynt? 8 Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades‐Barnea i edrych y tir. 9 Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonasant feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr Arglwydd iddynt. 10 Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan ddywedyd, 11 Diau na chaiff yr un o’r dynion a ddaethant i fyny o’r Aifft, o fab ugain mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i: 12 Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr Arglwydd. 13 Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd. 14 Ac wele, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwanegu ar angerdd llid yr Arglwydd wrth Israel. 15 Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch, a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.
16 A hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i’n hanifeiliaid, a dinasoedd i’n plant. 17 A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i’w lle eu hun; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir. 18 Ni ddychwelwn ni i’n tai, nes i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth. 19 Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o’r tu yma i’r Iorddonen, tua’r dwyrain.
20 A dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd, 21 Os â pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr Arglwydd, nes iddo yrru ymaith ei elynion o’i flaen, 22 A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd ac y byddwch dieuog gerbron yr Arglwydd, a cherbron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd. 23 Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd: a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi. 24 Adeiledwch i chwi ddinasoedd i’ch plant, a chorlannau i’ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau. 25 A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn. 26 Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid a’n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead. 27 A’th weision a ânt drosodd o flaen yr Arglwydd i’r rhyfel, pob un yn arfog i’r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru. 28 A gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau‐cenedl llwythau meibion Israel, o’u plegid hwynt: 29 A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd, a darostwng y wlad o’ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth: 30 Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan. 31 A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr Arglwydd wrth dy weision, felly y gwnawn ni. 32 Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni. 33 A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.
34 A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer, 35 Ac Atroth, Soffan, a Jaaser, a Jogbea, 36 A Beth‐nimra, a Beth‐haran,dinasoedd caerog; a chorlannau defaid. 37 A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim; 38 Nebo hefyd, a Baal‐meon, (wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant. 39 A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a’i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi. 40 A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi. 41 Ac aeth Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a’u galwodd hwynt Hafoth‐Jair. 42 Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a’i phentrefydd, ac a’i galwodd ar ei enw ei hun, Noba.
33 Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron. 2 A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchymyn yr Arglwydd: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan. 3 A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf: trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll. 4 (A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf‐anedig, y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg; a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.) 5 A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth. 6 A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch. 7 A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol. 8 A chychwynasant o Pi‐hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i’r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara. 9 A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno. 10 A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch. 11 A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin. 12 Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca. 13 A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus. 14 A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed. 15 A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai. 16 A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth‐Hattaafa. 17 A chychwynasant o Cibroth‐Hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth. 18 A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithma. 19 A chychwynasant o Rithma, a gwersyllasant yn Rimmon‐Pares. 20 A chychwynasant o Rimmon‐Pares, a gwersyllasant yn Libna. 21 A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa. 22 A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha. 23 A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer. 24 A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada. 25 A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth. 26 A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath. 27 A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tara. 28 A chychwynasant o Tara, a gwersyllasant ym Mithca. 29 A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona. 30 A chychwynasant o Hasmona, a gwersyllasant ym Moseroth. 31 A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene‐Jaacan. 32 A chychwynasant o Bene‐Jaacan, a gwersyllasant yn Hor‐hagidgad. 33 A chychwynasant o Hor‐hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha. 34 A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona. 35 A chychwynasant o Ebrona, a gwersyllasant yn Esion‐Gaber. 36 A chychwynasant o Esion‐Gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades. 37 A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom. 38 Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr Arglwydd; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis. 39 Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor. 40 A’r brenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel. 41 A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona. 42 A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon, 43 A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth. 44 A chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn Ije‐Abarim, ar derfyn Moab. 45 A chychwynasant o Ije‐Abarim, a gwersyllasant yn Dibon‐Gad. 46 A chychwynasant o Dibon‐Gad, a gwersyllasant yn Almon‐Diblathaim. 47 A chychwynasant o Almon‐Diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo. 48 A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho. 49 A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth‐Jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.
50 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd, 51 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan; 52 Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt. 53 A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i’w berchenogi. 54 Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch. 55 Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo. 56 A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.
34 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma’r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a’i therfynau,) 3 A’ch tu deau fydd o anialwch Sin, gerllaw Edom: a therfyn y deau fydd i chwi o gwr y môr heli tua’r dwyrain. 4 A’ch terfyn a amgylchyna o’r deau i riw Acrabbim, ac a â trosodd i Sin; a’i fynediad allan fydd o’r deau i Cades‐Barnea, ac a â allan i Hasar‐Adar, a throsodd i Asmon: 5 A’r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aifft; a’i fynediad ef allan a fydd tua’r gorllewin. 6 A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin. 7 A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o’r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor. 8 O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad.
9 A’r terfyn a â allan tua Siffron; a’i ddiwedd ef fydd yn Hasar‐Enan: hwn fydd terfyn y gogledd i chwi. 10 A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar‐Enan i Seffam. 11 Ac aed y terfyn i waered o Seffam i Ribla, ar du dwyrain Ain; a disgynned y terfyn, ac aed hyd ystlys môr Cinereth tua’r dwyrain. 12 A’r terfyn a â i waered tua’r Iorddonen; a’i ddiwedd fydd y môr heli. Dyma’r tir fydd i chwi a’i derfynau oddi amgylch. 13 A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth. 14 Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasse, cymerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth. 15 Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen, yn agos i Jericho, tua’r dwyrain a chodiad haul.
16 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 17 Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun. 18 Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau. 19 Ac fel dyma enwau y gwŷr: o lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne. 20 Ac o lwyth meibion Simeon, Semuel mab Ammihud. 21 O lwyth Benjamin, Elidad mab Cislon. 22 A Bucci mab Jogli, yn bennaeth o lwyth meibion Dan. 23 O feibion Joseff, Haniel mab Effod, yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse. 24 Cemuel hefyd mab Sifftan, yn bennaeth dros lwyth meibion Effraim. 25 Ac Elisaffan mab Pharnach, yn bennaeth dros lwyth meibion Sabulon. 26 Paltiel hefyd mab Assan, yn bennaeth dros lwyth meibion Issachar. 27 Ac Ahihud mab Salomi, yn bennaeth dros lwyth meibion Aser. 28 Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Nafftali, Pedahel mab Ammihud. 29 Dyma y rhai a orchmynnodd yr Arglwydd iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel, yn nhir Canaan.
30 Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb. 31 Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd. 32 Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.
33 Ac efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd? 34 Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â’i gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf. 35 Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb. 36 Ac efe a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt, 37 Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.
38 Ac Ioan a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni. 39 A’r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi. 40 Canys y neb nid yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae. 41 Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy. 42 A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr. 43 Ac os dy law a’th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 45 Ac os dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 47 Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern: 48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 49 Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen. 50 Da yw’r halen: ond os bydd yr halen yn ddi‐hallt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â’ch gilydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.