Old/New Testament
9 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aifft, ar y mis cyntaf, gan ddywedyd, 2 Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor. 3 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau, y cedwch ef. 4 A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg. 5 A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
6 Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant gerbron Moses, a cherbron Aaron, ar y dydd hwnnw. 7 A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw: paham y’n gwaherddir rhag offrymu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymor ymysg meibion Israel? 8 A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchmynno’r Arglwydd o’ch plegid.
9 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 10 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw, neu neb ohonoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basg i’r Arglwydd. 11 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis. yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwytânt ef. 12 Na weddillant ddim ohono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef. 13 A’r gŵr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasg, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymor: ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw. 14 A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasg a’i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i’r dieithr ac i’r un fydd â’i enedigaeth o’r wlad.
15 Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmwl a gaeodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore. 16 Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmwl a gaeai amdano y dydd, a’r gwelediad tân y nos. 17 A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynnai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel. 18 Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll. 19 A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwynnent. 20 Ac os byddai’r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnent. 21 Hefyd os byddai’r cwmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmwl y bore, hwythau a symudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai’r cwmwl, yna y cychwynnent. 22 Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai’r cwmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynnent: ond pan godai efe, y cychwynnent. 23 Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwynnent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses.
10 Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Gwna i ti ddau utgorn arian; yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynulleidfa ynghyd, ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn. 3 A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 4 Ond os ag un y canant; yna y tywysogion sef penaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant. 5 Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd y rhai a wersyllant tua’r dwyrain, a gychwynnant. 6 Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua’r deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn. 7 Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa, cenwch yr utgyrn; ond na chenwch larwm. 8 A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr utgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau 9 Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a’ch gorthrymo chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion. 10 Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechrau eich misoedd, y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth, ac uwchben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
11 A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis, gyfodi o’r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth. 12 A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran. 13 Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.
14 Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab. 15 Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar. 16 Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon. 17 Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.
18 Yna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur. 19 Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisadai. 20 Ac ar lu llwyth meibion Gad, Eliasaff mab Deuel. 21 A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cysegr; a’r lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.
22 Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud. 23 Ac ar lu llwyth meibion Manasse, Gamaliel mab Pedasur. 24 Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.
25 Yna lluman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai. 26 Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran. 27 Ac ar lu llwyth meibion Nafftali, Ahira mab Enan. 28 Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.
29 A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel. 30 Dywedodd yntau wrtho, Nid af ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr af. 31 Ac efe a ddywedodd, Na ad ni, atolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni, 32 A phan ddelych gyda ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna’r Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.
33 A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orffwysfa iddynt. 34 A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o’r gwersyll. 35 A hefyd pan gychwynnai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, Arglwydd, a gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseion o’th flaen. 36 A phan orffwysai hi, y dywedai efe, Dychwel, Arglwydd, at fyrddiwn miloedd Israel.
11 A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a’i ddig a enynnodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwr y gwersyll. 2 A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd; a’r tân a ddiffoddodd. 3 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy.
4 A’r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i’w fwyta? 5 Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cennin, a’r winwyn, a’r garlleg: 6 Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg. 7 A’r manna hwnnw oedd fel had coriander, a’i liw fel lliw bdeliwm. 8 Y bobl a aethant o amgylch, ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn melinau, neu a’i curasant mewn morter, ac a’i berwasant mewn peiriau, ac a’i gwnaethant yn deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew ir. 9 A phan ddisgynnai’r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai’r manna arno ef.
10 A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac enynnodd dig yr Arglwydd yn fawr; a drwg oedd gan Moses. 11 Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf? 12 Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau? 13 O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwyta. 14 Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi. 15 Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.
16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi. 17 Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o’r ysbryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig. 18 Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwytewch. 19 Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod; 20 Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu’r Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd Paham y daethom allan o’r Aifft? 21 A dywedodd Moses, Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau. 22 Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt? 23 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, A gwtogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.
24 A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell. 25 Yna y disgynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o’r ysbryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent. 26 A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i’r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll. 27 A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll. 28 A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt. 29 A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi, a rhoddi o’r Arglwydd ei ysbryd arnynt! 30 A Moses a aeth i’r gwersyll, efe a henuriaid Israel.
31 Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a’u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear. 32 Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll. 33 A’r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodddigofaintyr Arglwydd yn erbyn y bobl; a’r Arglwydd a drawodd y bobl â phla mawr iawn. 34 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth‐Hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent. 35 O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth; ac arosasant yn Haseroth.
5 A hwy a ddaethant i’r tu hwnt i’r môr, i wlad y Gadareniaid. 2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo, 3 Yr hwn oedd â’i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef: 4 Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono’r cadwynau, a dryllio’r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef. 5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig. 6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a’i haddolodd ef; 7 A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi. 8 (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o’r dyn.) 9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom. 10 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o’r wlad. 11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori. 12 A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt. 13 Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A’r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i’r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a’u boddwyd yn y môr. 14 A’r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid. 15 A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai’r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant. 16 A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i’r cythreulig, ac am y moch. 17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt. 18 Ac efe yn myned i’r llong, yr hwn y buasai’r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef. 19 Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt. 20 Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.