Old/New Testament
25 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i’r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorffwysed y tir Saboth i’r Arglwydd. 3 Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd. 4 Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i’r tir, sef Saboth i’r Arglwydd: na heua dy faes, ac na thor dy winllan. 5 Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist: bydd yn flwyddyn orffwystra i’r tir. 6 Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i’th wasanaethwr, ac i’th wasanaethferch, ac i’th weinidog cyflog, ac i’th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi. 7 I’th anifail hefyd, ac i’r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.
8 Cyfrif hefyd i ti saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Saboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain. 9 Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad. 10 A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i’w holl drigolion: jiwbili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth, ie, dychwelwch bob un at ei deulu. 11 Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jiwbili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo ohono ei hun; ac na chynullwch ei gwinwydden ni thaclwyd. 12 Am ei bod yn jiwbili, bydded sanctaidd i chwi: o’r maes y bwytewch ei ffrwyth hi. 13 O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth. 14 Pan werthech ddim i’th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymwch bawb eich gilydd. 15 Prŷn gan dy gymydog yn ôl rhifedi’r blynyddoedd ar ôl y jiwbili; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau. 16 Yn ôl amldra’r blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ôl anamldra’r blynyddoedd y lleihei di ei bris; oherwydd rhifedi’r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti. 17 Ac na orthrymwch bob un ei gymydog; ond ofna dy Dduw: canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.
18 Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel. 19 Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth; a chewch fwyta digon, a thrigo ynddo yn ddiogel. 20 Ac hefyd os dywedwch, Beth a fwytawn y seithfed flwyddyn? wele, ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd: 21 Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd. 22 A’r wythfed flwyddyn yr heuwch; ond bwytewch o’r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn: nes dyfod ei chnwd hi, y bwytewch o’r hen.
23 A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi. 24 Ac yn holl dir eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i’r tir.
25 Os tloda dy frawd, a gwerthu dim o’i etifeddiaeth, a dyfod ei gyfnesaf i’w ollwng; yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd. 26 Ond os y gŵr ni bydd ganddo neb a’i gollyngo, a chyrhaeddyd o’i law ef ei hun gael digon i’w ollwng: 27 Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hyn fyddo dros ben i’r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo; felly aed eilwaith i’w etifeddiaeth. 28 Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a’i prynodd hyd flwyddyn y jiwbili; ac yn y jiwbili yr â yn rhydd, ac efe a ddychwel i’w etifeddiaeth. 29 A phan wertho gŵr dŷ annedd o fewn dinas gaerog; yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu: dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef. 30 Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan; yna sicrhaer y tŷ, yr hwn fydd yn y ddinas gaerog, yn llwyr i’r neb a’i prynodd, ac i’w hiliogaeth: nid â yn rhydd yn y jiwbili. 31 Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt, a gyfrifir fel meysydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y jiwbili yr ânt yn rhydd. 32 Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i’r Lefiaid eu gollwng bob amser. 33 Ac os prŷn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jiwbili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel. 34 Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt.
35 A phan dlodo dy frawd gyda thi, a llesgáu o’i law; cynorthwya ef, fel y byddo byw gyda thi; er ei fod yn ddieithrddyn, neu yn alltud. 36 Na chymer ganddo ocraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gad i’th frawd fyw gyda thi. 37 Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log. 38 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.
39 A phan dlodo dy frawd gyda thi, a’i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas. 40 Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi. 41 Yna aed oddi wrthyt ti, efe a’i blant gydag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau. 42 Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft: na werther hwynt fel caethweision. 43 Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy Dduw. 44 A chymer dy wasanaethwr, a’th wasanaethferch, y rhai fyddant i ti, o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o’ch amgylch: ohonynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch. 45 A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyda chwi, prynwch o’r rhai hyn, ac o’u tylwyth y rhai ŷnt gyda chwi, y rhai a genedlasant hwy yn eich tir chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant. 46 Ac etifeddwch hwynt i’ch plant ar eich ôl, i’w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond eich brodyr, meibion Israel, na feistrolwch yn galed y naill ar y llall.
47 A phan gyrhaeddo llaw dyn dieithr neu ymdeithydd gyfoeth gyda thi, ac i’th frawd dlodi yn ei ymyl ef, a’i werthu ei hun i’r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyda thi, neu i un o hiliogaeth tylwyth y dieithrddyn: 48 Wedi ei werthu, ceir ei ollwng yn rhydd; un o’i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd; 49 Naill ai ei ewythr, ai mab ei ewythr, a’i gollwng ef yn rhydd; neu un o’i gyfnesaf ef, o’i dylwyth ei hun, a’i gollwng yn rhydd; neu, os ei law a gyrraedd, gollynged efe ef ei hun. 50 A chyfrifed â’i brynwr, o’r flwyddyn y gwerthwyd ef, hyd flwyddyn y jiwbili: a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi’r blynyddoedd; megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gydag ef. 51 Os llawer fydd o flynyddoedd yn ôl; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny. 52 Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ôl hyd flwyddyn y jiwbili, pan gyfrifo ag ef; taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd. 53 Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gydag ef: ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di. 54 Ac os efe ni ollyngir o fewn y blynyddoedd hyn; yna aed allan flwyddyn y jiwbili, efe a’i blant gydag ef. 55 Canys gweision i mi yw meibion Israel; fy ngweision ydynt, y rhai a ddygais o dir yr Aifft: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.
23 Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd aflan: ac efe a lefodd, 24 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a’th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw. 25 A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono. 26 Yna wedi i’r ysbryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef uchel, efe a ddaeth allan ohono. 27 Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo. 28 Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea. 29 Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan. 30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi. 31 Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy. 32 Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig. 33 A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. 34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef. 35 A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. 36 A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef. 37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. 38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan. 39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid. 40 A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau. 41 A’r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân. 42 Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef. 43 Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a’i hanfonodd ef ymaith yn y man; 44 Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy. 45 Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r gair ar led, fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.