Old/New Testament
23 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn. 3 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau.
4 Dyma wyliau yr Arglwydd, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor. 5 O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr Arglwydd. 6 A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwytewch fara croyw. 7 Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur. 8 Ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.
9 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, 10 Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi, a medi ohonoch ei gynhaeaf; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad. 11 Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd, i’ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi’r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi. 12 Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 13 A’i fwyd‐offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd, yn arogl peraidd: a’i ddiod‐offrwm fyddo win, pedwaredd ran hin. 14 Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwm eich Duw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.
15 A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi’r Saboth, o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Saboth cyflawn fyddant: 16 Hyd drannoeth wedi’r seithfed Saboth, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymwch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd. 17 A dygwch o’ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobi hwynt, yn flaenffrwyth i’r Arglwydd. 18 Ac offrymwch gyda’r bara saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i’r Arglwydd fyddant hwy, ynghyd â’u bwyd‐offrwm a’u diod‐offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 19 Yna aberthwch un bwch geifr yn bech‐aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd. 20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara’r blaenffrwyth, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd, ynghyd â’r ddau oen: cysegredig i’r Arglwydd ac eiddo’r offeiriad fyddant. 21 A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.
22 A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i’r tlawd a’r dieithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 24 Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd. 25 Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.
26 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 27 Y degfed dydd o’r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymod; cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. 28 Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymod yw, i wneuthur cymod drosoch gerbron yr Arglwydd eich Duw. 29 Canys pob enaid a’r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl. 30 A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl. 31 Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragwyddol, trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn. 32 Saboth gorffwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o’r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth.
33 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd. 34 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i’r Arglwydd. 35 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch. 36 Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith. 37 Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i’r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd‐offrwm, aberth, a diod‐offrwm; pob peth yn ei ddydd: 38 Heblaw Sabothau yr Arglwydd, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i’r Arglwydd. 39 Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd. 40 A’r dydd cyntaf cymerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod. 41 A chedwch hon yn ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl. 42 Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod: 43 Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd eich Duw. 44 A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel.
24 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur, coethedig, i’r goleuni, i beri i’r lampau gynnau bob amser. 3 O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn. 4 Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser.
5 A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen. 6 A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr Arglwydd. 7 A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. 8 Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr Arglwydd bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel. 9 A bydd eiddo Aaron a’i feibion; a hwy a’i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol.
10 A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o’r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll. 11 A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felltigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan. 12 A gosodasant ef yng ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent. 13 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 14 Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef. 15 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod. 16 A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a’r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.
17 A’r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw. 18 A’r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail. 19 A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo: 20 Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau. 21 A’r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir. 22 Bydded un farn i chwi; bydded i’r dieithr, fel i’r priodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.
23 A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
1 Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw; 2 Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 3 Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn union ei lwybrau ef. 4 Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. 5 Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea, a’r Hierosolymitiaid, ac a’u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. 6 Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. 7 Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i’w datod. 8 Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân. 9 A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o’r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen. 10 Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen. 11 A llef a ddaeth o’r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 12 Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch. 13 Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda’r gwylltfilod: a’r angylion a weiniasant iddo. 14 Ac ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw; 15 A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl. 16 Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.) 17 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion. 18 Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef. 19 Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau. 20 Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r cyflogddynion, ac a aethant ar ei ôl ef. 21 A hwy a aethant i mewn i Gapernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i’r synagog, efe a athrawiaethodd. 22 A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.