Old/New Testament
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl. 2 Ond am ei gyfnesaf agos iddo; am ei fam, am ei dad, ac am ei fab, ac am ei ferch, ac am ei frawd, 3 Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo, yr hon ni fu eiddo gŵr: am honno y gall ymhalogi. 4 Nac ymhaloged pennaeth ymysg ei bobl, i’w aflanhau ei hun. 5 Na wnânt foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant doriadau ar eu cnawd. 6 Sanctaidd fyddant i’w Duw, ac na halogant enw eu Duw: oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd. 7 Na chymerant buteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr; oherwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw. 8 A chyfrif di ef yn sanctaidd; oherwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymu: bydded sanctaidd i ti; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd.
9 Ac os dechrau merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân. 10 A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew’r eneiniad ar ei ben, ac a gysegrwyd i wisgo’r gwisgoedd, na ddiosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad: 11 Ac na ddeued at gorff un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam: 12 Ac nac aed allan o’r cysegr, ac na haloged gysegr ei Dduw; am fod coron olew eneiniad ei Dduw arno ef: myfi yw yr Arglwydd. 13 A chymered efe wraig yn ei morwyndod. 14 Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymered: ond cymered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig. 15 Ac na haloged ei had ymysg ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef.
16 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 17 Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesaed un o’th had di trwy eu cenedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu bara ei Dduw: 18 Canys ni chaiff un gŵr y byddo anaf arno nesáu; y gŵr dall, neu’r cloff, neu’r trwyndwn, neu’r neb y byddo dim gormod ynddo; 19 Neu’r gŵr y byddo iddo droed twn, neu law don; 20 Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn gor, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin. 21 Na nesaed un gŵr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu ebyrth tanllyd yr Arglwydd: anaf sydd arno; na nesaed i offrymu bara ei Dduw. 22 Bara ei Dduw, o’r pethau sanctaidd cysegredig, ac o’r pethau cysegredig, a gaiff efe ei fwyta. 23 Eto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesaed at yr allor, am fod anaf arno; ac na haloged fy nghysegroedd: canys myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt. 24 A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.
22 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneilltuo oddi wrth bethau cysegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cysegru i mi: myfi yw yr Arglwydd. 3 Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenedlaethau, a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd. 4 Na fwytaed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cysegredig, ac yntau yn wahanglwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhaer ef: na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had; 5 Na’r un a gyffyrddo ag un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o’i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno: 6 A’r dyn a gyffyrddo ag ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwytaed o’r pethau cysegredig, oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr. 7 A phan fachludo’r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwytaed o’r pethau cysegredig: canys ei fwyd ef yw hwn. 8 Ac na fwytaed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi yw yr Arglwydd. 9 Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt. 10 Ac na fwytaed un alltud o’r peth cysegredig: dieithrddyn yr offeiriad, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta’r peth cysegredig. 11 Ond pan bryno’r offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwyta ohono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwyta o’i fara ef. 12 A merch yr offeiriad, pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr, ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig. 13 Ond merch yr offeiriad, os gweddw fydd hi, neu wedi ysgar, a heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad, a gaiff fwyta o fara ei thad, megis yn ei hieuenctid; ac ni chaiff neb dieithr fwyta ohono.
14 A phan fwytao un beth cysegredig mewn anwybod; yna chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded gyda’r peth cysegredig i’r offeiriad. 15 Ac na halogant gysegredig bethau meibion Israel, y rhai a offrymant i’r Arglwydd. 16 Ac na wnânt iddynt ddwyn cosb camwedd, pan fwytaont eu cysegredig bethau hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd.
17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 18 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o ddieithr yn Israel, a offrymo ei offrwm yn ôl ei holl addunedau, ac yn ôl ei holl roddion gwirfodd, y rhai a offrymant i’r Arglwydd yn boethoffrwm; 19 Offrymwch wrth eich ewyllys eich hun, un gwryw perffaith‐gwbl, o’r eidionau, o’r defaid, neu o’r geifr. 20 Nac offrymwch ddim y byddo anaf arno; oherwydd ni bydd efe gymeradwy drosoch. 21 A phan offrymo gŵr aberth hedd i’r Arglwydd, gan neilltuo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o’r eidionau, neu o’r praidd, bydded berffaith‐gwbl, fel y byddo gymeradwy: na fydded un anaf arno. 22 Y dall, neu’r ysig, neu’r anafus, neu’r dafadennog, neu’r crachlyd, neu’r clafrllyd, nac offrymwch hwy i’r Arglwydd, ac na roddwch aberth tanllyd ohonynt ar allor yr Arglwydd. 23 A’r eidion, neu yr oen a fyddo gormod neu ry fychain ei aelodau, gellwch ei offrymu yn offrwm gwirfodd; ond dros adduned ni bydd cymeradwy. 24 Nac offrymwch i’r Arglwydd ddim wedi llethu, neu ysigo, neu ddryllio, neu dorri; ac na wnewch yn eich tir y fath beth. 25 Ac nac offrymwch o law un dieithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hyn: canys y mae eu llygredigaeth ynddynt; anaf sydd arnynt: ni byddant gymeradwy drosoch.
26 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 27 Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod dan ei fam; o’r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd. 28 Ac am fuwch neu ddafad, na leddwch hi a’i llwdn yn yr un dydd. 29 A phan aberthoch aberth diolch i’r Arglwydd, offrymwch wrth eich ewyllys eich hunain. 30 Y dydd hwnnw y bwyteir ef; na weddillwch ohono hyd y bore: myfi yw yr Arglwydd. 31 Cedweh chwithau fy ngorchmynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd. 32 Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond sancteiddier fi ymysg meibion Israel: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd, 33 Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: myfi yw yr Arglwydd.
28 Ac yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen, a’r Fair arall, i edrych y bedd. 2 Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. 3 A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. 4 A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw. 5 A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. 6 Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. 7 Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi. 8 Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef.
9 Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i haddolasant. 10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i’m brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y’m gwelant i.
11 Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid. 12 Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i’r milwyr, 13 Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. 14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a’i perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal. 15 A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
16 A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd lle yr ordeiniasai’r Iesu iddynt. 17 A phan welsant ef, hwy a’i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant. 18 A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 19 Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân; 20 Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.