Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Lefiticus 17-18

17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pob un o dŷ Israel a laddo ych, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o’r gwersyll, Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymu offrwm i’r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl. Oherwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ie, dygant hwynt i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd. A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwêr yn arogl peraidd i’r Arglwydd. Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn puteinio ar eu hôl. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenedlaethau.

Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymo boethoffrwm, neu aberth, Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i’w offrymu i’r Arglwydd; torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl.

10 A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwytao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwytao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl. 11 Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed; a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymod dros eich eneidiau; oherwydd y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid. 12 Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytaed un enaid ohonoch waed; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwytaed waed. 13 A phwy bynnag o feibion Israel, neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwytaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch. 14 Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytewch waed un cnawd; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a’i bwytao, a dorrir ymaith. 15 A phob dyn a’r a fwytao’r peth a fu farw ohono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai priodor, ai dieithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd. 16 Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd.

18 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw. Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt. Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw. Ie, cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau: a’r dyn a’u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.

Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd. Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni. Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw. Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt. 10 Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw. 11 Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau yw hi; na ddinoetha ei noethni hi. 12 Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi. 13 Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi. 14 Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi. 15 Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi. 16 Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw. 17 Na noetha noethni gwraig a’i merch; na chymer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn. 18 Hefyd na chymer wraig ynghyd â’i chwaer, i’w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda’r llall, yn ei byw hi. 19 Ac na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi. 20 Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o’i phlegid. 21 Ac na ddod o’th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd. 22 Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny. 23 Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny. 24 Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi: 25 A’r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â’i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo’r wlad ei thrigolion. 26 Ond cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; na’r priodor, na’r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg: 27 (Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o’ch blaen, a’r wlad a halogwyd;) 28 Fel na chwydo’r wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen. 29 Canys pwy bynnag a wnêl ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a’u gwnelo o blith eu pobl. 30 Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

Mathew 27:27-50

27 Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin. 28 A hwy a’i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad.

29 A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon. 30 A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a’i trawsant ar ei ben. 31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio. 32 Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef.

33 A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle’r benglog, 34 Hwy a roesant iddo i’w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. 35 Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren. 36 A chan eistedd, hwy a’i gwyliasant ef yno: 37 A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON. 38 Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy.

39 A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, 40 A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri’r deml, ac a’i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes. 41 A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a ddywedasant, 42 Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo. 43 Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a’i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf. 44 A’r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef. 45 Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 46 Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 47 A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias. 48 Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef. 49 A’r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef.

50 A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.