Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Lefiticus 11-12

11 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt, Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r anifeiliaid a fwytewch, o’r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear. Beth bynnag a hollto’r ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o’r anifeiliaid; hwnnw a fwytewch. Ond y rhai hyn ni fwytewch; o’r rhai a gnoant eu cil ac o’r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti’r ewin; aflan fydd i chwi. A’r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi’r ewin; aflan yw i chwi. A’r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi’r ewin; aflan yw i chwi. A’r llwdn hwch, am ei fod yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi. Na fwytewch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.

Hyn a fwytewch o bob dim a’r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chen, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwytewch. 10 A phob dim nid oes iddo esgyll a chen, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych. 11 Byddant ffiaidd gennych: na fwytewch o’u cig hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy. 12 Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.

13 A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar; na fwytewch hwynt, ffieidd‐dra ydynt: sef yr eryr, a’r wyddwalch, a’r fôr‐wennol; 14 A’r fwltur, a’r barcud yn ei ryw; 15 Pob cigfran yn ei rhyw; 16 A chyw’r estrys, a’r frân nos, a’r gog, a’r gwalch yn ei ryw; 17 Ac aderyn y cyrff, a’r fulfran, a’r dylluan, 18 A’r gogfran, a’r pelican, a’r biogen, 19 A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum. 20 Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd‐dra yw i chwi. 21 Ond hyn a fwytewch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear; 22 O’r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch: y locust yn ei ryw, a’r selam yn ei ryw, a’r hargol yn ei ryw, a’r hagab yn ei ryw. 23 A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd‐dra fydd i chwi. 24 Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr. 25 A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr. 26 Am bob anifail fydd yn hollti’r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil, aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt. 27 Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr. 28 A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.

29 A’r rhai hyn sydd aflan i chwi o’r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wenci, a’r llygoden, a’r llyffant yn ei ryw; 30 A’r draenog, a’r lysard, a’r ystelio, a’r falwoden, a’r wadd. 31 Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr. 32 A phob dim y cwympo un ohonynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd lân. 33 A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o’r rhai hyn i’w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o’i fewn; a thorrwch yntau. 34 Aflan fydd pob bwyd a fwyteir, o’r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan. 35 Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o’u burgyn arno; y ffwrn a’r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi. 36 Eto glân fydd y ffynnon a’r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan. 37 Ac os syrth dim o’u burgyn hwynt ar ddim had heuedig, yr hwn a heuir; glân yw efe. 38 Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o’u burgyn hwynt arno ef; aflan fydd efe i chwi. 39 Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr. 40 A’r hwn a fwyty o’i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a’r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr. 41 A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd‐dra: na fwytaer ef. 42 Pob peth a gerddo ar ei dor, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwytewch hwynt: canys ffieidd‐dra ydynt. 43 Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o’u plegid, fel y byddech aflan o’u herwydd. 44 Oherwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear. 45 Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi. 46 Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a’r ehediaid, a phob peth byw a’r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a’r sydd yn ymlusgo ar y ddaear; 47 I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glân, a rhwng yr anifail a fwyteir a’r hwn nis bwyteir.

12 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wryw; yna bydded aflan saith niwrnod: fel dyddiau gwahaniaeth ei misglwyf y bydd hi aflan. A’r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef. A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i’r cysegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth. Ond os ar fenyw yr esgor hi; yna y bydd hi aflan bythefnos, megis yn ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thrigain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth. A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch; dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colomen, neu durtur, yn aberth dros bechod, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod: Ac offrymed efe hynny gerbron yr Arglwydd, a gwnaed gymod drosti: a hi a lanheir oddi wrth gerddediad ei gwaed. Dyma gyfraith yr hon a esgor ar wryw neu ar fenyw. Ac os ei llaw ni chyrraedd werth oen, yna cymered ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn offrwm poeth, a’r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymod drosti; a glân fydd.

Mathew 26:1-25

26 A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio. Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.

Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 10 A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 11 Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser. 12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. 13 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.

14 Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, 15 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. 16 Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef.

17 Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg? 18 Ac yntau a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae’r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a’m disgyblion. 19 A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai’r Iesu iddynt, ac a baratoesant y pasg. 20 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda’r deuddeg. 21 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a’m bradycha i. 22 A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd? 23 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. 24 Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef. 25 A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.