Old/New Testament
8 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Cymer Aaron a’i feibion gydag ef, a’r gwisgoedd, ac olew yr eneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw: 3 A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod. 4 A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod. 5 A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, Dyma’r peth a orchmynnodd’ yr Arglwydd ei wneuthur. 6 A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr. 7 Ac efe a roddes amdano ef y bais, ac a’i gwregysodd ef â’r gwregys, ac a wisgodd y fantell amdano, ac a roddes yr effod amdano, ac a’i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod, ac a’i caeodd amdano ef. 8 Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwyfronneg. 9 Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai’r Arglwydd i Moses. 10 A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a’r hyn oll oedd ynddo; ac a’u cysegrodd hwynt. 11 Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a’i holl lestri, a’r noe hefyd a’i throed, i’w cysegru. 12 Ac efe a dywalltodd o olew’r eneiniad ar ben Aaron, ac a’i heneiniodd ef, i’w gysegru. 13 A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau amdanynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses. 14 Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod; 15 Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cysegrodd hi, i wneuthur cymod arni. 16 Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u gwêr; a Moses a’i llosgodd ar yr allor. 17 A’r bustach, a’i groen, a’i gig, a’i fiswail, a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll: fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
18 Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd: 19 Ac efe a’i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch. 20 Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a’r gwêr. 21 Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor. Poethoffrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses.
22 Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cysegriad: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd. 23 Ac efe a’i lladdodd; a Moses a gymerodd o’i waed, ac a’i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau. 24 Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o’r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch. 25 Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a’r gloren, a’r holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u braster, a’r ysgwyddog ddeau. 26 A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a’u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau: 27 Ac a roddes y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a’u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 28 A Moses a’u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd. 29 Cymerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 30 A chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o’r gwaed oedd ar yr allor, ac a’i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.
31 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwytewch ef, a’r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau; megis y gorchmynnais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwyty ef. 32 A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân. 33 Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau: oherwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi. 34 Megis y gwnaeth efe heddiw, y gorchmynnodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymod drosoch. 35 Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchmynnwyd. 36 A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchmynnodd yr Arglwydd trwy law Moses.
9 Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel; 2 Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith‐gwbl, a dwg hwy gerbron yr Arglwydd. 3 Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, blwyddiaid, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm; 4 Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr Arglwydd; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.
5 A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a’r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr Arglwydd. 6 A dywedodd Moses, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi. 7 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
8 Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun. 9 A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor. 10 Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwêr a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 11 A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll. 12 Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 13 A dygasant y poethoffrwm ato, gyda’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor. 14 Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.
15 Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf. 16 Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a’i hoffrymodd yn ôl y ddefod. 17 Ac efe a ddug y bwyd‐offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a’i llosgodd ar yr allor, heblaw poethoffrwm y bore. 18 Ac efe a laddodd y bustach a’r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 19 Dygasant hefyd wêr y bustach a’r hwrdd, y gloren, a’r weren fol, a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu. 20 A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor. 21 Y parwydennau hefyd, a’r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynnodd Moses. 22 A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac a’u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a’r poethoffrwm, a’r ebyrth hedd. 23 A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl. 24 A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.
10 Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymerasant bob un ei thuser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl‐darth ar hynny; ac a offrymasant gerbron yr Arglwydd dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt. 2 A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a’u difaodd hwynt; a buant feirw gerbron yr Arglwydd. 3 A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma’r hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt ataf, a cherbron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron. 4 A galwodd Moses Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nes; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr, allan o’r gwersyll. 5 A nesáu a wnaethant, a’u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o’r gwersyll; fel y llefarasai Moses. 6 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddiosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd. 7 Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod; rhag i chwi farw: oherwydd bod olew eneiniad yr Arglwydd arnoch chwi. A gwnaethant fel y llefarodd Moses.
8 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd, 9 Gwin a diod gadarn nac yf di, na’th feibion gyda thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn: 10 A hynny er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig, a rhwng aflan a glân; 11 Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses.
12 A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o’i feibion ef, Cymerwch y bwyd‐offrwm sydd yng ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwytewch yn groyw gerllaw yr allor: oherwydd sancteiddiolaf yw. 13 A bwytewch ef yn y lle sanctaidd: oherwydd dy ran di, a rhan dy feibion di, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yw hyn: canys fel hyn y’m gorchmynnwyd. 14 Y barwyden gyhwfan hefyd, a’r ysgwyddog ddyrchafael, a fwytewch mewn lle glân; tydi, a’th feibion, a’th ferched, ynghyd â thi: oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i’th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel. 15 Yr ysgwyddog ddyrchafael, a’r barwyden gyhwfan, a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o’r gwêr, i gyhwfanu offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: a bydded i ti, ac i’th feibion gyda thi, yn rhan dragwyddol; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
16 A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleasar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd, 17 Paham na fwytasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; oherwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, gerbron yr Arglwydd? 18 Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr: ei fwyta a ddylasech yn y cysegr; fel y gorchmynnais. 19 A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod, a’u poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd? 20 A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.
31 A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant. 32 A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr: 33 Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy. 34 Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd. 35 Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi: 36 Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf. 37 Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, ac y’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod? 38 A pha bryd y’th welsom yn ddieithr, ac y’th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y’th ddilladasom? 39 A pha bryd y’th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat? 40 A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. 41 Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i’r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i’w angylion. 42 Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod: 43 Bûm ddieithr, ac ni’m dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni’m dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. 44 Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti? 45 Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. 46 A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.