Old/New Testament
6 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i’w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog; 3 Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd amdano, neu dyngu yn anudon; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt: 4 Yna, am iddo bechu, a bod yn euog; bydded iddo roddi yn ei ôl y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gydag ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe, 5 Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon amdano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato: ar y dydd yr offrymo dros gamwedd, rhodded ef i’r neb a’i piau. 6 A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad. 7 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog ohono.
8 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 9 Gorchymyn i Aaron, ac i’w feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poethoffrwm: (poethoffrwm yw, oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gyneuir arni.) 10 Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano, a gwisged lodrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor, a gosoded ef gerllaw yr allor. 11 A diosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân. 12 A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poethoffrwm arni, a llosged wêr yr aberth hedd arni. 13 Cyneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.
14 Dyma hefyd gyfraith y bwyd‐offrwm. Dyged meibion Aaron ef gerbron yr Arglwydd, o flaen yr allor: 15 A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd‐offrwm, ac o’i olew, a’r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd‐offrwm; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd. 16 A’r gweddill ohono a fwyty Aaron a’i feibion: yn groyw y bwyteir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef. 17 Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd. 18 Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn: deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
19 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 20 Dyma offrwm Aaron a’i feibion, yr hwn a offrymant i’r Arglwydd, ar y dydd yr eneinier ef. Degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a’i hanner brynhawn. 21 Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offryma ddarnau y bwyd‐offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i’r Arglwydd. 22 A’r offeiriad o’i feibion ef, yr hwn a eneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragwyddol: llosger y cwbl i’r Arglwydd. 23 A phob bwyd‐offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwytaer ef.
24 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 25 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poethoffrwm, y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr Arglwydd: sancteiddiolaf yw efe. 26 Yr offeiriad a’i hoffrymo dros bechod, a’i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef, yng nghynteddfa pabell y cyfarfod. 27 Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno. 28 A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr. 29 Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe. 30 Ac na fwytaer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o’i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.
7 Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: sancteiddiolaf yw. 2 Yn y man lle y lladdant y poethoffrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a’i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch. 3 A’i holl wêr a offryma efe ohono; y gloren hefyd, a’r weren fol. 4 A’r ddwy aren, a’r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 5 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: aberth dros gamwedd yw. 6 Pob gwryw ymysg yr offeiriaid a’i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef: sancteiddiolaf yw. 7 Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymod ag ef, a’i piau. 8 A’r offeiriad a offrymo boethoffrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poethoffrwm a offrymodd efe. 9 A phob bwyd‐offrwm a graser mewn ffwrn, a’r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo’r offeiriad a’i hoffrymo. 10 A phob bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob un fel ei gilydd. 11 Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offryma efe i’r Arglwydd. 12 Os yn lle diolch yr offryma efe hyn; offrymed gyda’r aberth diolch deisennau croyw, wedi eu cymysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro ag olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymysgu ag olew. 13 Heblaw’r teisennau, offrymed fara lefeinllyd, yn ei offrwm, gyda’i hedd‐aberth o ddiolch. 14 Ac offrymed o hyn un dorth o’r holl offrwm, yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo’r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd. 15 A chig ei hedd‐aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef: na adawer dim ohono hyd y bore. 16 Ond os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef; y dydd yr offrymo efe ei aberth, bwytaer ef: a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill ohono. 17 Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân. 18 Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i’r hwn a’i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a’r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd. 19 A’r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyteir; mewn tân y llosgir ef: a’r cig arall, pob glân a fwyty ohono. 20 A’r dyn a fwytao gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl. 21 Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef ag aflendid dyn, neu ag anifail aflan, neu ag un ffieiddbeth aflan, a bwyta o gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
22 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 23 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr. 24 Eto gwêr burgyn, neu wêr ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith; ond gan fwyta na fwytewch ef. 25 Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail, o’r hwn yr offrymir aberth tanllyd i’r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a’i bwytao o fysg ei bobl. 26 Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o’r eiddo aderyn, nac o’r eiddo anifail. 27 Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 29 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i’r Arglwydd, dyged ei rodd o’i aberth hedd i’r Arglwydd. 30 Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwêr ynghyd â’r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i’w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 31 A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i’w feibion. 32 Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i’r offeiriad, o’ch ebyrth hedd. 33 Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd, a’r gwêr; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan. 34 Oherwydd parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyrchafael, a gymerais i gan feibion Israel o’u hebyrth hedd, ac a’u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i’w feibion, trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel.
35 Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i’r Arglwydd; 36 Yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragwyddol, trwy eu cenedlaethau. 37 Dyma gyfraith y poethoffrwm, y bwyd‐offrwm, a’r aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd, a’r cysegriadau, a’r aberth hedd; 38 Yr hon a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchmynnodd efe i feibion Israel offrymu eu hoffrymau i’r Arglwydd, yn anialwch Sinai.
25 Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab. 2 A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl. 3 Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt: 4 A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau. 5 A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant. 6 Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae’r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef. 7 Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau. 8 A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi. 9 A’r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. 10 A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i’r briodas: a chaewyd y drws. 11 Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. 12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi. 13 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn.
14 Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt. 15 Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref. 16 A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill. 17 A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill. 18 Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. 19 Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt. 20 A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist ataf: wele, mi a enillais bum talent eraill atynt. 21 A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 22 A’r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist ataf: wele, dwy eraill a enillais atynt. 23 Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 24 A’r hwn a dderbyniasai’r un dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a’th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle nis heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist: 25 A mi a ofnais, ac a euthum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. 26 A’i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais: 27 Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr; a mi, pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog. 28 Cymerwch gan hynny y dalent oddi wrtho, a rhoddwch i’r hwn sydd ganddo ddeg talent. 29 Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 30 A bwriwch allan y gwas anfuddiol i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.