Old/New Testament
34 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nadd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist. 2 A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd. 3 Ond na ddeued neb i fyny gyda thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.
4 Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr Arglwydd iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg. 5 A’r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd. 6 A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, y Duw trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd; 7 Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. 8 A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua’r llawr, ac a addolodd; 9 Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, atolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wargaled yw,) a maddau ein hanwiredd, a’n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.
10 Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi. 11 Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Pheresiad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad. 12 A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfamod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith. 13 Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt. 14 Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe; 15 Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwyta o’u haberth; 16 A chymryd ohonot o’u merched i’th feibion; a phuteinio o’u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i’th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt. 17 Na wna i ti dduwiau tawdd.
18 Cadw ŵyl y bara croyw: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o’r Aifft. 19 Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwryw cyntaf o’th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid. 20 Ond y cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni, tor ei wddf: prŷn hefyd bob cyntaf‐anedig o’th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.
21 Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhaeaf, y gorffwysi.
22 Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau, o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith; a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.
23 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw, Duw Israel. 24 Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn. 25 Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore. 26 Dwg y gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 27 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna i ti y geiriau hyn: oblegid yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi, ac ag Israel. 28 Ac efe a fu yno gyda’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifennodd ar y llechau eiriau’r cyfamod, sef y deg gair.
29 A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho. 30 A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesáu ato ef. 31 A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelasant ato ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy. 32 Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai. 33 Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes len gudd ar ei wyneb. 34 A phan ddelai Moses gerbron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo. 35 A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai i lefaru wrth Dduw.
35 Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma’r pethau a orchmynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur. 2 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Saboth gorffwys i’r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno. 3 Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth.
4 A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, 5 Cymerwch o’ch plith offrwm yr Arglwydd: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i’r Arglwydd; aur, ac arian, a phres, 6 A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, 7 A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim, 8 Ac olew i’r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i’r arogl‐darth peraidd, 9 A meini onics, a meini i’w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg. 10 A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd; 11 Y tabernacl, ei babell‐len a’i do, ei fachau a’i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a’i forteisiau, 12 Yr arch, a’i throsolion, y drugareddfa, a’r wahanlen, yr hon a’i gorchuddia, 13 Y bwrdd, a’i drosolion, a’i holl lestri, a’r bara dangos, 14 A chanhwyllbren y goleuni, a’i offer, a’i lampau, ac olew y goleuni, 15 Ac allor yr arogl‐darth, a’i throsolion, ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i’r tabernacl, 16 Allor y poethoffrwm a’i halch bres, ei throsolion, a’i holl lestri, y noe a’i throed, 17 Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa, 18 Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a’u rhaffau hwynt, 19 A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.
20 A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses. 21 A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd. 22 A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a’r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i’r Arglwydd. 23 A phob un a’r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a’u dygasant. 24 Pob un a’r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i’r Arglwydd: a phob un a’r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a’i dygasant. 25 A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main. 26 A’r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr. 27 A’r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i’w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg; 28 A llysiau, ac olew i’r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i’r arogl‐darth peraidd. 29 Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai’r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i’r Arglwydd offrwm ewyllysgar.
30 A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw, Besaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda: 31 Ac a’i llanwodd ef ag ysbryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith; 32 I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, 33 Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint. 34 Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan. 35 Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychmygu cywreinrwydd.
23 Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo, 24 Gan ddywedyd, Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i’w frawd. 25 Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a’r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i’w frawd. 26 Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y seithfed. 27 Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. 28 Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? canys hwynt‐hwy oll a’i cawsant hi. 29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw. 30 Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef. 31 Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, 32 Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. 33 A phan glybu’r torfeydd hynny, hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef.
34 Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle. 35 Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd, 36 Athro, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith? 37 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl. 38 Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr. 39 A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. 40 Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll.
41 Ac wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, 42 Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd. 43 Dywedai yntau wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, 44 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di? 45 Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? 46 Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.