Old/New Testament
31 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda; 3 Ac a’i llenwais ef ag ysbryd Duw, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith, 4 I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, 5 Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith. 6 Ac wele, mi a roddais gydag ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt. 7 Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a’r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl lestri y babell, 8 A’r bwrdd a’i lestri, a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth, 9 Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed, 10 A gwisgoedd y weinidogaeth, a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt, 11 Ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth peraidd i’r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt. 12 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd, 13 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Diau y cedwch fy Sabothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, sydd yn eich sancteiddio. 14 Am hynny cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl. 15 Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i’r Arglwydd: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth. 16 Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth, gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau, yn gyfamod tragwyddol. 17 Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.
18 Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orffen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys Duw.
32 Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. 2 A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch ataf fi. 3 A’r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a’u dygasant at Aaron. 4 Ac efe a’u cymerodd o’u dwylo, ac a’i lluniodd â chŷn, ac a’i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft. 5 A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gŵyl i’r Arglwydd yfory. 6 A hwy a godasant yn fore drannoeth, ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwarae.
7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft. 8 Buan y ciliasant o’r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft. 9 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt. 10 Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr. 11 A Moses a ymbiliodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft, trwy nerth mawr, a llaw gadarn? 12 Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl. 13 Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth. 14 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i’w bobl.
15 A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o’r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o’u dau du; hwy a ysgrifenasid o bob tu. 16 A’r llechau hynny oedd o waith Duw: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau. 17 A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll. 18 Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli’r maes; ond sŵn canu a glywaf fi.
19 A bu, wedi dyfod ohono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt islaw y mynydd. 20 Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy, ac a’i llosgodd â thân, ac a’i malodd yn llwch, ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel. 21 A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr? 22 A dywedodd Aaron, Nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent. 23 Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. 24 A dywedais wrthynt, I’r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a’i rhoddasant i mi: a mi a’i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.
25 A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a’u noethasai hwynt, i’w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;) 26 Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du’r Arglwydd? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef. 27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy’r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog. 28 A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses: a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr. 29 Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddiw i’r Arglwydd, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddiw i chwi fendith.
30 A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr Arglwydd; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi. 31 A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur. 32 Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, atolwg, allan o’th lyfr a ysgrifennaist. 33 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn, hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr. 34 Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o’th flaen di: a’r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod. 35 A’r Arglwydd a drawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.
33 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fyny oddi yma, ti a’r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft, i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf hi. 2 A mi a anfonaf angel o’th flaen di; ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a’r Hethiad, y Pheresiad, yr Hefiad, a’r Jebusiad: 3 I wlad yn llifeirio o laeth a mêl: oherwydd nid af fi i fyny yn dy blith; oblegid pobl wargaled wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.
4 A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn, galaru a wnaethant: ac ni wisgodd neb ei harddwisg amdano. 5 Oblegid yr Arglwydd a ddywedasai wrth Moses, Dywed wrth feibion Israel, Pobl wargaled ydych chwi; yn ddisymwth y deuaf i fyny i’th ganol di, ac y’th ddifethaf: am hynny yn awr diosg dy harddwisg oddi amdanat, fel y gwypwyf beth a wnelwyf i ti. 6 A meibion Israel a ddiosgasant eu harddwisg wrth fynydd Horeb. 7 A Moses a gymerodd y babell, ac a’i lledodd o’r tu allan i’r gwersyll, ymhell oddi wrth y gwersyll; ac a’i galwodd, Pabell y cyfarfod; a phob un a geisiai yr Arglwydd, a âi allan i babell y cyfarfod, yr hon ydoedd o’r tu allan i’r gwersyll. 8 A phan aeth Moses i’r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob un ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ôl Moses, nes ei ddyfod i’r babell. 9 A phan aeth Moses i’r babell, y disgynnodd colofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses. 10 A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a’r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell. 11 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelodd i’r gwersyll: ond y llanc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o’r babell.
12 A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Gwêl, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fyny; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi: a thi a ddywedaist, Mi a’th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg. 13 Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, atolwg, fel y’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon. 14 Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystra i ti. 15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fyny oddi yma. 16 Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear. 17 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a’th adwaen wrth dy enw. 18 Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, atolwg, dy ogoniant. 19 Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di: a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. 20 Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni’m gwêl dyn, a byw. 21 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig. 22 A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a’th orchuddiaf â’m llaw, nes i mi fyned heibio. 23 Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a’m tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.
22 A’r Iesu a atebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd, 2 Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab, 3 Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod. 4 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r briodas. 5 A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes, ac arall i’w fasnach: 6 A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hamharchasant, ac a’u lladdasant. 7 A phan glybu’r brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt. 8 Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. 9 Ewch gan hynny i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. 10 A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.
11 A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano: 12 Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. 13 Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 14 Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
15 Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. 16 A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. 17 Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw? 18 Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr? 19 Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog: 20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? 21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. 22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned ymaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.