Old/New Testament
27 Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd. 2 A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn: a gwisg hi â phres. 3 Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres. 4 A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl. 5 A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo’r rhwyd hyd hanner yr allor. 6 A gwna drosolion i’r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres. 7 A dod ei throsolion trwy’r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i’w dwyn hi. 8 Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.
9 A gwna gynteddfa’r tabernacl ar y tu deau, tua’r deau: llenni’r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd, o gan cufydd o hyd, i un ystlys. 10 A’i hugain colofn, a’u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a’u cylchau, fydd o arian. 11 Felly o du’r gogledd ar hyd, y bydd llenni o gan cufydd o hyd, a’u hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres; a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian.
12 Ac i led y cynteddfa, o du’r gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a’u morteisiau yn ddeg. 13 A lled y cynteddfa, tua’r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain. 14 Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a’u morteisiau yn dair. 15 Ac i’r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a’u tair mortais.
16 Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith; eu pedair colofn, a’u pedair mortais. 17 Holl golofnau’r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian; a’u pennau yn arian, a’u morteisiau yn bres.
18 Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd, a’i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a’u morteisiau o bres. 19 Holl lestri’r tabernacl yn eu holl wasanaeth, a’i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.
20 A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i’r lamp losgi yn wastad. 21 Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, gerbron yr Arglwydd: deddf dragwyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.
28 A chymer Aaron dy frawd atat, a’i feibion gydag ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar, meibion Aaron. 2 Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch. 3 A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb, am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi. 4 A dyma y gwisgoedd a wnânt. Dwyfronneg, ac effod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnânt wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i’w feibion, i offeiriadu i mi. 5 Cymerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.
6 A gwnânt yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith cywraint. 7 Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwr; ac felly y cydir hi ynghyd. 8 A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni, fydd o’r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ysgarlad hefyd, a lliain main cyfrodedd. 9 Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel: 10 Chwech o’u henwau ar un maen, a’r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth. 11 A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynnau o aur o’u hamgylch. 12 A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.
13 Gwna hefyd foglynnau aur; 14 A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig ynglŷn wrth y boglynnau.
15 Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr effod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, y gwnei hi. 16 Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hyd, ac yn rhychwant ei lled. 17 Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thopas, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf. 18 A’r ail res fydd carbuncl, saffir, ac adamant. 19 A’r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst. 20 Y bedwaredd res fydd beryl, ac onics, a iasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd. 21 A’r meini fyddant ag enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ôl y deuddeg llwyth.
22 A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth. 23 Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwr y ddwyfronneg. 24 A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg. 25 A’r ddau ben arall i’r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr effod o’r tu blaen.
26 Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod o’r tu mewn. 27 A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd, tua’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod. 28 A’r ddwyfronneg a rwymant â’u modrwyau wrth fodrwyau yr effod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr effod, fel na ddatoder y ddwyfronneg oddi wrth yr effod. 29 A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cysegr, yn goffadwriaeth gerbron yr Arglwydd yn wastadol.
30 A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a’r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, gerbron yr Arglwydd, yn wastadol.
31 Gwna hefyd fantell yr effod oll o sidan glas. 32 A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.
33 A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ar ei godre o amgylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch. 34 Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odre’r fantell o amgylch. 35 A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i’r cysegr, gerbron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.
36 Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni, fel naddiadau sêl, SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD. 37 A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o’r tu blaen i’r meitr y bydd. 38 A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr Arglwydd.
39 Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main; a gwna feitr o liain main; a’r gwregys a wnei o wniadwaith.
40 I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch. 41 A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a’i feibion gydag ef: ac eneinia hwynt, cysegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi. 42 Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant. 43 A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cysegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragwyddol iddo ef, ac i’w had ar ei ôl.
21 Aphan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl, 2 Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi. 3 Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt. 4 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwyd, yn dywedyd, 5 Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â’r iau. 6 Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt. 7 A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny. 8 A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar hyd y ffordd. 9 A’r torfeydd, y rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion. 10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? 11 A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea.
12 A’r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau’r newidwyr arian, a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod: 13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifennwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 14 A daeth y deillion a’r cloffion ato yn y deml; ac efe a’u hiachaodd hwynt. 15 A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a’r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant, 16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae’r rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?
17 Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o’r ddinas i Fethania, ac a letyodd yno. 18 A’r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. 19 A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren. 20 A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren! 21 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb amau, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd. 22 A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.