Old/New Testament
10 Adyma genedlaethau meibion Noa: Sem, Cham, a Jaffeth; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi’r dilyw.
2 Meibion Jaffeth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras. 3 Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma. 4 A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim. 5 O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6 A meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan. 7 A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan. 8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear. 9 Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd. 10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar. 11 O’r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala, 12 A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr. 13 Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim, 14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.
15 Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth, 16 A’r Jebusiad, a’r Amoriad, a’r Girgasiad, 17 A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad, 18 A’r Arfadiad, a’r Semariad, a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid. 19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa. 20 Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21 I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf. 22 Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram. 23 A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas. 24 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber. 25 Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan. 26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera, 27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla, 28 Obal hefyd, ac Abinael, a Seba, 29 Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan. 30 A’u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain. 31 Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ôl eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd. 32 Dyma deuluoedd meibion Noa, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu cenhedloedd: ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi’r dilyw.
11 A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd. 2 A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant. 3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch. 4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear. 5 A’r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion. 6 A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur. 7 Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd. 8 Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas. 9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
10 Dyma genedlaethau Sem: Sem ydoedd fab can mlwydd, ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi’r dilyw. 11 A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arffacsad, bum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 12 Arffacsad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Sela. 13 Ac Arffacsad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Sela, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14 Sela hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber. 15 A Sela a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 16 Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd Peleg. 17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 18 Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu. 19 A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20 Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug. 21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor. 23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tera. 25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 26 Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.
27 A dyma genedlaethau Tera: Tera a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot. 28 A Haran a fu farw o flaen Tera ei dad, yng ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid. 29 Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milca, merch Haran, tad Milca, a thad Isca. 30 A Sarai oedd amhlantadwy, heb blentyn iddi. 31 A Thera a gymerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno. 32 A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.
12 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti. 2 A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith. 3 Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti. 4 Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gydag ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran. 5 Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
6 Ac Abram a dramwyodd trwy’r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a’r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw. 7 A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo. 8 Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua’r gorllewin, a Hai tua’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd. 9 Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua’r deau.
10 Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i’r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlad. 11 A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti: 12 A phan welo’r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma’i wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw. 13 Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.
14 A bu, pan ddaeth Abram i’r Aifft, i’r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi. 15 A thywysogion Pharo a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharo: a’r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo. 16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod. 17 A’r Arglwydd a drawodd Pharo a’i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram. 18 A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi? 19 Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith. 20 A Pharo a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.
4 Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan ddiafol. 2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd. 3 A’r temtiwr pan ddaeth ato, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i’r cerrig hyn fod yn fara. 4 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifennwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw. 5 Yna y cymerth diafol ef i’r ddinas sanctaidd, ac a’i gosododd ef ar binacl y deml; 6 Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd, Y rhydd efe orchymyn i’w angylion amdanat; a hwy a’th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg. 7 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. 8 Trachefn y cymerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a’u gogoniant; 9 Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i. 10 Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi. 11 Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.
12 A phan glybu’r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea. 13 A chan ado Nasareth, efe a aeth ac a arhosodd yng Nghapernaum, yr hon sydd wrth y môr, yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali: 14 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, 15 Tir Sabulon, a thir Neffthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea’r Cenhedloedd: 16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.
17 O’r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.
18 A’r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgodwyr oeddynt: 19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch gwnaf yn bysgodwyr dynion. 20 A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant ef. 21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a’u galwodd hwy. 22 Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a’u tad, a’i canlynasant ef.
23 A’r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl. 24 Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a’r rhai cythreulig, a’r rhai lloerig, a’r sawl oedd â’r parlys arnynt; ac efe a’u hiachaodd hwynt. 25 A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.