Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 7-9

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noa, Dos di, a’th holl dŷ i’r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon. O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith, y gwryw a’i fenyw; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a’i fenyw: O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear. Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i. A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo. Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu’r dyfroedd dilyw ar y ddaear.

A Noa a aeth i mewn, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i’r arch, rhag y dwfr dilyw. O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear, Yr aeth i mewn at Noa i’r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchmynasai Duw i Noa. 10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.

11 Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri’r nefoedd a agorwyd. 12 A’r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos. 13 O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i’r arch; 14 Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw. 15 A daethant at Noa i’r arch bob yn ddau, o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes. 16 A’r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai Duw iddo. A’r Arglwydd a gaeodd arno ef. 17 A’r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear. 18 A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd. 19 A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd. 20 Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a’r mynyddoedd a orchuddiwyd. 21 A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd. 22 Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o’r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw. 23 Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ie, dilewyd hwynt o’r ddaear: a Noa a’r rhai oedd gydag ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw. 24 A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.

A Duw a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant. Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd. A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.

Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau’r mynyddoedd.

Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe. Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear. Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear. Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd hi, ac a’i derbyniodd hi ato i’r arch. 10 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o’r arch. 11 A’r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear. 12 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.

13 Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear. 14 Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, y ddaear a sychasai.

15 A llefarodd Duw wrth Noa, gan ddywedyd, 16 Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi. 17 Pob peth byw a’r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear. 18 A Noa a aeth allan, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef. 19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.

20 A Noa a adeiladodd allor i’r Arglwydd, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor. 21 A’r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio’r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum. 22 Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.

Duw hefyd a fendithiodd Noa a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a lluosogwch, a llenwch y ddaear. Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt. Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.

Er hynny na fwytewch gig ynghyd â’i einioes, sef ei waed. Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: o law pob bwystfil y gofynnaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn. A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn. Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhewch epiliwch ar y ddaear, a lluosogwch ynddi.

A Duw a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd, Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â’ch had ar eich ôl chwi; 10 Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear. 11 A mi a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha’r ddaear. 12 A Duw a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol: 13 Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a’r ddaear. 14 A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl. 15 A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd. 16 A’r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear. 17 A Duw a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.

18 A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan. 19 Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear. 20 A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan: 21 Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell. 22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan. 23 A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad. 24 A Noa a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo. 25 Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd. 26 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef. 27 Duw a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.

28 A Noa a fu fyw wedi’r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain. 29 Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.

Mathew 3

Ac yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffeithwch Jwdea, A dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd. Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn union ei lwybrau ef. A’r Ioan hwnnw oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Yna yr aeth allan ato ef Jerwsalem, a holl Jwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen: A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

A phan welodd efe lawer o’r Phariseaid ac o’r Sadwceaid yn dyfod i’w fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy, O genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch. Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o’r meini hyn, gyfodi plant i Abraham. 10 Ac yr awr hon hefyd y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 11 Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân. 12 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i’w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

13 Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, i’w fedyddio ganddo. 14 Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di ataf fi? 15 Ond yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gad yr awr hon; canys fel hyn y mae’n weddus inni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo. 16 A’r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o’r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef. 17 Ac wele lef o’r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.