Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Micha 1-3

Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem. Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr Arglwydd Dduw yn dyst i’ch erbyn, yr Arglwydd o’i deml sanctaidd. Canys wele yr Arglwydd yn dyfod o’i le; efe hefyd a ddisgyn, ac a sathr ar uchelderau y ddaear. A’r mynyddoedd a doddant tano ef, a’r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered. Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem? Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i’w cherrig dreiglo i’r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini. A’i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a’i holl wobrau a losgir yn tân, a’i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant. Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan. Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.

10 Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra. 11 Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan. 12 Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr Arglwydd hyd at borth Jerwsalem. 13 Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel. 14 Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel. 15 Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswylferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel. 16 Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt.

Gwae a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ar eu dwylo. Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a’u dygant: gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ, dyn a’i etifeddiaeth. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.

Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd. Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr Arglwydd. Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.

O yr hon a elwir Tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr Arglwydd? ai dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau les i’r neb a rodio yn uniawn? Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn gyda’r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel. Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth. 10 Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost. 11 Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i’r bobl hyn.

12 Gan gasglu y’th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn. 13 Daw y rhwygydd i fyny o’u blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o’u blaen, a’r Arglwydd ar eu pennau hwynt.

Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: Onid i chwi y perthyn gwybod barn? Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi amdanynt, a’u cig oddi wrth eu hesgyrn; Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a’u croen a flingant oddi amdanynt, a’u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i’r crochan, ac fel cig yn y badell. Yna y llefant ar yr Arglwydd, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â’u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a’r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn. Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a’r dydd a ddua arnynt. Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a’r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd Duw ateb.

Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a’i bechod i Israel. Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb. 10 Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd. 11 Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr, a’i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a’r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr Arglwydd yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr Arglwydd i’n plith? ni ddaw drwg arnom. 12 Am hynny o’ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.

Datguddiad 11

11 A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A’r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sydd yn addoli ynddi. Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd: a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain. Ac mi a roddaf allu i’m dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain. Y rhai hyn yw’r ddwy olewydden, a’r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw’r ddaear. Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o’u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae’n rhaid ei ladd ef. Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau’r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i’w troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont. A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o’r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a’u gorchfyga hwynt, ac a’u lladd hwynt. A’u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a’r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni. A’r rhai o’r bobloedd, a’r llwythau, a’r ieithoedd, a’r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau. 10 A’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o’u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i’w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni’r rhai oedd yn trigo ar y ddaear. 11 Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelodd hwynt. 12 A hwy a glywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i’r nef mewn cwmwl; a’u gelynion a edrychasant arnynt. 13 Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a’r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef. 14 Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae’r drydedd wae yn dyfod ar frys. 15 A’r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a’i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd. 16 A’r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, 17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn wyt yn dyfod; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist. 18 A’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a’r amser i farnu’r meirw, ac i roi gwobr i’th wasanaethwyr y proffwydi, ac i’r saint, ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha’r rhai sydd yn difetha’r ddaear. 19 Ac agorwyd teml Dduw yn y nef; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.