Old/New Testament
33 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Llefara, fab dyn, wrth feibion dy bobl, a dywed wrthynt, Pan ddygwyf gleddyf ar wlad, a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o’i chyrrau, a’i roddi yn wyliedydd iddynt: 3 Os gwêl efe gleddyf yn dyfod ar y wlad, ac utganu mewn utgorn, a rhybuddio y bobl; 4 Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o’r cleddyf a’i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun. 5 Efe a glybu lais yr utgorn, ac ni chymerodd rybudd; ei waed fydd arno: ond yr hwn a gymero rybudd, a wared ei enaid. 6 Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni utgana mewn utgorn, a’r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o’r cleddyf a chymryd un ohonynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd.
7 Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y’th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o’m genau, ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthyf fi. 8 Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Ti annuwiol, gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o’i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef. 9 Ond os rhybuddi di yr annuwiol o’i ffordd, i ddychwelyd ohoni; os efe ni ddychwel o’i ffordd, efe fydd farw yn ei anwiredd, a thithau a waredaist dy enaid.
10 Llefara hefyd wrth dŷ Israel, ti fab dyn, Fel hyn gan ddywedyd y dywedwch; Os yw ein hanwireddau a’n pechodau arnom, a ninnau yn dihoeni ynddynt, pa fodd y byddem ni byw? 11 Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o’r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, tŷ Israel, paham y byddwch feirw? 12 Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o’i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho. 13 Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, Gan fyw y caiff fyw; os efe a hydera ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofir; ond am ei anwiredd a wnaeth, amdano y bydd efe marw. 14 A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder; 15 Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw: 16 Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.
17 A meibion dy bobl a ddywedant, Nid yw union ffordd yr Arglwydd: eithr eu ffordd hwynt nid yw union. 18 Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, efe a fydd marw ynddynt. 19 A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei annuwioldeb, a gwneuthur barn a chyfiawnder, yn y rhai hynny y bydd efe byw. 20 Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr Arglwydd. Barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun.
21 Ac yn y degfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn o’n caethgludiad ni, ar y pumed dydd o’r mis, y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi, gan ddywedyd, Trawyd y ddinas. 22 A llaw yr Arglwydd a fuasai arnaf yn yr hwyr, cyn dyfod y dihangydd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod ataf y bore; ie, ymagorodd fy safn, ac ni bûm fud mwyach. 23 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 24 Ha fab dyn, preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru, gan ddywedyd, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth. 25 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr ydych yn bwyta ynghyd â’r gwaed, ac yn dyrchafu eich llygaid at eich gau dduwiau, ac yn tywallt gwaed; ac a feddiennwch chwi y tir? 26 Sefyll yr ydych ar eich cleddyf, gwnaethoch ffieidd‐dra, halogasoch hefyd bob un wraig ei gymydog; ac a feddiennwch chwi y tir? 27 Fel hyn y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Fel mai byw fi, trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch; a’r hwn sydd ar wyneb y maes, i’r bwystfil y rhoddaf ef i’w fwyta; a’r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac mewn ogofeydd, a fyddant feirw o’r haint. 28 Canys gwnaf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith; a balchder ei nerth ef a baid, ac anrheithir mynyddoedd Israel, heb gyniweirydd ynddynt. 29 A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith, am eu holl ffieidd‐dra a wnaethant.
30 Tithau fab dyn, meibion dy bobl sydd yn siarad i’th erbyn wrth y parwydydd, ac o fewn drysau y tai, ac yn dywedyd y naill wrth y llall, pob un wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Deuwch, atolwg, a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd. 31 Deuant hefyd atat fel y daw y bobl, ac eisteddant o’th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond nis gwnânt hwy: canys â’u geneuau y dangosant gariad, a’u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd‐dod. 32 Wele di hefyd iddynt fel cân cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda: canys gwrandawant dy eiriau, ond nis gwnânt hwynt. 33 A phan ddelo hyn, (wele ef yn dyfod,) yna y cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg.
34 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2 Proffwyda, fab dyn, yn erbyn bugeiliaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, wrth y bugeiliaid, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain: oni phortha y bugeiliaid y praidd? 3 Y braster a fwytewch, a’r gwlân a wisgwch, y bras a leddwch; ond ni phorthwch y praidd. 4 Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith, a’r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a’r golledig ni cheisiasoch; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb. 5 A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt. 6 Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a’u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt.
7 Am hynny, fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd. 8 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, am fod fy mhraidd yn ysbail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwystfilod y maes, o eisiau bugail, ac na cheisiodd fy mugeiliaid fy mhraidd, eithr y bugeiliaid a’u porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd: 9 Am hynny, O fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid: a gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt, a gwnaf iddynt beidio â phorthi y praidd; a’r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy: canys gwaredaf fy mhraidd o’u safn hwy, fel na byddont yn ymborth iddynt.
11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele myfi, ie, myfi a ymofynnaf am fy mhraidd, ac a’u ceisiaf hwynt. 12 Fel y cais bugail ei ddiadell ar y dydd y byddo ymysg ei ddefaid gwasgaredig, felly y ceisiaf finnau fy nefaid, ac a’u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgarer hwynt iddo ar y dydd cymylog a thywyll. 13 A dygaf hwynt allan o fysg y bobloedd, a chasglaf hwynt o’r tiroedd, a dygaf hwynt i’w tir eu hun, a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Israel wrth yr afonydd, ac yn holl drigfannau y wlad. 14 Mewn porfa dda y porthaf hwynt, ac ar uchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt: yno y gorweddant mewn corlan dda, ie, mewn porfa fras y porant ar fynyddoedd Israel. 15 Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi a’u gorweddfâf hwynt, medd yr Arglwydd Dduw. 16 Y golledig a geisiaf, a’r darfedig a ddychwelaf, a’r friwedig a rwymaf, a’r lesg a gryfhaf: eithr dinistriaf y fras a’r gref; â barn y porthaf hwynt. 17 Chwithau, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn, rhwng yr hyrddod a’r bychod. 18 Ai bychan gennych bori ohonoch y borfa dda, oni bydd i chwi sathru dan eich traed y rhan arall o’ch porfeydd? ac yfed ohonoch y dyfroedd dyfnion, oni bydd i chwi sathru y rhan arall â’ch traed? 19 A’m praidd i, y maent yn pori sathrfa eich traed chwi; a mathrfa eich traed a yfant.
20 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt hwy; Wele myfi, ie, myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul. 21 Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd, a chornio ohonoch â’ch cyrn y rhai llesg oll, hyd oni wasgarasoch hwynt allan: 22 Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn. 23 Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a’u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a’u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt. 24 A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt, a’m gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr Arglwydd a leferais hyn. 25 Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i’r bwystfil drwg beidio o’r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd. 26 Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith: a gwnaf i’r glaw ddisgyn yn ei amser; cawodydd bendith a fydd. 27 A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a’r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt, a’u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt. 28 Ac ni byddant mwyach yn ysbail i’r cenhedloedd, a bwystfil y tir nis bwyty hwynt; eithr trigant mewn diogelwch, ac ni bydd a’u dychryno. 29 Cyfodaf iddynt hefyd blanhigyn enwog, ac ni byddant mwy wedi trengi o newyn yn y tir, ac ni ddygant mwy waradwydd y cenhedloedd. 30 Fel hyn y cânt wybod mai myfi yr Arglwydd eu Duw sydd gyda hwynt, ac mai hwythau, tŷ Israel, yw fy mhobl i, medd yr Arglwydd Dduw. 31 Chwithau, fy mhraidd, defaid fy mhorfa, dynion ydych chwi, myfi yw eich Duw chwi, medd yr Arglwydd Dduw.
5 Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir: 2 Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl; 3 Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i’r praidd. 4 A phan ymddangoso’r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant. 5 Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i’r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. 6 Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas: 7 Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. 8 Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. 9 Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd. 10 A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo. 11 Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 12 Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw’r hwn yr ydych yn sefyll ynddo. 13 Y mae’r eglwys sydd ym Mabilon, yn gydetholedig â chwi, yn eich annerch; a Marc, fy mab i. 14 Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yng Nghrist Iesu. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.