Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseciel 24-26

24 Drachefn yn y nawfed flwyddyn, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti enw y dydd hwn, fab dyn, ie, corff y dydd hwn: ymosododd brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem o fewn corff y dydd hwn. A thraetha ddihareb wrth y tŷ gwrthryfelgar, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gosod y crochan, gosod, a thywallt hefyd ddwfr ynddo. Casgl ei ddrylliau iddo, pob dryll teg, y morddwyd, a’r ysgwyddog; llanw ef â’r dewis esgyrn. Cymer ddewis o’r praidd, a chynnau yr esgyrn dano, a berw ef yn ferwedig; ie, berwed ei esgyrn o’i fewn.

Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywed fel hyn, Gwae ddinas y gwaed, y crochan yr hwn y mae ei ysgum ynddo, ac nid aeth ei ysgum allan ohono: tyn ef allan bob yn ddryll: na syrthied coelbren arno. Oherwydd ei gwaed sydd yn ei chanol: ar gopa craig y gosododd hi ef; nis tywalltodd ar y ddaear, i fwrw arno lwch: I beri i lid godi i wneuthur dial; rhoddais ei gwaed hi ar gopa craig, rhag ei guddio. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Gwae ddinas y gwaed! minnau a wnaf ei thanllwyth yn fawr. 10 Amlha y coed, cynnau y tân, difa y cig, a gwna goginiaeth, a llosger yr esgyrn. 11 A dod ef ar ei farwor yn wag, fel y twymo, ac y llosgo ei bres, ac y toddo ei aflendid ynddo, ac y darfyddo ei ysgum. 12 Ymflinodd â chelwyddau, ac nid aeth ei hysgum mawr allan ohoni: yn tân y bwrir ei hysgum hi. 13 Yn dy aflendid y mae ysgelerder: oherwydd glanhau ohonof di, ac nid wyt lân, o’th aflendid ni’th lanheir mwy, hyd oni pharwyf i’m llid orffwys arnat. 14 Myfi yr Arglwydd a’i lleferais: daw, a gwnaf; nid af yn ôl ac nid arbedaf, ac nid edifarhaf. Yn ôl dy ffyrdd, ac yn ôl dy weithredoedd, y barnant di, medd yr Arglwydd Dduw.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 16 Wele, fab dyn, fi yn cymryd oddi wrthyt ddymuniant dy lygaid â dyrnod: eto na alara ac nac wyla, ac na ddeued dy ddagrau. 17 Taw â llefain, na wna farwnad; rhwym dy gap am dy ben, a dod dy esgidiau am dy draed, ac na chae ar dy enau, na fwyta chwaith fara dynion. 18 Felly y lleferais wrth y bobl y bore; a bu farw fy ngwraig yn yr hwyr; a gwneuthum y bore drannoeth fel y gorchmynasid i mi.

19 A’r bobl a ddywedasant wrthyf, Oni fynegi i mi beth yw hyn i ni, gan i ti wneuthur felly? 20 Yna y dywedais wrthynt, Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 21 Dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn halogi fy nghysegr, godidowgrwydd eich nerth, dymuniant eich llygaid, ac anwyldra eich enaid: a’ch meibion a’ch merched, y rhai a adawsoch, a syrthiant gan y cleddyf. 22 Ac fel y gwneuthum i, y gwnewch chwithau; ni chaewch ar eich geneuau, ac ni fwytewch fara dynion. 23 Byddwch â’ch capiau am eich pennau, a’ch esgidiau am eich traed: ni alerwch, ac nid wylwch; ond am eich anwiredd y dihoenwch, ac ochneidiwch bob un wrth ei gilydd. 24 Felly y mae Eseciel yn arwydd i chwi: yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe, y gwnewch chwithau: a phan ddelo hyn, chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw. 25 Tithau fab dyn, onid yn y dydd y cymeraf oddi wrthynt eu nerth, llawenydd eu gogoniant, dymuniant eu llygaid, ac anwyldra eu henaid, eu meibion a’u merched, 26 Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddihango, atat, i beri i ti ei glywed â’th glustiau? 27 Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddihango; lleferi hefyd, ac ni byddi fud mwy: a byddi iddynt yn arwydd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

25 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf gan ddywedyd, Ha fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon, a phroffwyda yn eu herbyn hwynt; A dywed wrth feibion Ammon, Gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am ddywedyd ohonot, Ha, ha, yn erbyn fy nghysegr, pan halogwyd; ac yn erbyn tir Israel, pan anrheithiwyd; ac yn erbyn tŷ Jwda, pan aethant mewn caethglud: Am hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu palasau ynot, ac y gosodant eu pebyll o’th fewn: hwy a ysant dy ffrwyth, a hwy a yfant dy laeth. Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot â’th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon â’th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel; Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th roddaf yn fwyd i’r cenhedloedd, ac a’th dorraf ymaith o fysg y bobloedd, ac a’th ddifethaf o’r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd: Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o’r dinasoedd, o’i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Beth‐jesimoth, Baal‐meon, a Ciriathaim, 10 I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon, a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd. 11 Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Jwda wrth wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt; 13 Am hynny, medd yr Arglwydd Dduw, yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom, a thorraf ohoni ddyn ac anifail; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman; a’r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf. 14 A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel: a hwy a wnânt ag Edom yn ôl fy nicllonedd, ac yn ôl fy llid; fel y gwypont fy nialedd, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am wneuthur o’r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial trwy ddirmyg calon, i’w dinistrio am yr hen gas; 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid, a thorraf ymaith y Cerethiaid, a difethaf weddill porthladd y môr. 17 A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf fy nialedd arnynt.

26 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem, Aha, torrwyd hi, pyrth y bobloedd: trodd ataf fi: fo’m llenwir; anrheithiedig yw hi: Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, O Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i’th erbyn, fel y cyfyd y môr ei donnau. A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus, a’i thyrau a ddinistriant: minnau a grafaf ei llwch ohoni, ac a’i gwnaf yn gopa craig. Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr: canys myfi a lefarodd hyn, medd yr Arglwydd Dduw: a hi a fydd yn ysbail i’r cenhedloedd. Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â’r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dwyn ar Tyrus, o’r gogledd, Nebuchodonosor brenin Babilon, brenin brenhinoedd, â meirch ac â cherbydau, ac â marchogion, a thorfoedd, a phobl lawer. Dy ferched a ladd efe yn y maes â’r cleddyf; ac a esyd wrthglawdd i’th erbyn, ac a fwrw glawdd i’th erbyn, ac a gyfyd darian i’th erbyn. Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a’th dyrau a fwrw efe i lawr â’i fwyeill. 10 Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a’th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a’r olwynion, a’r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog. 11 A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll: dy bobl a ladd efe â’r cleddyf, a’th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i’r llawr. 12 A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddinistriant dy geyrydd, a’th dai dymunol a dynnant i lawr: a’th gerrig, a’th goed, a’th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd. 13 A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio; ac ni chlywir mwy lais dy delynau. 14 A gwnaf di yn gopa craig: taenfa rhwydau fyddi: ni’th adeiledir mwy: canys myfi yr Arglwydd a’i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Tyrus: Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp, pan waeddo yr archolledig, pan ladder lladdfa yn dy ganol? 16 Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o’u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt. 17 Codant hefyd alarnad amdanat, a dywedant wrthyt, Pa fodd y’th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a’i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi? 18 Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith. 19 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y’th guddio dyfroedd lawer; 20 A’th ddisgyn ohonof gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, at y bobl gynt, a’th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, fel na’th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw; 21 Gwnaf di yn ddychryn, ac ni byddi: er dy geisio, ni’th geir mwy, medd yr Arglwydd Dduw.

1 Pedr 2

Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob gogan-air, Fel rhai bychain newydd-eni, chwenychwch ddidwyll laeth y gair, fel y cynyddoch trwyddo ef: Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion. At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr. A chwithau, megis meini bywiol, ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a’r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir. I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas: eithr i’r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl, Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i’r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd; i’r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd. Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau’r hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef: 10 Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd. 11 Anwylyd, yr wyf yn atolwg i chwi, megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid; 12 Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y gallont, oherwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. 13 Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad, oherwydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i’r brenin, megis goruchaf; 14 Ai i’r llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwgweithredwyr, a mawl i’r gweithredwyr da. 15 Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion: 16 Megis yn rhyddion, ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais, eithr fel gwasanaethwyr Duw. 17 Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin. 18 Y gweision, byddwch ddarostyngedig gyda phob ofn i’ch meistriaid; nid yn unig i’r rhai da a chyweithas, eithr i’r rhai anghyweithas hefyd. 19 Canys hyn sydd rasol, os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. 20 Oblegid pa glod yw, os, pan bechoch, a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os, a chwi’n gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol gerbron Duw. 21 Canys i hyn y’ch galwyd hefyd: oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef: 22 Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau: 23 Yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddioddefodd, ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn: 24 Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren; fel, gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. 25 Canys yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at Fugail ac Esgob eich eneidiau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.