Old/New Testament
37 A’r brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda. 2 Ond ni wrandawodd efe, na’i weision na phobl y tir, ar eiriau yr Arglwydd, y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd. 3 A’r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Gweddïa, atolwg, drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw. 4 A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl: canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy. 5 A llu Pharo a ddaethai allan o’r Aifft: a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt, hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem.
6 Yna gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, 7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn â mi; Wele, llu Pharo, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel i’w wlad ei hun, i’r Aifft. 8 A’r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac a’i henillant, ac a’i llosgant â thân. 9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Na thwyllwch eich hunain, gan ddywedyd, Diau yr â y Caldeaid oddi wrthym ni: oblegid nid ânt hwy. 10 Canys pe trawech chwi holl lu y Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i’ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân.
11 A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem, rhag llu Pharo, 12 Yna Jeremeia a aeth allan o Jerwsalem, i fyned i wlad Benjamin, i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl. 13 A phan oedd efe ym mhorth Benjamin, yr oedd yno ben‐swyddog, a’i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti. 14 Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a’i dygodd ef at y tywysogion. 15 Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a’i trawsant, ac a’i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy.
16 Pan ddaeth Jeremeia i’r daeardy, ac i’r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer; 17 Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a’i cymerodd ef allan: a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr Arglwydd? A dywedodd Jeremeia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon. 18 Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i’th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y’m rhoddasoch yn y carchardy? 19 Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi, gan ddywedyd, Ni ddaw brenin Babilon i’ch erbyn, nac yn erbyn y wlad hon? 20 Ac yn awr gwrando, atolwg, O fy arglwydd frenin: atolwg, deued fy ngweddi ger dy fron; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag fy marw yno. 21 Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.
38 Yna Seffatia mab Mattan, a Gedaleia mab Pasur, a Jucal mab Selemeia, a Phasur mab Malcheia, a glywsant y geiriau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd. 3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon, yr hwn a’i hennill hi. 4 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed. 5 A’r brenin Sedeceia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi. 6 Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond tom: felly Jeremeia a lynodd yn y dom.
7 A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o’r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a’r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,) 8 Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin, ac a lefarodd wrth y brenin, gan ddywedyd, 9 O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i’r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas. 10 Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Cymer oddi yma ddengwr ar hugain gyda thi, a chyfod Jeremeia y proffwyd o’r daeardy cyn ei farw. 11 Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a’u gollyngodd i waered at Jeremeia i’r daeardy wrth raffau. 12 Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a’r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. A Jeremeia a wnaeth felly. 13 Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a’i codasant ef o’r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.
14 Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i’r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr Arglwydd; a’r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi. 15 A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia, Os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf? 16 Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes. 17 Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, Duw Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a’th deulu. 18 Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a’i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt. 19 A’r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i’r rhai hynny fy ngwatwar. 20 A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a’th enaid a fydd byw. 21 Ond os gwrthodi fyned allan, dyma y gair a ddangosodd yr Arglwydd i mi: 22 Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a’th hudasant, ac a’th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl. 23 Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt; canys â llaw brenin Babilon y’th ddelir; a’r ddinas hon a losgi â thân.
24 Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, Na chaffed neb wybod y geiriau hyn, ac ni’th roddir i farwolaeth. 25 Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant atat ti, a dywedyd wrthyt, Mynega yn awr i ni beth a draethaist ti wrth y brenin; na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau: 26 Yna dywed wrthynt, Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin, na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno. 27 Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia, ac a’i holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a orchmynasai y brenin: felly hwy a beidiasant ag ymddiddan ag ef, canys ni chafwyd clywed y peth. 28 A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy hyd y dydd yr enillwyd Jerwsalem; ac yno yr oedd efe pan enillwyd Jerwsalem.
39 Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, ar y degfed mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a warchaeasant arni. 2 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o’r mis, y torrwyd y ddinas. 3 A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth canol, sef Nergal‐sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal‐sareser, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.
4 A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a’r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i’r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua’r anialwch. 5 A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a’i daliasant ef, ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribla yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe farn arno. 6 Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribla o flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda. 7 Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef â chadwynau i’w ddwyn i Babilon.
8 A’r Caldeaid a losgasant dŷ y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem. 9 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid. 10 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda, ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.
11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd, 12 Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo. 13 Felly Nebusaradan pennaeth y milwyr a anfonodd, Nebusasban hefyd, Rabsaris, a Nergal‐sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon; 14 Ie, hwy a anfonasant, ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy, ac a’i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, i’w ddwyn adref: felly efe a drigodd ymysg y bobl.
15 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd, 16 Dos, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a baraf i’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er lles, a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw. 17 Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, ac ni’th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt. 18 Canys gan achub mi a’th achubaf, ac ni syrthi trwy y cleddyf, eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti, am i ti ymddiried ynof fi, medd yr Arglwydd.
3 Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o’r galwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu; 2 Yr hwn sydd ffyddlon i’r hwn a’i hordeiniodd ef, megis ag y bu Moses yn ei holl dŷ ef. 3 Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na’r tŷ. 4 Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. 5 A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru; 6 Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd. 7 Am hynny, megis y mae’r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, 8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch: 9 Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. 10 Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i: 11 Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i’m gorffwysfa. 12 Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw. 13 Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod. 14 Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd; 15 Tra dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad. 16 Canys rhai, wedi gwrando, a’i digiasant ef: ond nid pawb a’r a ddaethant o’r Aifft trwy Moses. 17 Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch? 18 Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn i’w orffwysfa ef? onid wrth y rhai ni chredasant? 19 Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.