Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 22-23

22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Dos di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn; A dywed, Gwrando air yr Arglwydd, frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a’th weision, a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn: Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr: na wnewch gam, ac na threisiwch y dieithr, yr amddifad, na’r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn. Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a’i weision, a’i bobl. Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy hun y tyngaf, medd yr Arglwydd, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol. Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithwyr, pob un â’i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a’u bwriant i’r tân. A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon, ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r ddinas fawr hon? Yna yr atebant, Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr Arglwydd eu Duw, ac addoli duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt.

10 Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wêl wlad ei enedigaeth. 11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad, yr hwn a aeth allan o’r lle hwn; Ni ddychwel efe yno mwyach. 12 Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach.

13 Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder, a’i ystafellau trwy gam; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith: 14 Yr hwn a ddywed, Mi a adeiladaf i mi dŷ eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio â fermilion. 15 A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo? 16 Efe a farnodd gŵyn y tlawd a’r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr Arglwydd, 17 Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham. 18 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O iôr! neu, O ei ogoniant ef! 19 Â chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a’i daflu tu hwnt i byrth Jerwsalem.

20 Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o’r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a’th garant. 21 Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o’th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais. 22 A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a’th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y’th gywilyddir, ac y’th waradwyddir am dy holl ddrygioni. 23 Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor! 24 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw, diau y tynnwn di oddi yno: 25 A mi a’th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid. 26 Bwriaf dithau hefyd, a’th fam a’th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni’ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw. 27 Ond i’r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno. 28 Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a’i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant? 29 O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd. 30 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi‐blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o’i had ef un a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.

23 Gwae y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa! medd yr Arglwydd. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel yn erbyn y bugeiliaid sydd yn bugeilio fy mhobl; Chwi a wasgarasoch fy nefaid, ac a’u hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr Arglwydd. A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wledydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhânt ac y chwanegant. Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a’u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr Arglwydd.

Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna farn a chyfiawnder ar y ddaear. Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedant mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o wlad yr Aifft: Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny, ac a dywysodd had tŷ Israel o dir y gogledd, ac o bob gwlad lle y gyraswn i hwynt; a hwy a gânt aros yn eu gwlad eu hun.

Oherwydd y proffwydi y torrodd fy nghalon ynof, fy holl esgyrn a grynant: yr ydwyf fel un meddw, ac fel un wedi i win ei orchfygu; oherwydd yr Arglwydd, ac oherwydd geiriau ei sancteiddrwydd ef. 10 Canys llawn yw y ddaear o odinebwyr: canys oherwydd llwon y gofidiodd y ddaear, ac y sychodd tirion leoedd yr anialwch; a’u helynt sydd ddrwg, a’u cadernid nid yw uniawn. 11 Canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd a ragrithiasant: yn fy nhŷ hefyd y cefais eu drygioni hwynt, medd yr Arglwydd. 12 Am hynny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch; gyrrir hwynt rhagddynt, a syrthiant ynddi: canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd, sef blwyddyn eu gofwy, medd yr Arglwydd. 13 Ar broffwydi Samaria y gwelais hefyd beth diflas: proffwydasant yn Baal, a hudasant fy mhobl Israel. 14 Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a’i thrigolion fel Gomorra. 15 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am y proffwydi, Wele, mi a’u bwydaf hwynt â’r wermod, ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl: canys oddi wrth broffwydi Jerwsalem yr aeth lledrith allan i’r holl dir. 16 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr Arglwydd. 17 Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr Arglwydd a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed. 18 Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr Arglwydd, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a’i gwrandawodd? 19 Wele, corwynt yr Arglwydd a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus. 20 Digofaint yr Arglwydd ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur. 21 Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant. 22 A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i’m pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o’u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd. 23 Ai Duw o agos ydwyf fi, medd yr Arglwydd, ac nid Duw o bell? 24 A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr Arglwydd: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear? medd yr Arglwydd. 25 Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais. 26 Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt. 27 Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal. 28 Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a’r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr Arglwydd. 29 Onid yw fy ngair i megis tân? medd yr Arglwydd; ac fel gordd yn dryllio’r graig? 30 Am hynny wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr Arglwydd, y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau, bob un oddi ar ei gymydog. 31 Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr Arglwydd, y rhai a lyfnhânt eu tafodau, ac a ddywedant, Efe a ddywedodd. 32 Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog, medd yr Arglwydd, ac a’u mynegant, ac a hudant fy mhobl â’u celwyddau, ac â’u gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchymyn iddynt: am hynny ni wnânt ddim lles i’r bobl hyn, medd yr Arglwydd.

33 A phan ofynno y bobl hyn, neu y proffwyd, neu yr offeiriad, i ti, gan ddywedyd, Beth yw baich yr Arglwydd? yna y dywedi wrthynt, Pa faich? eich gwrthod a wnaf, medd yr Arglwydd. 34 A’r proffwyd, a’r offeiriad, a’r bobl, y rhai a ddywedo, Baich yr Arglwydd, myfi a ymwelaf â’r gŵr hwnnw, ac â’i dŷ. 35 Fel hyn y dywedwch bob un wrth ei gymydog, a phob un wrth ei frawd, Beth a atebodd yr Arglwydd? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd? 36 Ond am faich yr Arglwydd na wnewch goffa mwyach; canys baich i bawb fydd ei air ei hun: oherwydd chwychwi a wyrasoch eiriau y Duw byw, Arglwydd y lluoedd, ein Duw ni. 37 Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd, Pa ateb a roddodd yr Arglwydd i ti? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd? 38 Ond gan eich bod yn dywedyd, Baich yr Arglwydd; am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, Baich yr Arglwydd, a mi wedi anfon atoch, gan ddywedyd, Na ddywedwch, Baich yr Arglwydd: 39 Am hynny wele, myfi a’ch llwyr anghofiaf chwi, ac mi a’ch gadawaf chwi, a’r ddinas yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau, ac a’ch bwriaf allan o’m golwg. 40 A mi a roddaf arnoch warthrudd tragwyddol, a gwaradwydd tragywydd, yr hwn nid anghofir.

Titus 1

Paul, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb; I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd; Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr; At Titus, fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni. Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti: Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd: Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus; Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd. 10 Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer‐siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o’r enwaediad: 11 Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid, er mwyn budrelw. 12 Un ohonynt hwy eu hunain, un o’u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddïog. 13 Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd; 14 Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd. 15 Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur: eithr i’r rhai halogedig a’r di‐ffydd, nid pur dim; eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy. 16 Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.