Old/New Testament
53 Pwy a gredodd i’n hymadrodd? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 2 Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn o dir sych: nid oes na phryd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef. 3 Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwŷr; gŵr gofidus, a chynefin â dolur: ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono.
4 Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan Dduw, a’i gystuddio. 5 Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni. 6 Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i’w ffordd ei hun: a’r Arglwydd a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd. 7 Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau: fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau. 8 O garchar ac o farn y cymerwyd ef: a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl. 9 Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwolaeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau.
10 Eithr yr Arglwydd a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef. 11 O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. 12 Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.
54 Cân, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd amlach meibion yr hon a adawyd, na’r hon y mae gŵr iddi, medd yr Arglwydd. 2 Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy raffau, a sicrha dy hoelion. 3 Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a’th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol. 4 Nac ofna; canys ni’th gywilyddir: ac na’th waradwydder, am na’th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach. 5 Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; Arglwydd y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef. 6 Canys fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y’th alwodd yr Arglwydd, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy Dduw. 7 Dros ennyd fechan y’th adewais; ond â mawr drugareddau y’th gasglaf. 8 Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr Arglwydd dy Waredydd. 9 Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn. 10 Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt.
11 Y druan, helbulus gan dymestl, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy gerrig di â charbuncl, ac a’th sylfaenaf â meini saffir. 12 Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a’th byrth o feini disglair, a’th holl derfynau o gerrig dymunol. 13 Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd; a mawr fydd heddwch dy feibion. 14 Mewn cyfiawnder y’th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat. 15 Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasglant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn, efe a syrth. 16 Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i’w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio.
17 Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd.
55 O Deuwch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth. 2 Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster. 3 Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd. 4 Wele, rhoddais ef yn dyst i’r bobl, yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd. 5 Wele, cenedl nid adwaeni a elwi, a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat, er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac oherwydd Sanct Israel: canys efe a’th ogoneddodd.
6 Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos. 7 Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein Duw ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.
8 Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd. 9 Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi. 10 Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i’r heuwr, a bara i’r bwytawr: 11 Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid. 12 Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y’ch arweinir; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo. 13 Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i’r Arglwydd yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.
1 Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist: 2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3 Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu; 4 Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a’ch ffydd yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef: 5 Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y’ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef. 6 Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i’r rhai sydd yn eich cystuddio chwi; 7 Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o’r nef, gyda’i angylion nerthol, 8 A thân fflamllyd, gan roddi dial i’r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist: 9 Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef; 10 Pan ddêl efe i’w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i’n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw. 11 Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i’n Duw ni eich cyfrif chwi’n deilwng o’r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol: 12 Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.