Old/New Testament
32 Wele, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a lywodraethant mewn barn. 2 A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig. 3 Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant. 4 Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur. 5 Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw. 6 Canys coegwr a draetha goegni, a’i galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr Arglwydd, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu. 7 Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn. 8 Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe.
9 Cyfodwch, wragedd di‐waith; clywch fy llais: gwrandewch fy ymadrodd, ferched diofal. 10 Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi, wragedd difraw: canys darfu y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull. 11 Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau. 12 Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon. 13 Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobl, ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd. 14 Canys y palasau a wrthodir, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynnod gwylltion, yn borfa diadellau; 15 Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir. 16 Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y doldir. 17 A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch, hyd byth. 18 A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd. 19 Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel. 20 Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch draed yr ych a’r asyn yno.
33 Gwae di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na wnaed yn anffyddlon â thi: pan ddarffo i ti anrheithio, y’th anrheithir; a phan ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant anffyddlon i ti. 2 Arglwydd, trugarha wrthym; wrthyt y disgwyliasom: bydd fraich iddynt bob bore, a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd. 3 Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd. 4 A’ch ysbail a gynullir fel cynulliad lindys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt. 5 Dyrchafwyd yr Arglwydd; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder. 6 A sicrwydd dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr Arglwydd yw ei drysor ef. 7 Wele, eu rhai dewrion a waeddant oddi allan: cenhadon heddwch a wylant yn chwerw. 8 Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfu cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion. 9 Galarodd a llesgaodd y ddaear; cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel. 10 Cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd: ymddyrchafaf weithian; ymgodaf bellach. 11 Chwi a ymddygwch us, ac a esgorwch ar sofl; eich anadl fel tân a’ch ysa chwi. 12 A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch, fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân.
13 Gwrandewch, belledigion, yr hyn a wneuthum; a gwybyddwch, gymdogion, fy nerth. 14 Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol? 15 Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw trawster, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr, a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni; 16 Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr. 17 Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch: gwelant y tir pell. 18 Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau? 19 Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech. 20 Gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o’i hoelion byth, ac ni thorrir un o’i rhaffau. 21 Eithr yr Arglwydd ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a ffrydiau llydain: y rhwyflong nid â trwyddo, a llong odidog nid â drosto. 22 Canys yr Arglwydd yw ein barnwr, yr Arglwydd yw ein deddfwr, yr Arglwydd yw ein brenin; efe a’n ceidw. 23 Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth. 24 Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.
1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd, 2 At y saint a’r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3 Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddïo drosoch chwi yn wastadol, 4 Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint; 5 Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl: 6 Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd: 7 Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd‐was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist; 8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd. 9 Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol; 10 Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw; 11 Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; 12 Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: 13 Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: 14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: 15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur: 16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. 17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. 18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. 19 Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; 20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. 21 A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe, 22 Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef: 23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog: 24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni’r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw’r eglwys: 25 I’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i gyflawni gair Duw; 26 Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i’w saint ef: 27 I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant: 28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu: 29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.