Old/New Testament
20 Yn y flwyddyn y daeth Tartan i Asdod, pan ddanfonodd Sargon brenin Asyria ef, ac yr ymladdodd yn erbyn Asdod ac a’i henillodd hi; 2 Yr amser hwnnw y bu gair yr Arglwydd trwy law Eseia mab Amos, gan ddywedyd, Dos, a datod y sachliain oddi am dy lwynau, a diosg dy esgidiau oddi am dy draed. Ac efe a wnaeth felly, gan rodio yn noeth, ac heb esgidiau. 3 Dywedodd yr Arglwydd hefyd, Megis y rhodiodd fy ngwas Eseia yn noeth ac heb esgidiau dair blynedd yn arwydd ac yn argoel yn erbyn yr Aifft, ac yn erbyn Ethiopia; 4 Felly yr arwain brenin Asyria gaethiwed yr Aifft, a chaethglud Ethiopia, sef yn llanciau a hynafgwyr, yn noethion ac heb esgidiau, ac yn dinnoeth, yn warth i’r Aifft. 5 Brawychant a chywilyddiant o achos Ethiopia eu gobaith hwynt, ac o achos yr Aifft eu gogoniant hwy. 6 A’r dydd hwnnw y dywed preswylwyr yr ynys hon, Wele, fel hyn y mae ein gobaith ni, lle y ffoesom am gymorth i’n gwared rhag brenin Asyria: a pha fodd y dihangwn?
21 Baich anialwch y môr. Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwodd; felly y daw o’r anialwch, o wlad ofnadwy. 2 Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a’r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i’w holl riddfan hi ddarfod. 3 Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur; gwewyr a’m daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled. 4 Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a’m dychrynodd; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi. 5 Paratoa y bwrdd, gwylia yn y ddisgwylfa, bwyta, yf; cyfodwch, dywysogion; eneiniwch y darian. 6 Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dos, gosod wyliedydd, myneged yr hyn a welo. 7 Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch, cerbyd asynnod, a cherbyd camelod; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben. 8 Ac efe a lefodd, Llew: fy arglwydd, ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos. 9 Ac wele, yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr, a dau o wŷr meirch. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr. 10 O fy nyrniad, a chnwd fy llawr dyrnu! yr hyn a glywais gan Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegais i chwi.
11 Baich Duma, Arnaf fi y mae yn galw o Seir, Y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? 12 Dywedodd y gwyliedydd, Daeth y bore a’r nos hefyd: os ceisiwch, ceisiwch: dychwelwch, deuwch.
13 Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim. 14 Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â’r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus â’i fara. 15 Oherwydd rhag cleddyfau y ffoesant, rhag y cleddyf noeth, a rhag y bwa anelog, a rhag trymder rhyfel. 16 Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi, Cyn pen blwyddyn, o fath blwyddyn gwas cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar: 17 A’r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar, a leiheir: canys Arglwydd Dduw Israel a’i dywedodd.
22 Baich glyn gweledigaeth. Beth a ddarfu i ti yn awr, pan ddringaist ti oll i nennau y tai? 2 Ti yr hon wyt yn llawn terfysg, yn ddinas derfysgol, yn ddinas lawen: dy laddedigion ni laddwyd â chleddyf, na’th feirw mewn rhyfel. 3 Dy holl dywysogion a gydffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd, y rhai a ffoesant o bell. 4 Am hynny y dywedais, Edrychwch oddi wrthyf; mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghysuro, am ddinistr merch fy mhobl. 5 Oherwydd diwrnod blinder yw, a mathru, a drysni, gan Arglwydd Dduw y lluoedd, yng nglyn gweledigaeth, yn difurio y gaer, ac yn gweiddi i’r mynydd. 6 Elam hefyd a ddug y cawell saethau, mewn cerbydau dynion a gwŷr meirch; Cir hefyd a ddinoethodd y darian. 7 A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol yn llawn o gerbydau, a’r gwŷr meirch a ymfyddinant tua’r porth.
8 Ac efe a ddinoethodd do Jwda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ’r goedwig. 9 A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd, mai aml oeddynt; a chasglasoch ddyfroedd y pysgodlyn isaf. 10 Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem, a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau’r mur. 11 A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a’i lluniodd ef er ys talm. 12 A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu â sachliain: 13 Ac wele lawenydd a gorfoledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, gan fwyta cig, ac yfed gwin: bwytawn ac yfwn; canys yfory, meddant, y byddwn feirw. 14 A datguddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
15 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, sef at Sebna, yr hwn sydd benteulu, a dywed, 16 Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig? 17 Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost, a chan wisgo a’th wisg di. 18 Gan dreiglo y’th dreigla di, fel treiglo pêl i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr. 19 Yna y’th yrraf o’th sefyllfa, ac o’th sefyllfa y dinistria efe di.
20 Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia: 21 A’th wisg di hefyd y gwisgaf ef, ac â’th wregys di y nerthaf ef; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di: ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem, ac i dŷ Jwda. 22 Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef: yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro. 23 A mi a’i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad. 24 Ac arno ef y crogant holl ogoniant tŷ ei dad, hil ac epil; yr holl fân lestri; o’r llestri meiliau, hyd yr holl offer cerdd. 25 Yn y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth oedd arni; canys yr Arglwydd a’i dywedodd.
6 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn. 2 Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid;) 3 Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear. 4 A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. 5 Y gweision, ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist; 6 Nid â golwg‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon; 7 Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion: 8 Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo. 9 A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef. 10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef. 11 Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. 12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. 13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll. 14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; 15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: 16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. 17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw: 18 Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint; 19 A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; 20 Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu. 21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth: 22 Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi. 23 Tangnefedd i’r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 24 Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen.
At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.